Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 12 Mehefin 2018.
Arweinydd y tŷ, amser cinio heddiw, roeddwn i'n falch o gael mynd i ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Julie Morgan ar gyfer Gofal Canser y Fron yn y Pierhead, a gwn fod aelodau eraill—Siân Gwenllian, Jenny Rathbone, rwy'n credu, a Hannah Blythyn—yn bresennol hefyd. Roedd yn ddigwyddiad ardderchog, teimladwy iawn mewn gwirionedd, i glywed am brofiadau o ganser y fron gan bobl sy'n dioddef eu hunain. Mae'r sefydliad yn ceisio darparu gwell gofal cyffredinol yn dilyn triniaeth feddygol ar gyfer canser y fron. Felly, tybed, yn sgil y digwyddiad hwnnw a rhai o'r materion diddorol iawn a godwyd, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut yr ydych yn bwriadu cefnogi sefydliadau fel hyn fel nad yw pobl sydd wedi cael llawdriniaeth canser y fron yn teimlo eu bod ar eu pennau eu hunain yn llwyr wedi hynny, ond eu bod yn teimlo bod ganddynt y gofal cyffredinol a'r cymorth hwnnw sydd eu hangen arnyn nhw i wella'n llawn ac yn barhaol.