2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 12 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:36, 12 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Ddydd Sul, cymerais ran mewn digwyddiad casglu sbwriel ar draeth Llandanwg, a gwnaethom ni gasglu'r sbwriel hyn o fewn un fetr sgwâr o forlin y traeth hwnnw. Fel y gallwch chi ei weld, mae hyn yn llawer iawn o sbwriel, a chofiwch mai gwerth un fetr sgwâr oddi ar linell y llanw yw hwn. Byddwch yn gweld bod 99 y cant ohono yn blastig, ond llawer iawn ohono yw'r gwellt plastig bach iawn o'r diodydd hynny y mae'r rhan fwyaf o blant yn eu hyfed. Felly, y cwestiwn yr wyf i'n dymuno'i ofyn, arweinydd y tŷ, yw a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried edrych ar atal neu, yn wir, leihau cyflenwad y mathau hynny o wellt drwy ei pholisi caffael cyhoeddus. Yn 2015, gwnaeth eich rhagflaenydd y datganiad hwn:

'Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) yn rhoi cyfle newydd i ni hybu egwyddorion caffael cyhoeddus yng Nghymru, gan adeiladu ar y gwaith da ers 2012. Golyga rhoi hyn ar waith yn y gwasanaeth cyhoeddus fod rhaid i ni barhau i edrych tuag at ein cenedlaethau i ddod a sicrhau canlyniadau mwy cynaliadwy o'n caffael fel y gallai ein gwariant helpu i gyflawni'r saith nod llesiant' a nodir yn y Ddeddf honno. Byddwn i'n gofyn ein bod, trwy ein prosesau caffael cyhoeddus, yn edrych o ddifri ar ehangu caffael moesegol i gynnwys gofalu am yr amgylchedd, ac i edrych yn arbennig i sicrhau nad yw'r gwasanaethau yr ydym ni'n eu caffael yn ychwanegu at fwy o sbwriel ar y draethlin, wrth i un fetr sgwâr gynhyrchu cymaint â hynny o sbwriel.