Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 12 Mehefin 2018.
Ie, ac rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn, ac mae'n bwynt yr hoffai pob un ohonom ni sy'n cerdded ar hyd y draethlin ei atgyfnerthu. Rydym ni i gyd wedi cael gohebiaeth ysgrifenedig, rwy'n siŵr, gan nifer o ysgolion yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ein hunain yn gofyn inni beth ar y ddaear yr ydym ni'n ei wneud i leihau hyn ac yn rhoi enghreifftiau penodol. Yn sicr, mae ysgolion yn fy etholaeth i wedi ysgrifennu ataf yn gofyn beth yr ydym ni'n ei wneud. Mae gennym ni Gwerth Cymru a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn gweithio'n agos gyda swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a WRAP i ddatblygu a chyflawni sawl cynllun arbrofol ar y cyd ag awdurdodau lleol a phartneriaid ledled Cymru i ddangos dulliau newydd ym maes caffael sy'n llwyr ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae un o'r cynlluniau arbrofol hynny yn ymwneud â gwellt plastig. Mae swyddogion yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i ddatblygu amrywiaeth o ddulliau o nodi tueddiadau a gweithredu camau i leihau neu ddileu'r defnydd o blastigau, gan gynnwys deunydd pacio bwyd a gwellt, yn ein contractau yn y dyfodol. Rydym ni hefyd yn ymgynghori ar y mesurau hynny â chyflenwyr ym mis Mehefin—nawr, Mehefin 2018—a bydd yn monitro canlyniadau yn rhan o reoli contract ffurfiol y cyflenwyr hynny wrth symud ymlaen.
Mae gennym ni amrywiaeth o bethau eraill yr ydym ni'n eu hystyried, ac un o'r cynlluniau arbrofol, er enghraifft—bydd gan y Llywydd ddiddordeb arbennig i wybod—yw cefnogi Cyngor Sir Ceredigion â'u fframwaith nwyddau arlwyo tafladwy cydweithredol, sy'n ymwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn llwyr ac yn ystyried dewisiadau amgen cynaliadwy i blastigau ledled y sir. Felly, rydym yn ystyried amrywiaeth o gynlluniau arbrofol yn rhanbarth Joyce Watson, y bydd ganddi ddiddordeb arbennig ynddyn nhw, a'r hyn yr ydym ni'n ceisio'i weld yw pa mor gyflym y gallwn ni gyflwyno'r rhain ledled Cymru fel y gallwn ni ddileu'r pla o blastig yn ein cefnforoedd, a gwn y bydd yr Aelodau wedi gweld rhaglenni ar y teledu ynghylch—treiddiad microblastigau ar draws yr Arctig, yn arbennig, sy'n beth ofnadwy i edrych arno. Felly, gorau po gyntaf y byddwn yn gweithredu.