Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 12 Mehefin 2018.
Diolch, Llywydd. Ddoe, gosodais Fil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru), ynghyd â'r memorandwm esboniadol, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i wneud datganiad am y Bil. Bydd Aelodau yn gwybod ein bod yn ymrwymedig i gael gwared ar rwystrau o ran cael mynediad a gallu symud o fewn y sector rhentu preifat. Mae 'Ffyniant i Bawb', ein strategaeth genedlaethol, yn cydnabod na all pobl fyw yn dda heb gartrefi fforddiadwy o ansawdd da. Rydym yn awyddus i wneud rhentu yn breifat yn ddewis cadarnhaol sydd ar gael yn eang. I'r perwyl hwnnw, rwy'n credu ei bod yn rhaid i unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â rhentu fod yn rhesymol, yn fforddiadwy ac yn dryloyw.
Yn anffodus, mae tystiolaeth yn dangos bod y ffioedd a godir ar hyn o bryd gan asiantau gosod tai yn aml yn rhwystr sylweddol i lawer o denantiaid. Mae hynny'n arbennig o wir am bobl sy'n byw ar incwm llai, gan gynnwys cyplau ifanc sy'n dechrau ar eu bywyd gyda'i gilydd, myfyrwyr sy'n byw ar incwm cyfyngedig, neu rieni sengl sy'n cael trafferth i gael dau ben llinyn ynghyd, er enghraifft. Gall ffioedd arwain at unigolion neu deuluoedd yn benthyca arian oddi ar ffrindiau neu berthnasau, yn cael trafferth i dalu biliau, neu'n mynd i ddyled. Efallai eu bod yn mynd i orddrafft neu, yn yr achosion gwaethaf, fe allen nhw droi at fenthyciadau diwrnod cyflog neu fenthycwyr carreg y drws. Fe wyddom fod tenantiaid yn aml yn cael yr un yr un lefel o wasanaeth gan asiantau, ond eu bod yn gweld amrywiaeth eang yn yr hyn y mae disgwyl iddyn nhw ei dalu. Mae'n amheus a yw'r costau a delir yn gyson â'r ffioedd y mae'n ofynnol i denantiaid eu talu. A, beth bynnag, mae landlordiaid hefyd yn talu asiantau am osod tai ac am wasanaethau rheoli eiddo. Mae'r gofyniad i dalu'r ffioedd hyn yn ei gwneud yn anoddach hefyd i gynllunio ar gyfer tenantiaeth, ac mae hynny wedyn yn effeithio ar fforddiadwyedd a hygyrchedd y sector rhentu preifat. Nid yw tenantiaid fel arfer yn herio neu fargeinio gydag asiantau, yn aml am eu bod yn daer am ddod o hyd i gartref yn wyneb cystadleuaeth gan denantiaid eraill. Mae tenantiaid hefyd mewn sefyllfa lle nad oes ond un asiant rheoli ar eiddo bron yn ddieithriad, sy'n golygu nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond talu'r ffi y mae'r asiant hwnnw'n ei ofyn os ydyn nhw'n awyddus i rentu'r eiddo.
I ymateb i'r pryderon hyn, bydd y Bil yn gwneud y costau y bydd y tenantiaid yn eu hwynebu yn y dyfodol yn llai o lawer ac yn haws eu deall. Cafodd y Bil ei ddrafftio yng ngoleuni Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ac felly mae'n berthnasol i ddeiliaid contract. Ni fydd tâl yn cael ei godi arnyn nhw mwyach am fynd i weld eiddo gyda rhywun, am gael rhestr eiddo, nac am lofnodi contract. Ni fydd yn rhaid iddyn nhw dalu am adnewyddu tenantiaeth mwyach. Ac ni fyddan nhw'n gweld ystod o wasanaethau yn cael ei hychwanegu at eu contract fel ffioedd wrth ymadael pan fyddan nhw'n symud allan mwyach. Bydd taliadau yn llawer mwy rhagweladwy, yn gyfyngedig i'r rhent, adneuon diogelwch, blaendaliadau cadw a diffygdaliadau. Rwy'n disgwyl na fydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o ddeiliaid contract ond meddwl am dalu eu rhent a dod o hyd i flaendal diogelwch. Mae'r Bil yn gwarantu hefyd na fydd blaendaliadau cadw ddim mwy na rhent un wythnos. Dyma'r gyfradd y mae'r rhan fwyaf o denantiaid yn ei thalu ar hyn o bryd, ond fwyf eisiau sicrhau bod y costau a wynebir ganddynt ar ddechrau eu contract i rentu cyn lleied ag y bodd modd. Yn yr un modd, mae'r rhan fwyaf o denantiaid ar hyn o bryd yn talu rhywbeth sy'n cyfateb i fis o rent fel blaendal diogelwch, a chredaf fod hynny'n rhesymol. Fodd bynnag, mae'r Bil yn darparu ar gyfer pŵer i wneud rheoliadau ynglŷn â maint y blaendal diogelwch. Mae'r amddiffyniad hwn wedi'i ddarparu i sicrhau ein bod yn gallu osgoi cynyddu costau i lefel afresymol.
Bydd llawer o asiantau a landlordiaid yn cydnabod diben y Bil, a fydd yn sicrhau ein bod yn gweld y newid mewn arfer yn y sector rhentu preifat yr wyf yn gwybod bod Aelodau wedi galw amdano. Os, yn y dyfodol, y bydd asiant neu landlord yn gofyn am daliadau sydd wedi'u gwahardd—hynny yw, taliadau ac eithrio'r taliadau a ganiateir—byddant yn cyflawni trosedd. Rydym hefyd wedi rhoi pwerau i awdurdodau tai lleol ymchwilio i droseddau ac erlyn pobl sy'n rhwystro'r ymchwiliadau hynny, er enghraifft drwy ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol.
Mae goblygiadau cyflawni trosedd yn ddifrifol. Gall awdurdodau tai lleol gyflwyno hysbysiad cosb benodedig o £500 i fodloni atebolrwydd i unigolyn y credant ei fod wedi cyflawni trosedd o ofyn am daliad gwaharddedig. Os na thelir y gosb, gellid dilyn hynny gan erlyn drwy'r llys ynadon. Bydd unigolyn sy'n euog o'r drosedd o ofyn am daliad gwaharddedig yn agored i ddirwy yn dilyn euogfarn ddiannod. Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol hysbysu Rhentu Doeth Cymru am euogfarn, sef yr awdurdod trwyddedu dynodedig o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, cyn gynted ag y daw'n ymwybodol o'r euogfarn. Gall torri'r gwaharddiad ar ffioedd olygu atal trwydded i waith gosod neu reoli eiddo. Felly, mae er lles yr unigolyn i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r Bil. Gadewch i mi fod yn glir iawn: gallai asiantau a landlordiaid roi eu busnes yn y fantol os cânt eu heuogfarnu o gyflawni trosedd.
Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil hwn i'w graffu gan y Cynulliad. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ymgysylltu â'r Cynulliad a phwyllgorau'r Cynulliad dros y misoedd nesaf ar y Bil yr wyf yn gobeithio fydd yn garreg filltir bwysig o ran gwella bywydau cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru sy'n rhentu yn y sector rhentu preifat ar hyn o bryd. Diolch.