Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 12 Mehefin 2018.
Diolch, Llywydd. Mae’r mis nesaf yn nodi saith deg mlynedd o’r GIG. Mae gweledigaeth radical Aneurin Bevan, yn seiliedig ar fodel Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar, wedi trawsnewid gwasanaethau iechyd ar gyfer miliynau o bobl. Heddiw, mae’r GIG a'r sector gofal cymdeithasol yn hollbwysig i les ein cenedl. Ac eto, mae pawb yn y Siambr hon yn gwybod bod cyd-destun y gwasanaethau hyn wedi newid yn sylweddol. Mae mwy o bobl yn byw'n hirach. Mae hyn, wrth gwrs, yn un o gyflawniadau mwyaf cymdeithas, ac yn achos dathlu, ond mae’n achosi galw ychwanegol am wasanaethau cyhoeddus ar adeg pan fo dros wyth mlynedd o galedi’n cyfyngu’n sylweddol ar ein gallu i ymateb. Rydym ni hefyd yn gweld sut y mae cymdeithas fodern yn rhoi pwysau ar deuluoedd ac, yn benodol, ar blant. Dyma rai o'r rhesymau pwysig pam mae’r ffiniau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud llai o synnwyr gyda threigl amser.
Mae’r weledigaeth o wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol di-dor, mwy hygyrch, o ansawdd gwell yn un y mae'r Senedd i gyd yn ei rhannu. Dyna’r rheswm pam y cytunodd pob plaid yma i sefydlu adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yn ôl yn 2016. Ac roedd cefnogaeth drawsbleidiol i gylch gorchwyl yr adolygiad hwnnw, ac i aelodaeth y panel. Ac fe gyhoeddodd y panel arbenigol, annibynnol hwnnw, dan arweiniad medrus Dr Ruth Hussey, eu hadroddiad terfynol ym mis Ionawr eleni. Rydym ni wedi trafod yr adroddiad hwnnw yn y fan yma, yn eithaf manwl. Dywedodd y panel yn glir iawn fod angen dirfawr i gryfhau'r ymateb i’r pwysau sylweddol sydd ar ein gwasanaethau yn awr, ac sy’n siŵr o gynyddu dros y blynyddoedd nesaf. Cafodd adroddiad terfynol y panel ei groesawu gan lawer o randdeiliaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys yma yn y Senedd ac, yn wir, yn y Pwyllgor Iechyd, Lles a Chwaraeon.
Ddoe, cyhoeddais 'Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol'. Mae'r cynllun hwnnw’n ymateb i adroddiad terfynol yr arolwg seneddol, ac yn bwrw ymlaen â’i argymhellion allweddol. Mae'r cynllun yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol o fynd ati fel system gyfan i ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar iechyd a lles ac ar atal salwch. Mae'r cynllun yn wahanol, nid yn unig yn ei uchelgais eofn i wir gyfuno iechyd a gofal cymdeithasol, ond am ei fod wedi'i gynllunio mewn partneriaeth â’r rheini a fydd yn arwain ac yn cyflawni'r newid y mae'n ei ddisgrifio. Mae'r rhanddeiliaid hyn wedi rhannu ein rhwystredigaeth â chyflymder y newid hyd yn hyn, er bod pawb bron yn cydnabod bod angen newid ar frys. Un thema bwysig drwy'r cynllun i gyd yw arweiniad a chyfeiriad cenedlaethol cryfach i wneud i’r system gyfan gyd-fynd â'n blaenoriaethau cenedlaethol, a rhoi diweddariadau cynnydd rheolaidd i ddwyn i gyfrif y rhai sy'n gyfrifol am gyflawni.
Er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon ar gyfer y dyfodol, byddwn yn datblygu modelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol lleol di-dor, yn amrywio o'r lleol i'r ranbarthol a'r cenedlaethol. Bydd rhaglen trawsnewid genedlaethol yn helpu i gyflawni newid yn gyflymach. A bydd bwrdd trawsnewid i oruchwylio a bod yn atebol yn genedlaethol am yr ymrwymiadau yn y cynllun. Bydd yn darparu ac yn cynghori ynglŷn â chymorth cyllid wedi'i dargedu ar gyfer darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol gan ganolbwyntio'n benodol ar fodelau newydd dethol o iechyd a gofal cymdeithasol lleol di-dor. A bydd yn rhaid gweld bod y modelau newydd yn cyflawni gwerth sylweddol a gwell ac yn gydnaws iawn â blaenoriaethau cenedlaethol.
Byddwn yn atgyfnerthu arweinyddiaeth a chyfeiriad cenedlaethol, gan gynnwys datblygu gweithrediaeth genedlaethol ar gyfer y GIG. Bydd y weithrediaeth genedlaethol yn cefnogi ac yn herio byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG ac yn sicrhau bod capasiti a gallu’n cael eu datblygu drwy ein holl system. Byddwn yn sicrhau bod yr holl system yn addas ar gyfer y dyfodol drwy ganolbwyntio ar ansawdd a gwerth a manteisio ar gyfleoedd digidol a chefnogi ein gweithlu. Bydd y gwaith hwn i gyd, a’n system ar gyfer y dyfodol, yn seiliedig ar athroniaeth gref, gytûn, ac ymgysylltu parhaus.
Ond nid ydym ni wedi derbyn argymhellion y panel heb graffu'n ddyfnach arnynt. Rwy’n cydnabod mai’r hyn sy’n allweddol i unrhyw bolisi cyhoeddus effeithiol yw deall y rhwystrau sydd wedi llesteirio newid yn y gorffennol a sefydlu’r hyn sydd angen ei wneud yn wahanol i'w goresgyn. Felly rydym ni wedi bod yn ofalus iawn yn y cynllun hwn i roi cyfeiriad cenedlaethol cryf i ail-alinio'r agweddau hynny sy'n siapio ein polisïau fel eu bod yn cefnogi'r weledigaeth yn llawn—yn arbennig, strategaeth ariannol, cynllunio, rheoli perfformiad, ac arolygu a rheoleiddio. Mae'r strwythurau hyn yn helpu i lywio penderfyniadau o ddydd i ddydd yn ein sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau.
Yn olaf, datblygwyd y cynllun hwn drwy ymarfer ymgysylltu mawr â'n partneriaid cyflawni strategol allweddol. Rwyf wedi cyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol a byrddau iechyd ym mhob un o ardaloedd y byrddau partneriaeth rhanbarthol yng Nghymru, ynghyd â’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Rydym ni hefyd wedi trafod y cynllun gydag aelodau cabinet llywodraeth leol ar gyfer gofal cymdeithasol a chyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. A byddwn yn cynnal yr ymgysylltiad hwn nawr bod y cynllun wedi’i gyhoeddi, ac mae rownd arall o gyfarfodydd ôl troed rhanbarthol ar y gweill ar gyfer yr wythnosau cyn ein toriad haf.
Ar lefel weithredol, mae CLlLC, Cydffederasiwn y GIG, Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi arwain neu wedi cymryd rhan mewn gweithgorau sydd wedi helpu i lunio'r cynllun. Roedd y staff mwyaf blaenllaw o’r sefydliadau hyn yn aelodau o grŵp cyfeirio allanol, a gadeiriwyd gan gyfarwyddwr cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Rydym ni hefyd wedi cael adborth gan baneli dinasyddion yn ystod mis Ebrill, sydd wedi helpu i lunio’r weledigaeth a'r egwyddorion dylunio yn y cynllun. Mae hyn oll yn adeiladu ar yr ymgysylltu cyhoeddus a phroffesiynol sylweddol y mae'r tîm adolygu seneddol wedi ei wneud eisoes.
Mae ymgysylltu sylweddol ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen gyda phobl, gweithwyr proffesiynol ac yn wir, gyda phleidiau gwleidyddol wedi nodweddu gwaith yr arolwg seneddol hyd at gyhoeddi 'Cymru Iachach' nawr. Rwy’n gobeithio erbyn hyn fod hwn nawr yn gynllun y gall y genedl gyfan ei gefnogi. Mae'n gynllun sydd â chyfres glir o gamau gweithredu ar gyfer y tair blynedd gyntaf. Mae’r gwaith yn dechrau nawr a bydd yn symud yn gyflym i adeiladu momentwm. Mae'r cynllun yn cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i ddatblygu iechyd a gofal cymdeithasol, ond ni fydd yn werth dim heb weithredu effeithiol. Fel yr wyf wedi’i ddweud yn rheolaidd wrth ein partneriaid allanol, y peth radical i'w wneud nawr yw rhoi’r cynllun hwn ar waith.