– Senedd Cymru am 5:24 pm ar 12 Mehefin 2018.
Felly, rŷm ni'n symud ymlaen nawr at grŵp 4, y grŵp olaf o welliannau, sy'n ymwneud â hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r isafbris am alcohol. Gwelliant 7 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, ac rydw i'n galw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y prif welliant yn ei enw e. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae yna sawl cyfeiriad wedi cael ei wneud y prynhawn yma at y ffaith bod angen dod â'r cyhoedd ar daith efo ni mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth yma, ac rydw i'n meddwl yn y gwelliannau yma rydw i'n bradychu fy nghefndir fel cyfathrebwr, neu fy nghefndir yn gweithio yn y diwydiant cyfathrebu, achos rydw i yn meddwl ei bod hi'n gwbl allweddol bod pob cyfle posibl yn cael ei ddefnyddio i egluro beth yn union sy'n ceisio cael ei gyflawni drwy'r ddeddfwriaeth yma, bod bob cyfle yn cael ei ddefnyddio i gydnabod yr amheuon sydd gan rhai pobl, hyd yn oed, ac i fynd drwy'r dystiolaeth sydd yn awgrymu ein bod ni yn gwneud y peth iawn. Felly, gwelliannau sydd yma i sicrhau bod, ar wyneb y Bil yma, yr addewid y bydd cyfathrebu y pwrpas a chyfathrebu y diben yn greiddiol i'r hyn rydym yn ei wneud.
Mae'n bwysig, wrth gwrs, fel rydw i'n dweud, fod y cyhoedd yn dod ar y daith efo ni efo unrhyw ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus. Rydw i'n meddwl ei bod hi wedi dod yn eithaf clir ymysg Aelodau'r Cynulliad ac aelodau'r pwyllgor a wnaeth y gwaith sgrwtini, ond yn sicr ymysg y bobl y gwnaethom ni ymwneud â nhw a chymryd tystiolaeth ganddyn nhw, fod yna, mewn sawl rhan o'r maes yma, ddiffyg dealltwriaeth a diffyg gwybodaeth, a beth sydd yn y gwelliant ydy eglurder ynglŷn â'r math o waith cyfathrebu y bydd y Llywodraeth yn ei wneud. Rydw i'n meddwl mai'r hyn roedd y Llywodraeth am ei wneud yn wreiddiol oedd dweud, 'Reit, mi fydd yn rhaid inni gyfathrebu efo chi sut y byddwch chi'n gorfod cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth yma.' Wel, nid hynny yr oeddem ni ar ei ôl ac mae'r gwelliant yma'n mynd â ni gam ymhellach tuag at ddweud, 'Dyma'r rhesymau dros y ddeddfwriaeth yma. Oherwydd pryderon iechyd mae'r ddeddfwriaeth yma'n cael ei chyflwyno. Oherwydd y dystiolaeth yma mae'r Cynulliad yn dod i'r casgliad bod cyflwyno isafbris yn gallu bod yn arf effeithiol.'
Felly rydw i'n hyderus, yn dilyn trafodaethau ymlaen llaw efo'r Llywodraeth, y gallwn ni gael cytundeb i'r gwelliant hwn. Ac yn wir, mi fyddwn ni'n dymuno, hyd yn oed o'r meinciau ar y dde i mi, y gallwn ni gael cydsyniad y Cynulliad i'r hyn rydym ni'n ceisio ei wneud yn fan hyn, achos p'un ai a ydych yn cefnogi'r egwyddor ai peidio, pan mae'n dod at Ddeddf yn cael ei gweithredu, mae'n bwysig iawn bod y Ddeddf yna a'i dibenion yn cael eu hegluro'n glir wrth bobl ar hyd a lled Cymru.
Byddwn ni'n cefnogi gwelliannau 7 ac 8. Yng Nghyfnod 2, cododd fy nghyd-Aelod Suzy Davies bryderon nad oedd y cynllun hyrwyddo wedi'i rannu hyd yn hyn, sy'n peri pryder mawr i ni, ac mae angen inni fanteisio ar bob cyfle posibl i atgyfnerthu'r neges o ran iechyd y cyhoedd. Rydym ni i gyd yn sôn llawer iawn amdano yn y fan hon; mae angen inni ddechrau sôn amdano allan yn y fan yna hefyd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Vaughan Gething.
Diolch i chi, Llywydd. Yn wir, yng Nghyfnod 2, buom yn trafod gwelliant a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth o ran y ddyletswydd i hybu ymwybyddiaeth. Ac ar y pryd, dywedais y byddwn yn falch o gael rhagor o drafodaethau adeiladol gydag ef ac roeddwn wedi gobeithio cyrraedd y pwynt hwn, a bod modd i ni gefnogi'r gwelliannau yr oedd yn dymuno eu gwneud. Ac rwy'n falch o ddweud y bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliannau 7 ac 8.
Rydym ni'n bwriadu gweithredu yn unol â gwelliant 8 yn benodol yn y gwaith cyfathrebu yr ydym ni'n ei gynllunio i hybu ymwybyddiaeth o ofynion y ddeddfwriaeth, yn ogystal ag amcanion iechyd y cyhoedd y polisi, sef mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol drwy leihau faint o alcohol sy'n cael ei yfed, yn enwedig ymhlith yfwyr peryglus a niweidiol. Rwy'n gwerthfawrogi bod pwysigrwydd cyfathrebu wedi ei godi yn ystod y sesiynau craffu ac, yn wir, â rhanddeiliaid—mae hynny'n cynnwys ein partneriaid allweddol, penaethiaid adrannau safonau masnach Cymru, sy'n croesawu'r symiau o arian yr ydym wedi'u neilltuo yn benodol ar eu cyfer i weithio gyda manwerthwyr a masnachwyr. Rydym ni'n bwriadu datblygu cyfres o gyfathrebiadau cenedlaethol i ategu'r gwaith hwnnw gyda nhw ac, yn wir, gyda grŵp ehangach o randdeiliaid. Bydd hynny'n cynnwys gwaith yn y cyfnod hyd nes y daw'r ddeddfwriaeth i rym, ac wedi hynny. Ac wrth weithio gyda rhanddeiliaid a darparwyr gwasanaethau, byddwn ni wrth gwrs yn cynhyrchu canllawiau yn ogystal â deunyddiau cyfathrebu. Yr wythnos hon, rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ag amlinelliad o'r canllawiau hynny a sut y byddwn yn eu datblygu ymhellach. Fe fyddant, wrth gwrs, yn cynnwys ystyried yr hyn sydd eisoes yn digwydd yn yr Alban, ac rwy'n falch o adrodd bod cysylltiadau adeiladol a defnyddiol rhwng swyddogion o'r ddwy Lywodraeth yn parhau, er mwyn rhannu gwybodaeth ac arfer da. Rydym ni hefyd yn ymgysylltu â byrddau cynllunio ardal a rhanddeiliaid eraill, fel y comisiynydd plant ac yn wir y comisiynydd pobl hŷn a'r rhwydwaith camddefnyddio sylweddau.
Rydym ni'n llwyr gydnabod yr angen i weithio gyda darparwyr gwasanaethau a'u cleientiaid i rannu gwybodaeth am y ddeddfwriaeth arfaethedig a nodi ffyrdd o helpu'r rheini a allai fod angen cymorth a chyngor. Byddwn ni hefyd yn cynnal amrywiaeth o arolygon i nodi agweddau'r cyhoedd cyn ac ar ôl gweithredu, i fesur ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r gyfraith newydd yn rhan o'n gwaith gwerthuso parhaus. Felly, rwy'n derbyn y pwyntiau sydd wedi'u gwneud, nid dim ond o ran manwerthu a masnachu, ond neges iechyd y cyhoedd ehangach hefyd ynghylch y ddealltwriaeth o pam y mae'r ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Aelodau ar draws y pleidiau i amlinellu'r hyn y byddwn yn ei wneud, ond gobeithio y gallwn ni hefyd ddathlu llwyddiant y ddeddfwriaeth hon wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd y cyhoedd ym mhob cwr o'r wlad.
Rhun ap Iorwerth, i ymateb i'r ddadl.
Yn fyr iawn, mae gwleidyddiaeth a gwleidyddion yn gallu cael ein cyhuddo weithiau o fod allan o gysylltiad â'r cyhoedd sy'n ein hethol ni. Mae'n gyhuddiad, rwy'n siŵr, sy'n deg weithiau ac yn annheg droeon eraill. Ond, yn yr achos yma, efo'r gwelliant yma, beth sydd gennym ni ydy pont uniongyrchol rhwng y darn yma o ddeddfwriaeth rŷm ni'n ei drafod fel seneddwyr ac ein hetholwyr ni—pobl Cymru a fydd yn byw efo ac yn dod i ddeall, rwy'n siŵr, y ddeddfwriaeth yma, maes o law, oherwydd y cyfathrebu fydd yn digwydd drwy gynnwys y gwelliant yma ar wyneb y Bil. Rwy'n cynnig y gwelliannau yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 7. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, pedwar yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 7.
Rhun ap Iorwerth, gwelliant 8.
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad. [Gwrthwynebiad.] Symudwn felly i bleidlais electronig ar welliant 8. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, pedwar yn ymatal, un yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 8.
Dyma ni felly wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) ac rwy'n datgan y bernir pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi'u derbyn.
A dyna ni'n dod â thrafodion Cyfnod 3 y prynhawn yma i ben.