Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 12 Mehefin 2018.
Dechreuaf drwy atgoffa'r Aelodau bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd sy'n seiliedig ar amrywiaeth o dystiolaeth y mae pob un ohonom ni yn ymwybodol ohoni, sef ein perthynas anodd, ar adegau, ag alcohol ledled y wlad. Rydym ni'n cydnabod y niwed y gall alcohol ei achosi ac y mae modd ei osgoi, ac, pan rydym ni'n trafod ein heriau iechyd cyhoeddus fel cenedl, rydym ni'n rheolaidd yn sôn am ddiet, ymarfer corff, ysmygu ac alcohol. Yr her yr ydym ni wedi ei gosod i'n hunain yw: a yw'r darn hwn o ddeddfwriaeth yn ffordd ddefnyddiol o arwain at well iechyd cyhoeddus neu beidio? Ac rydym ni'n credu ei fod. Nid dim ond barn y Llywodraeth hon yw honno, wrth gwrs; rydym ni wedi ymgynghori o'r blaen ynglŷn â chyflwyno isafbris uned yng Nghymru, unwaith yn 2014 yn rhan o'r Papur Gwyn iechyd y cyhoedd, ac unwaith yn 2015, pan arweiniais i, a minnau yn Ddirprwy Weinidog ar y pryd, ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).
Ond, yn yr un modd, rydym ni'n cydnabod fod y pleidiau i gyd yn gytûn ar hyn—bydd gan Aelodau unigol yn y Siambr hon farn ynghylch hyn, ond gan gydnabod hefyd bod ymrwymiad i ddeddfu yn y maes hwn wedi ymddangos yn nau faniffesto diwethaf Plaid Cymru ar gyfer y Cynulliad. Ac nid ydym ni ar ein pen ein hunain yn y Deyrnas Unedig, wrth gwrs. Cyfeiriwyd eisoes at yr Alban, lle maen nhw eisoes wedi cyflwyno darn o ddeddfwriaeth debyg ac wedi wynebu cyfres gynhwysfawr a drud o heriau gan y diwydiant alcohol yn y Goruchaf Lys ac yn Llys Ewrop hefyd. Mae'r Goruchaf Lys a Llys Ewrop wedi cytuno bod hyn yn ddull dilys a chymesur o fynd i'r afael â'r niweidiau a achosir i iechyd y cyhoedd gan alcohol. Yn fwy na hynny, heddiw, wrth gwrs, y newyddion mawr yn Nhŷ'r Cyffredin yw bod Bil ynglŷn â chael isafbris uned ar gyfer Lloegr wedi ei godi gan aelod o'r meinciau cefn, gan gyfeirio unwaith eto at dystiolaeth y mae'r Pwyllgor Dethol Iechyd yno wedi clywed am y cynnydd posib mewn iechyd a all ddod yn sgîl cyflwyno isafbris uned.
Rwy'n gwrthod dadleuon UKIP, ac mae yna adegau pan yr ydych chi'n anghytuno â phobl ac mae'n haws ac yn fwy deheuig dweud nad ydym ni'n rhannu yr un farn. Rydym ni'n credu y gellid osgoi dwsinau o farwolaethau y flwyddyn o ganlyniad i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Daw hynny o'r dadansoddiad a wnaed gan Brifysgol Sheffield. Rydym ni yn credu bod hyn yn un ffordd ychwanegol o leihau'r niwed y mae modd ei osgoi y mae alcohol yn ei achosi ac yr ydym ni i gyd yn ei gydnabod. Yn yr un modd, rydym ni'n credu fod y pris hefyd yn bwysig. Mae yna amrywiaeth o dystiolaeth o bedwar ban byd, nid yn unig yn y data o Brifysgol Sheffield, ond yn ein bywydau ein hunain rydym ni'n deall bod prisiau yn bwysig yn y dewisiadau a wnawn.
Gan droi at y gwelliannau, rwy'n cydnabod, wrth gynnig gwelliant 4, y diddordeb sydd gan Rhun ap Iorwerth o hyd yn y sector dafarndai—heb fwriadu chwarae ar eiriau. Ond rwy'n cydnabod hefyd gwerth economaidd a chymdeithasol tafarndai mewn cymunedau gwahanol. Rwyf hefyd yn cydnabod ei bod hi'n bosib y bydd isafbris uned yn helpu tafarndai fel busnesau. Yn wir, ysgrifennodd y Sefydliad Astudiaethau Alcohol at y Prif Weinidog yn nhymor yr hydref y llynedd gan ddweud eu bod yn credu y byddai isafbris uned yn cael ei groesawu'n fawr gan dafarnwyr. Fodd bynnag, dychwelaf at y ffaith bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd y cyhoedd, ac wrth ofyn i Aelodau wrthod gwelliant 4, nid wyf yn credu bod y manylder penodol am dafarndai yn angenrheidiol o gwbl. Rwyf eisoes wedi rhoi—ac ailadroddaf eto yr ymrwymiadau yr wyf i wedi eu rhoi o'r blaen i ymgynghori ynglŷn â'r isafbris uned y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei bennu fel man cychwyn. Byddwn yn ymgynghori ynglŷn â'r pris cychwynnol hwnnw i roi cyfle pellach i Aelodau'r Cynulliad a'r holl randdeiliaid, gan gynnwys, wrth gwrs, tafarndai, ystyried a gwneud sylwadau o ran y pris hwnnw. Wrth gwrs, bydd hynny yn ystyried y ffeithiau, fel y mae Angela Burns wedi eu nodi yn fanwl gywir, o ystod eang o wybodaeth, gan gynnwys data gwerthiant alcohol a'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o'r Alban.
Fodd bynnag, gan droi at welliannau 1 a 3, rwy'n dal i gredu nad yw'r manylder a gynigir i wneud rheoliadau o dan y Bil hwn, os caiff ei basio, yn angenrheidiol nac yn ddymunol. Rydym ni'n cytuno y dylid ymgynghori â rhanddeiliaid, fel yr wyf i wedi ei ddweud sawl gwaith o'r blaen, ac mae'n briodol na chaiff yr isafbris uned ei bennu neu ei ddiwygio heb ei ystyried yn llawn a heb gyfle i drafod hynny yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Ac mae'r Llywodraeth yn parhau i gredu bod y weithdrefn gadarnhaol yn rhoi'r cyfle hwnnw.
Mae'n werth atgoffa ein hunain y byddai'r weithdrefn a nodir yng ngwelliant 1 angen proses o chwe mis fwy neu lai er mwyn cyflwyno ac wedyn newid unrhyw isafbris uned ar gyfer alcohol yn y dyfodol. Nid wyf yn credu bod y cyfnod o amser y byddai hynny'n ei gymryd yn angenrheidiol nac yn gymesur. Ac, yn fwy na hynny, mae'n werth atgoffa'r Aelodau bod y Cynulliad hwn wedi cytuno o'r blaen, wrth gyflwyno treth trafodiad tir, i gynnal y weithdrefn a argymhellir gan y Llywodraeth heddiw—i gael pleidlais gadarnhaol. Rwy'n credu y byddai hi'n rhyfedd dweud y gallwch chi newid cyfraddau trethiant ledled Cymru gyda phleidlais gadarnhaol, ond i newid yr isafsbris uned ar gyfer alcohol y byddai'n rhaid cynnal proses chwe mis.
Rwy'n cydnabod bod gwahaniaeth barn yn y Siambr hon, ond rwyf yn gofyn i'r Aelodau wrthod ac nid cefnogi gwelliannau 4, 1 a 3.