Part of the debate – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 12 Mehefin 2018.
Roeddwn i'n falch iawn o weld bod Stella Creasy wedi cael y ddadl honno. Gwn fod yr Ysgrifennydd iechyd yn awyddus iawn i edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i helpu. Ac rwy'n siŵr y bydd yn hapus iawn i ystyried beth y gallwn ni ei wneud, os gallwn ni, i helpu pobl sydd wedi'u dal yn y sefyllfa honno, sy'n rhywbeth sydd—wel, mae y tu hwnt i amgyffred yr hyn y mae rhywun yn mynd drwyddi yn y sefyllfa honno. Felly, gwn y bydd yn hapus iawn i edrych ar hynny.