Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 12 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae yna sawl cyfeiriad wedi cael ei wneud y prynhawn yma at y ffaith bod angen dod â'r cyhoedd ar daith efo ni mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth yma, ac rydw i'n meddwl yn y gwelliannau yma rydw i'n bradychu fy nghefndir fel cyfathrebwr, neu fy nghefndir yn gweithio yn y diwydiant cyfathrebu, achos rydw i yn meddwl ei bod hi'n gwbl allweddol bod pob cyfle posibl yn cael ei ddefnyddio i egluro beth yn union sy'n ceisio cael ei gyflawni drwy'r ddeddfwriaeth yma, bod bob cyfle yn cael ei ddefnyddio i gydnabod yr amheuon sydd gan rhai pobl, hyd yn oed, ac i fynd drwy'r dystiolaeth sydd yn awgrymu ein bod ni yn gwneud y peth iawn. Felly, gwelliannau sydd yma i sicrhau bod, ar wyneb y Bil yma, yr addewid y bydd cyfathrebu y pwrpas a chyfathrebu y diben yn greiddiol i'r hyn rydym yn ei wneud.
Mae'n bwysig, wrth gwrs, fel rydw i'n dweud, fod y cyhoedd yn dod ar y daith efo ni efo unrhyw ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus. Rydw i'n meddwl ei bod hi wedi dod yn eithaf clir ymysg Aelodau'r Cynulliad ac aelodau'r pwyllgor a wnaeth y gwaith sgrwtini, ond yn sicr ymysg y bobl y gwnaethom ni ymwneud â nhw a chymryd tystiolaeth ganddyn nhw, fod yna, mewn sawl rhan o'r maes yma, ddiffyg dealltwriaeth a diffyg gwybodaeth, a beth sydd yn y gwelliant ydy eglurder ynglŷn â'r math o waith cyfathrebu y bydd y Llywodraeth yn ei wneud. Rydw i'n meddwl mai'r hyn roedd y Llywodraeth am ei wneud yn wreiddiol oedd dweud, 'Reit, mi fydd yn rhaid inni gyfathrebu efo chi sut y byddwch chi'n gorfod cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth yma.' Wel, nid hynny yr oeddem ni ar ei ôl ac mae'r gwelliant yma'n mynd â ni gam ymhellach tuag at ddweud, 'Dyma'r rhesymau dros y ddeddfwriaeth yma. Oherwydd pryderon iechyd mae'r ddeddfwriaeth yma'n cael ei chyflwyno. Oherwydd y dystiolaeth yma mae'r Cynulliad yn dod i'r casgliad bod cyflwyno isafbris yn gallu bod yn arf effeithiol.'
Felly rydw i'n hyderus, yn dilyn trafodaethau ymlaen llaw efo'r Llywodraeth, y gallwn ni gael cytundeb i'r gwelliant hwn. Ac yn wir, mi fyddwn ni'n dymuno, hyd yn oed o'r meinciau ar y dde i mi, y gallwn ni gael cydsyniad y Cynulliad i'r hyn rydym ni'n ceisio ei wneud yn fan hyn, achos p'un ai a ydych yn cefnogi'r egwyddor ai peidio, pan mae'n dod at Ddeddf yn cael ei gweithredu, mae'n bwysig iawn bod y Ddeddf yna a'i dibenion yn cael eu hegluro'n glir wrth bobl ar hyd a lled Cymru.