Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 12 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau a'r cwestiynau yna ac am eich cydnabyddiaeth ar ddechrau eich cyfraniad fod yna, mewn gwirionedd, angen cyhoeddus am y ddeddfwriaeth hon, sydd wedi'i gydnabod ledled y DU ac yn sicr angen cyhoeddus i gynyddu'r tryloywder o fewn y sector a galluogi pobl i symud i mewn i'r sector a rhwng gwahanol eiddo o fewn y sector hefyd, oherwydd ar hyn o bryd mae'r ffioedd yn rhwystr i wneud hynny.
Fe wnaethoch chi gydnabod hefyd sut mae'r sector rhentu preifat yn rhan gynyddol bwysig o'r dirwedd tai yma yng Nghymru, gan sôn fod maint y sector wedi dyblu ers y flwyddyn 2000, gan gynrychioli 15 y cant o'r farchnad dai yma yng Nghymru erbyn hyn, ac rydym yn cydnabod y daw hynny'n gynyddol bwysig gyda threigl y blynyddoedd hefyd. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni yn parhau â'r gwaith yr ydym wedi ei ddechrau drwy ein Deddf rhentu cartrefi a darnau eraill o ddeddfwriaeth a pholisi i sicrhau bod y sector yn un deniadol, ei fod yn hygyrch, a'i fod yn deg a thryloyw. Ac mae'r darn hwn o ddeddfwriaeth yn gydnaws iawn â'r math o ymagwedd yr wyf i wedi ceisio ei chael hyd yn hyn. Roeddech chi hefyd yn rhoi rhai enghreifftiau o'r mathau o raddfeydd y ffioedd y gallai fod yn rhaid i bobl eu talu cyn cael gafael ar dŷ. Ar gyfer tŷ tair ystafell wely yng Nghaerdydd, byddai'n rhaid i bobl sicrhau dros £1,000 ymlaen llaw, sy'n swm enfawr o arian. Gallasai fod yn waharddol i nifer fawr o deuluoedd allu codi arian o'r fath yn y lle cyntaf.
Felly, caiff yr angen cyhoeddus hwn ei gydnabod ledled y DU, ac rydym yn edrych yn ofalus iawn ar y sefyllfa yn yr Alban, sydd wedi pasio deddfwriaeth ddwywaith ar y mater hwn, fel y dywedwch: unwaith, y tro cyntaf, nad oedd yn effeithiol ac, yn ail, yn ôl yn 2012, er mwyn tynhau'r rheolau a'i wneud yn ddarn mwy llym a chydlynol o ddeddfwriaeth. Mae'n ffaith, yn dilyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn yr Alban, y bu cynnydd yn lefel y rhent a delid gan bobl. Rwy'n gwybod bod yna hefyd bwyllgor craffu yn San Steffan a oedd yn edrych yn benodol ar hynny ac ni allodd ganfod tystiolaeth bendant fod y ddeddfwriaeth yn uniongyrchol gyfrifol am y cynnydd mewn ffioedd, ond, serch hynny, mae'n rhywbeth yr ydym yn effro iawn iddo—y ffaith y gallai fod cynnydd posibl yn lefel y rhent, dylwn ddweud, yn hytrach na ffioedd, o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon. Fodd bynnag, yn yr un modd, yn ein hymgynghoriad, rydym yn deall bod pobl yn cydnabod y gallasai fod cynnydd yn y rhent, ond, mewn gwirionedd, byddai cynnydd bach yn y rhent yn fwy deniadol iddyn nhw allu cynllunio cyllidebau eu haelwydydd ac ati, felly mae'n rhywbeth yr ydym ni'n effro iddo ac yn rhywbeth y gwn y bydd pwyllgorau yn ymddiddori'n fawr ynddo.
Rwyf wedi cael trafodaeth heddiw, mewn gwirionedd, gyda Chymdeithas y Landlordiaid Preswyl ynglŷn â'u pryderon penodol yn sgil y ddeddfwriaeth hon. Yn amlwg, maen nhw'n dod o safbwynt cryf o gynrychioli eu haelodaeth ac ni fyddem yn dymuno gweld landlordiaid yn dioddef anfantais oherwydd y darn hwn o ddeddfwriaeth. Mae'n debygol y bydd ffioedd landlordiaid yn cynyddu; mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydym yn ei gydnabod o fewn ein hasesiad rheoleiddio o ganlyniad i asiantau yn ceisio adennill eu harian o rywle arall. Ond, hefyd, mae gan landlordiaid bŵer sylweddol yn yr ystyr eu bod fel arfer yn gallu siopa o gwmpas i ddod o hyd i asiantau gosod tai y byddan nhw'n teimlo eu bod yn eu cynrychioli orau ac yn gwneud hynny mewn ffordd sydd yn rhoi gwerth am arian. Gwn fod y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi cyflwyno cynlluniau eraill hefyd fel—neu gynlluniau awgrymedig eraill—cynllun o fath yswiriant, er enghraifft. Rwy'n credu pa lwybr bynnag y byddwn yn ei ddatblygu—ac mae ein llwybr arfaethedig ni, wrth gwrs, yn y Bil—bydd yn rhaid iddo fod yn un nad yw'n rhoi pobl sydd ar incwm isel o dan anfantais, oherwydd dyna'n union beth yr ydym yn ceisio ei osgoi.
Roeddech chi'n sôn am Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015, ac mae honno, eto, yn un o'r cynigion sydd gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl yn y gwaith papur y maen nhw wedi'i gyflwyno o ran y Bil hwn. Ni fyddai'r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr yn gallu cyflawni'r hyn y credwn sydd ei angen arnom ni i wneud y sector rhentu preifat yn fforddiadwy a hygyrch, oherwydd un peth yw tryloywder, ond nid yw o reidrwydd yn golygu tegwch.
Mae taliadau y mae deiliaid contract yn eu hwynebu yn rhwystr sylweddol i nifer o denantiaid, ac ni fyddai Deddf 2015 yn gallu mynd i'r afael â bodolaeth ffioedd mawr ymlaen llaw na ffioedd adnewyddu, y mae ein deddfwriaeth ni yn ceisio ymdrin â nhw hefyd. Wedi dweud hynny, yn amlwg, rwyf wir yn croesawu'r ymgysylltiad a gawsom gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, a'r holl gyrff cynrychioliadol eraill wrth gyrraedd y fan hon gyda'r Bil, a'r sylwadau adeiladol y maen nhw wedi eu gwneud yn ein proses ymgynghori. Rwy'n siŵr y bydd y math hwn o ymgysylltu yn parhau wrth inni symud drwy'r broses graffu.