Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 12 Mehefin 2018.
Wel, yn y pen draw, wrth gwrs, cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw rheoli clymog Japan ar ei dir. Gallaf ddweud ein bod ni wedi dyfarnu £50,000 i bum cyngor yn ddiweddar drwy'r cynllun ariannu seilwaith gwyrdd i ymgymryd â phrosiect i fynd i'r afael â rhywogaethau planhigion estron goresgynnol ar dros 1,000 o safleoedd ledled y pum sir hynny. Bydd hefyd yn hyfforddi gwirfoddolwyr cymunedol i helpu i reoli'r planhigion hynny, a chyhoeddwyd taflen wybodaeth wedi'i diweddaru gennym yn ddiweddar ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol, sy'n cynnwys cyngor ar gamau ar dir y maen nhw'n ei reoli.