– Senedd Cymru am 4:31 pm ar 12 Mehefin 2018.
Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r rheoliadau a wneir o dan adran 1. Gwelliant 4 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, ac rwy'n galw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mae’n braf gallu dechrau ar Gyfnod 3 y Mesur hwn. Mi wnaf i ychydig o sylwadau cyffredinol ac, wrth gwrs, mi ydw i wedyn yn cynnig gwelliant rhif 4 yn ffurfiol.
Mi ydym ni ym Mhlaid Cymru wedi credu ers tro yn yr egwyddor o ddefnyddio prisio fel arf i geisio perswadio pobl i yfed yn fwy cymedrol ac i roi rhagor o ystyriaeth i beryglon goryfed. Mi fyddwn i yn dweud ar y cychwyn yn fan hyn mai drwy’r system drethiant yr ydym ni yn credu y dylai hynny ddigwydd fel mater o egwyddor, ond gan nad ydy’r pwerau hynny gennym ni fel sefydliad ar hyn o bryd,—rwy’n mawr obeithio ac yn hyderu y bydd y sefyllfa honno’n newid yn y dyfodol—ond gan nad ydy’r pwerau hynny gennym ni ar hyn o bryd, mi ydym ni fel plaid wedi cefnogi’r egwyddor o gyflwyno isafbris yr uned ers rhai blynyddoedd.
Ond wedi dweud hynny, mi ydw i wedi dod at y cwestiwn hwn, a’r broses ddeddfwriaethol yn benodol, efo llygaid mor agored ag y gallwn i eu cael, yn gwybod bod yna lawer o bobl â gwir bryderon ac ofnau ynglŷn â pham yr ydym ni eisiau gwneud hyn, ac a fyddai’r hyn yr ydym ni’n edrych i’w wneud drwy’r ddeddfwriaeth hon yn cael gwir effaith. Mi ydym ni wedi gweithio felly yn gadarnhaol i chwilio am ffyrdd o gryfhau’r ddeddfwriaeth fel y cafodd ei chyflwyno yn wreiddiol, ac mi ydw i yn hyderus bod ein gwelliannau ni heddiw, yn ogystal â’r gwelliannau eraill y byddwn ni yn eu cefnogi, yn cryfhau’r ddeddfwriaeth yma, a'u bod yn gamau pwysig tuag at egluro pwrpas y ddeddfwriaeth yma wrth gyhoedd sydd yn amheus, llawer ohonyn nhw, ynglŷn â diben hyn, a hefyd mae yna elfennau yma sydd yn gwneud y ddeddfwriaeth, rydym ni’n gobeithio, yn fwy ffit ar gyfer y dyfodol.
Gan droi at welliant 4 yn benodol, mae’r gwelliant yma yn ymwneud â gofyn am ymgynghori â thafarndai, neu â chyrff sy’n cynrychioli tafarndai yn benodol, ynglŷn â’r ddeddfwriaeth yma, ac ar y pwynt lle y down ni at adfer y ddeddfwriaeth yma, neu ail-greu rheoliadau i ailgyflwyno ar gyfnod y machlud ymhen blynyddoedd. Y rheswm yr ydym ni’n cyflwyno hwn ydy ein bod ni'n credu bod yna wahaniaeth y mae'n bwysig ei nodi rhwng yfed alcohol mewn cyd-destun tafarn neu le tebyg a lle mae'r yfed hwnnw yn digwydd mewn llefydd eraill. Mae gan dafarndai amodau trwyddedu. Mi fydd gan dafarndai da staff wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf, er enghraifft, a staff sydd yn gwybod i roi'r gorau i roi alcohol i gwsmer os ydyn nhw wedi yfed gormod. Mae awdurdod lleol yn gallu tynnu trwydded oddi ar dafarn os ydyn nhw'n credu bod yna oryfed anghyfrifol yn digwydd yn hwnnw, ond mae'r tafarndai yma, sydd i fi yn rhan bwysig o'n cymunedau ni, yn gel, yn gliw yn aml iawn sy'n cadw cymunedau efo'i gilydd, wedi wynebu cystadleuaeth annheg, rydw i'n meddwl, gan archfarchnadoedd a llefydd eraill. Ac rydw i'n meddwl y byddai cytuno i'r gwelliant yma yn fodd i ailhafalu pethau rhywfaint drwy ddweud, 'Ydy, mae tafarn yn wahanol ac mi ddylem ni wrando ar farn y tafarndai wrth ystyried effaith y ddeddfwriaeth.'
Felly, rydym ni'n meddwl bod yr ailhafalu yn rhywbeth y gallwn ei wneud yn y modd hwn. Mi fyddwn ni hefyd yn cefnogi gwelliannau gan y Ceidwadwyr oherwydd mi rydym ni'n teimlo y byddai ymgynghori pellach, yn cynnwys efo'r pwyllgor, yn helpu i wneud y ddeddfwriaeth yma'n fwy cadarn. Mae'n bwysig, fel y dywedais, i ddod â'r cyhoedd efo ni efo deddfwriaeth iechyd cyhoeddus yn gyffredinol, ac mae hynny'n sicr yn wir yn yr achos hwn. Felly, cefnogwch ein gwelliant, ac mi gefnogwn ninnau hefyd y Ceidwadwyr.
Diolch i chi am gyflwyno gwelliant 4, ac mae'n rhaid imi ddweud wrth lefarydd Plaid Cymru bod eich dadl wedi ein perswadio ni mewn gwirionedd i newid ein safbwynt ynglŷn â hynny ac i'w gefnogi. I ddechrau, nid oeddem ni am wneud hynny oherwydd rydym ni'n credu bod gwelliant 1 o'n heiddo, mewn gwirionedd, yn ddigon eang i sicrhau ein bod yn ymgorffori ac yn amddiffyn tafarndai drwy'r wlad. Fodd bynnag, rwy'n credu eich bod yn cyflwyno dadl dda iawn bod ganddyn nhw le penodol yn ein cymunedau, lle yn ein cymdeithas, ac y dylem ni, felly, feddwl ystyried rhoi rhywfaint o amddiffyniad ychwanegol iddynt.
Mae hynny'n arwain at welliant 1 o'n heiddo, Llywydd, yr hoffwn i ei gyflwyno, oherwydd mae'r gwelliant sylweddol hwn yn mewnosod adran newydd ar ôl adran 1 o'r Bil i ddarparu ar gyfer rheoliadau a wneir o dan adran 1 i'w gwneud o dan weithdrefn uwchgadarnhaol, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Mae'r gwelliant yn nodi'r prosesau y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu dilyn o ran ymgynghori ynglŷn â beth ddylai fod yr isafbris uned. Er gofyn a gofyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod pob awgrym o osod yr isafbris uned ar wyneb y Bil, ac i hynny fod yn ddarostyngedig i weithdrefn uwchgadarnhaol. Fodd bynnag, mae lefel yr isafbris uned eto i'w chadarnhau yn llawn gan Lywodraeth Cymru, ac ni aethpwyd ymlaen ag argymhelliad 4 o adroddiad Cyfnod 1, a oedd yn rhoi yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad o fwriad sy'n cadarnhau beth yw'r isafbris uned y mae hi'n ei ffafrio ar hyn o bryd, a'r rhesymau dros hynny.
Wrth ymateb i adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor, dywedodd Llywodraeth Cymru y caiff cynigion eu datblygu ynghylch faint fydd yr isafbris uned gan ddefnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf ac ystyried ffactorau perthnasol eraill. Mae'r ffactorau hyn yn cynnwys data ynglŷn â gwerthu alcohol a data ynghylch niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Bydd Gweinidogion Cymru yn edrych ar y deilliannau tybiedig o ran y gwahanol isafbrisiau uned ac yn gwneud penderfyniad ble y mae cydbwysedd rhesymol rhwng y manteision pwysig tybiedig a ddaw i iechyd y cyhoedd yn sgil y mesur hwn ac ymyrraeth yn y farchnad.
Rwy'n derbyn yn llwyr y sylwadau a gyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnodau amrywiol ein gwelliant, ond fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth yn gynharach, mae hon yn ddarn o ddeddfwriaeth sy'n peri pryder i'r cyhoedd. Mae'n gwneud i bobl feddwl tybed beth ydym ni'n ceisio ei wneud, sut beth fydd y ddeddfwriaeth yn y pen draw ac rwy'n credu ei bod hi ond yn briodol y dylem ni, y Cynulliad Cenedlaethol, allu dweud, 'Ydym, rydym ni'n derbyn eich dadleuon i'w osod yn 50 ceiniog', sef yr hyn y mae pawb yn sôn amdano, ond efallai nad 50 ceiniog fydd yr isafbris—efallai y bydd yn £1, efallai y bydd yn £1.50, efallai y bydd yn 30 ceiniog. Ac rwy'n credu bod gennym ni gyfrifoldeb i'n hetholwyr i allu cael y gair olaf hwnnw wrth fynd ymlaen. Felly, mae'r gwelliant hwn yn ceisio gwireddu'r ymrwymiad hwn a sicrhau y caiff prosesau priodol eu dilyn wrth ymgynghori ynglŷn â beth yw'r isafbris uned gofynnol sy'n cael ei gynnig. Nid yw gwelliant 3 yn ddim ond gwelliant o ganlyniad i hynny.
Bydd UKIP yn ymatal ar yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Yn wir, byddwn yn ymatal ar bob un o'r gwelliannau ger ein bron heddiw, fel y gwnaethom ni yng Nghyfnod 2. Meddyliais yn hir ac yn ddyfal ynglŷn â pha un a ddylid cyflwyno gwelliannau i'r Bil ai peidio. Roeddwn i wedi ystyried cyflwyno gwelliannau tebyg iawn i'r rhai a gynigir gan Angela a Rhun, ond yn y diwedd penderfynais beidio oherwydd nid oes unrhyw ffordd o gwbl i wella'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Mae'r Bil yn ddiffygiol ac yn seiliedig ar dybiaethau anghywir ac ar amcanion polisi wedi'u cynllunio'n wael.
Rwy'n cytuno ag Angela y dylai'r Llywodraeth fod yn ymgynghori'n eang cyn gosod rheoliadau drafft. Ac rwy'n cytuno â Rhun na ddylid defnyddio'r Bil hwn i gynyddu elw manwerthwyr alcohol. Ond, yn anffodus, dyna'n union beth fydd yn digwydd o ganlyniad i'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Mae'n seiliedig ar ddata nas profwyd ac nad oes unrhyw sicrwydd yn ei gylch. Nid oes unrhyw dystiolaeth y bydd yn gwneud unrhyw beth ac eithrio cael effaith anghymesur ar y bobl dlotaf yn y gymdeithas. Ni fydd gwneud alcohol yn ddrutach yn atal pobl rhag yfed yn ormodol, ac mae'n annheg i yfwyr cyfrifol. Mae'n anwybyddu corff mawr o dystiolaeth sy'n dangos bod rhai manteision iechyd yn sgil defnydd cyfrifol o alcohol. Mae mwy na 100 o astudiaethau wedi dangos y gall yfed un neu ddwy uned o alcohol y dydd leihau'r risg o ddatblygu clefydau cardiofasgwlaidd cymaint â 45 y cant. Mae'n anwybyddu'r dystiolaeth gynyddol mai'r grŵp mwyaf o'r rhai sy'n goryfed yw pobl ganol oed ar gyflogau breision. Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru, mae 47 y cant o'r lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn yfed mwy na'r swm a argymhellir, ac mae 28 y cant o'r lleiaf difreintiedig yn goryfed mewn pyliau, fel y gelwir yr arfer honno. Ni fydd cynnydd cymharol fach mewn prisiau yn atal dim ar y bobl hyn, oni bai mai gwir fwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno isafbris llawer uwch a chosbedigol.
Mae'r ffaith nad yw yr isafbris uned ar wyneb y Bil ac nad yw Llywodraeth Cymru wedi nodi beth fyddai'r isafbris yn peri pryder. Rydym ni wedi bod yn gweithio ar dybiaeth o isafbris uned o 50 ceiniog, ond am a wyddom ni mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno isafbris o 60, 70 neu 80 ceiniog. Byddai hyn yn cael effaith ofnadwy ar yfwyr cyfrifol ar gyflogau bychain. Pam ddylai fy etholwyr i dalu mwy oherwydd ychydig o yfwyr anghyfrifol.
Dylai Llywodraeth Cymru roi'r cynlluniau hyn o'r neilltu hyd nes bod modd dangos bod tystiolaeth gadarn i'r honiadau maen nhw'n eu gwneud yn sgil cyflwyno isafbris yn yr Alban. Maen nhw'n benderfynol o fwrw ymlaen, ac yn anffodus ni allwn ni leihau'r effaith a gaiff y Bil hwn ar bobl gyffredin yng Nghymru. Felly, oherwydd hyn, mae'n rhaid i mi ymatal ar y gwelliannau ac rwy'n annog Aelodau i wrthod y Bil hwn.
Rwy'n codi i ddweud fy mod i'n credu bod y ddau welliant hyn yn amhriodol, oherwydd rydym ni wedi bod yn siarad am hyn ers amser maith ac mae angen inni weithredu bellach. Nid wyf i wedi clywed unrhyw dystiolaeth o gwbl y bydd tafarndai yn gwneud unrhyw beth ond elwa ar yr isafswm prisiau, yn syml oherwydd mai'r sefydliadau sy'n targedu pobl gyda phrisiau alcohol chwerthinllyd o isel yw'r archfarchnadoedd, sy'n eu defnyddio fel abwyd. Mae'r tafarndai yn gyffredinol yn gyfrifol iawn ac yn dweud 'na' wrth bobl sydd wedi cael gormod i yfed, a gellir ymdrin â'r rhai nad ydyn nhw'n gwneud hynny drwy'r trefniadau trwyddedu.
Mae'r prisiau hyn sy'n artiffisial o isel yn ei gwneud hi'n llawer haws i blant gyfuno eu harian poced a chael oedolyn i fynd i mewn i siop i brynu alcohol, a dyna pam rwy'n credu bod angen inni fel mater o frys fod yn llym a sicrhau bod isafswm pris ar alcohol fel nad yw'n rhywbeth a all fod mor rhad â melysion, sef y sefyllfa ar hyn o bryd. Felly, rwy'n gwrthwynebu'r ddau welliant hyn a byddaf yn pleidleisio yn erbyn y ddau ohonynt.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau codi i wneud rhai sylwadau byr o ran amcan a diben y ddeddfwriaeth, cyn troi at y tri gwelliant yn y grŵp hwn.
Dechreuaf drwy atgoffa'r Aelodau bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd sy'n seiliedig ar amrywiaeth o dystiolaeth y mae pob un ohonom ni yn ymwybodol ohoni, sef ein perthynas anodd, ar adegau, ag alcohol ledled y wlad. Rydym ni'n cydnabod y niwed y gall alcohol ei achosi ac y mae modd ei osgoi, ac, pan rydym ni'n trafod ein heriau iechyd cyhoeddus fel cenedl, rydym ni'n rheolaidd yn sôn am ddiet, ymarfer corff, ysmygu ac alcohol. Yr her yr ydym ni wedi ei gosod i'n hunain yw: a yw'r darn hwn o ddeddfwriaeth yn ffordd ddefnyddiol o arwain at well iechyd cyhoeddus neu beidio? Ac rydym ni'n credu ei fod. Nid dim ond barn y Llywodraeth hon yw honno, wrth gwrs; rydym ni wedi ymgynghori o'r blaen ynglŷn â chyflwyno isafbris uned yng Nghymru, unwaith yn 2014 yn rhan o'r Papur Gwyn iechyd y cyhoedd, ac unwaith yn 2015, pan arweiniais i, a minnau yn Ddirprwy Weinidog ar y pryd, ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).
Ond, yn yr un modd, rydym ni'n cydnabod fod y pleidiau i gyd yn gytûn ar hyn—bydd gan Aelodau unigol yn y Siambr hon farn ynghylch hyn, ond gan gydnabod hefyd bod ymrwymiad i ddeddfu yn y maes hwn wedi ymddangos yn nau faniffesto diwethaf Plaid Cymru ar gyfer y Cynulliad. Ac nid ydym ni ar ein pen ein hunain yn y Deyrnas Unedig, wrth gwrs. Cyfeiriwyd eisoes at yr Alban, lle maen nhw eisoes wedi cyflwyno darn o ddeddfwriaeth debyg ac wedi wynebu cyfres gynhwysfawr a drud o heriau gan y diwydiant alcohol yn y Goruchaf Lys ac yn Llys Ewrop hefyd. Mae'r Goruchaf Lys a Llys Ewrop wedi cytuno bod hyn yn ddull dilys a chymesur o fynd i'r afael â'r niweidiau a achosir i iechyd y cyhoedd gan alcohol. Yn fwy na hynny, heddiw, wrth gwrs, y newyddion mawr yn Nhŷ'r Cyffredin yw bod Bil ynglŷn â chael isafbris uned ar gyfer Lloegr wedi ei godi gan aelod o'r meinciau cefn, gan gyfeirio unwaith eto at dystiolaeth y mae'r Pwyllgor Dethol Iechyd yno wedi clywed am y cynnydd posib mewn iechyd a all ddod yn sgîl cyflwyno isafbris uned.
Rwy'n gwrthod dadleuon UKIP, ac mae yna adegau pan yr ydych chi'n anghytuno â phobl ac mae'n haws ac yn fwy deheuig dweud nad ydym ni'n rhannu yr un farn. Rydym ni'n credu y gellid osgoi dwsinau o farwolaethau y flwyddyn o ganlyniad i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Daw hynny o'r dadansoddiad a wnaed gan Brifysgol Sheffield. Rydym ni yn credu bod hyn yn un ffordd ychwanegol o leihau'r niwed y mae modd ei osgoi y mae alcohol yn ei achosi ac yr ydym ni i gyd yn ei gydnabod. Yn yr un modd, rydym ni'n credu fod y pris hefyd yn bwysig. Mae yna amrywiaeth o dystiolaeth o bedwar ban byd, nid yn unig yn y data o Brifysgol Sheffield, ond yn ein bywydau ein hunain rydym ni'n deall bod prisiau yn bwysig yn y dewisiadau a wnawn.
Gan droi at y gwelliannau, rwy'n cydnabod, wrth gynnig gwelliant 4, y diddordeb sydd gan Rhun ap Iorwerth o hyd yn y sector dafarndai—heb fwriadu chwarae ar eiriau. Ond rwy'n cydnabod hefyd gwerth economaidd a chymdeithasol tafarndai mewn cymunedau gwahanol. Rwyf hefyd yn cydnabod ei bod hi'n bosib y bydd isafbris uned yn helpu tafarndai fel busnesau. Yn wir, ysgrifennodd y Sefydliad Astudiaethau Alcohol at y Prif Weinidog yn nhymor yr hydref y llynedd gan ddweud eu bod yn credu y byddai isafbris uned yn cael ei groesawu'n fawr gan dafarnwyr. Fodd bynnag, dychwelaf at y ffaith bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd y cyhoedd, ac wrth ofyn i Aelodau wrthod gwelliant 4, nid wyf yn credu bod y manylder penodol am dafarndai yn angenrheidiol o gwbl. Rwyf eisoes wedi rhoi—ac ailadroddaf eto yr ymrwymiadau yr wyf i wedi eu rhoi o'r blaen i ymgynghori ynglŷn â'r isafbris uned y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei bennu fel man cychwyn. Byddwn yn ymgynghori ynglŷn â'r pris cychwynnol hwnnw i roi cyfle pellach i Aelodau'r Cynulliad a'r holl randdeiliaid, gan gynnwys, wrth gwrs, tafarndai, ystyried a gwneud sylwadau o ran y pris hwnnw. Wrth gwrs, bydd hynny yn ystyried y ffeithiau, fel y mae Angela Burns wedi eu nodi yn fanwl gywir, o ystod eang o wybodaeth, gan gynnwys data gwerthiant alcohol a'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o'r Alban.
Fodd bynnag, gan droi at welliannau 1 a 3, rwy'n dal i gredu nad yw'r manylder a gynigir i wneud rheoliadau o dan y Bil hwn, os caiff ei basio, yn angenrheidiol nac yn ddymunol. Rydym ni'n cytuno y dylid ymgynghori â rhanddeiliaid, fel yr wyf i wedi ei ddweud sawl gwaith o'r blaen, ac mae'n briodol na chaiff yr isafbris uned ei bennu neu ei ddiwygio heb ei ystyried yn llawn a heb gyfle i drafod hynny yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Ac mae'r Llywodraeth yn parhau i gredu bod y weithdrefn gadarnhaol yn rhoi'r cyfle hwnnw.
Mae'n werth atgoffa ein hunain y byddai'r weithdrefn a nodir yng ngwelliant 1 angen proses o chwe mis fwy neu lai er mwyn cyflwyno ac wedyn newid unrhyw isafbris uned ar gyfer alcohol yn y dyfodol. Nid wyf yn credu bod y cyfnod o amser y byddai hynny'n ei gymryd yn angenrheidiol nac yn gymesur. Ac, yn fwy na hynny, mae'n werth atgoffa'r Aelodau bod y Cynulliad hwn wedi cytuno o'r blaen, wrth gyflwyno treth trafodiad tir, i gynnal y weithdrefn a argymhellir gan y Llywodraeth heddiw—i gael pleidlais gadarnhaol. Rwy'n credu y byddai hi'n rhyfedd dweud y gallwch chi newid cyfraddau trethiant ledled Cymru gyda phleidlais gadarnhaol, ond i newid yr isafsbris uned ar gyfer alcohol y byddai'n rhaid cynnal proses chwe mis.
Rwy'n cydnabod bod gwahaniaeth barn yn y Siambr hon, ond rwyf yn gofyn i'r Aelodau wrthod ac nid cefnogi gwelliannau 4, 1 a 3.
A gaf i ymyrryd—
Mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi gorffen.
Rydym ni'n gwybod beth yw'r gyfradd gychwynnol y mae'r Llywodraeth yn ei gosod o ran treth trafodiadau tir ac mae hi yn ymddangos yn rhyfedd i gael y ddadl hon ar yr egwyddor hynod o bwysig hon, rwy'n gefnogol iddo ar y cyfan, ond ni allwn ni wneud unrhyw beth i osod y gyfradd wreiddiol. Felly, fe allwch chi ei osod yn uchel, tua'r canol, neu yn isel. Allwn ni ddim dweud dim ynghylch hynny. Bydd gennych chi'r pŵer hwn ar unwaith o dan y rheoliad i wneud hynny ac all y Siambr hon ddim craffu ar hynny mewn manylder, fel y gwyddoch chi'n dda.
Fe wnaf i ymateb yn fyr, Llywydd, oherwydd, fel yr wyf i wedi dweud ar sawl achlysur, rydym ni wedi ymrwymo i wneud cryn dipyn o ymgynghori cyn gosod yr isafbris uned cychwynnol y bydd Gweinidogion yn ei argymell ac y bydd angen i'r lle hwn benderfynu a ddylid ei gefnogi neu beidio. Rwy'n credu fod hynny yn ddull cwbl briodol ac yn ffordd gwbl briodol i fwrw ymlaen, ac rwy'n edrych ymlaen at weithredu cyfundrefn isafbris uned ledled Cymru i wneud cynnydd gwirioneddol yn iechyd y cyhoedd ym mhob un cymuned.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Mi wnaf i wneud sylw yn fyr iawn ynglŷn â'r pwynt olaf yna i ddechrau. Mae cael y pris cywir yn gwbl allweddol, wrth gwrs. Mi oedd ymdrech gan y Ceidwadwyr drwy welliant yn gynharach yng Nghyfnod 2 i osod y pris ar wyneb y Bil, ac rydw i'n meddwl mai camgymeriad fyddai hynny wedi bod i osod pris penodol rŵan, oherwydd mae angen yr ymchwil manwl iawn, iawn yna i ganfod y pris cywir. I fi, mae'n gyfleus iawn ei fod o'n rhif crwn, y 50 ceiniog yma. Rydw i'n meddwl, o bosib, bod angen iddo fod yn fymryn yn is na hynny, ond wn i ddim. Mae'r pwysau yn mynd i fod ar ysgwyddau'r Llywodraeth i brofi i'r Cynulliad yma, drwy waith ymgynghori manwl a chasglu tystiolaeth manwl, fod y pris cywir yn cael ei osod, os ydy'r Bil yma yn dod yn Ddeddf.
I ymateb i'r sylwadau eraill ynglŷn â'r gwelliannau, diolch yn fawr iawn i Angela Burns, os caf i ei ddweud, am roi arwydd y bydd hi a'i phlaid bellach yn cefnogi gwelliant 4 gennym ni. Mae o'n dangos gwerth trafod a dwyn perswâd. Rydw i'n gresynu nad ydy'r Llywodraeth, serch hynny, wedi gallu cael ei pherswadio. Rydw i'n meddwl, serch hynny, bod yna gamddeall wedi bod gan yr Aelod dros Ganol Caerdydd ynglŷn â'n bwriad ni yn hyn oll. Mi ddywedasoch chi y bydd tafarndai yn ennill drwy'r ddeddfwriaeth yma; wel, dyna union bwrpas y gwelliant yma, i nodi drwy'r Ddeddf hon bod tafarndai yn bwysig a bod cynnal tafarndai yn bwysig, ac felly dylai tafarndai neu'r cyrff sy'n eu cynrychioli nhw gael y rhyddid i ddylanwadu ar y ddeddfwriaeth neu ar reoliadau maes o law. Mi oeddech chi'n dadlau bod angen bwrw ymlaen ar frys ac felly y dylai'r gwelliant yma gael ei wrthod. Wel, rydw i'n methu â gweld am eiliad sut byddai derbyn y gwelliant yma yn arafu'r broses—y cwbl ydy o ydy ychwanegu rhanddeiliaid pwysig i'r rhestr o bobl fyddai'n cael eu hymgynghori â nhw, a hynny er mwyn gwneud y pwynt bod yn rhanddeiliaid yna yn cynrychioli sector bwysig i'n cymunedau ni ar hyd a lled Cymru. Felly, mae'n bosibl bod yna gamddeall wedi bod yn y rhan honno.
Mi wnaf sylwadau yn sydyn iawn ynglŷn â'r hyn a ddywedodd Caroline Jones ar ran UKIP.
Fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn ofni y bydd hyn yn taro grŵp penodol yn anghymesur. Wyddoch chi beth? Rydych chi'n gywir. Bydd y Bil hwn, y darn hwn o ddeddfwriaeth, yn rhoi ergyd anghymesur i bobl sy'n yfed gormod o alcohol cyfaint uchel cryf iawn ac sy'n niweidio eu hiechyd wrth wneud hynny. A bydd yn effeithio'n anghymesur ar y siawns y bydd pobl ifanc yn dechrau yfed diodydd cyfaint uchel o alcohol yn yr un modd ag y mae prisiau uchel ar sigaréts yn rhan o'r arfogaeth ym maes iechyd y cyhoedd i geisio mynd i'r afael ag ysmygu ymhlith pobl ifanc. Felly, mae'n rhaid inni fod yn realistig ynghylch pwy rydym ni'n ceisio eu helpu drwy'r ddeddfwriaeth hon. Rydym ni'n ceisio creu cymaint o arfogaeth ag y gallwn ni o ran gwella iechyd ein cenedl, a dyma un elfen.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn, felly, i bleidlais electronig ar welliant 4. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, pedwar yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 4.
Angela Burns, gwelliant 1.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, pedwar yn ymatal, 29 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 1.