Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr. Y pwnc ydy a fyddai caniatáu i Aelodau’r Cynulliad rannu swydd yn arwain at greu Cynulliad cydradd o ran rhywedd, ac un mwy cynrychioliadol o’r boblogaeth gyfan. Rwy’n falch o arwain y drafodaeth yma y prynhawn yma. Mae Jane Hutt a Julie Morgan yn awyddus i gyfrannu hefyd, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed eu cyfraniadau nhw.
Ychydig wythnosau yn ôl, fe wnes i arwain ddadl fer yn y Siambr yma am yr angen i wella cydraddoldeb rhywedd a chynrychiolaeth o grwpiau lleiafrifol yn y Cynulliad yma. Rwy'n grediniol bod cael mwy o ferched—yn wir, nifer cydradd o ferched—mewn swyddi lle mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn bwysig wrth inni ymgyrraedd at genedl o gydraddoldeb, at y math o genedl ffeministaidd mae eraill wedi sôn sydd angen ei chreu yma yng Nghymru. Yn y ddadl ddiwethaf, mi wnes i sôn am ymchwil a wnaed sy’n dangos bod materion sy’n bwysig i fywydau bob dydd merched, a materion y dylid canolbwyntio arnyn nhw o ran creu cydraddoldeb, yn llawer mwy tebygol o gael eu codi mewn trafodaethau gan ferched. Mae anelu at gynrychiolaeth gydradd mewn bywyd cyhoeddus, felly, yn helpu i wella bywydau menywod yn gyffredinol. Nid dyna’r unig elfen sydd angen inni roi sylw iddo fo—a hynny o bell, bell ffordd. Nid ydw i ddim yn trio dweud hynny, ac rwy'n gwbl ymwybodol o’r rhychwant eang o waith sydd angen digwydd. Dyna pam yr hoffwn i weld cynllun gweithredu cenedlaethol ar gydraddoldeb rhywedd. Ond, mae o'n un elfen, ac yn elfen y gallwn ni fel aelodau etholedig ddylanwadu arni hi os ydym yn dymuno gwneud hynny.
Yn y ddadl ddiwethaf, mi wnes i sôn am waith panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad, sef 'Senedd sy’n Gweithio i Gymru', a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017. Rwy'n credu y byddai mabwysiadu’r holl argymhellion sydd yn yr adroddiad yn helpu i greu Cynulliad mwy cyfartal ac amrywiol, ac y dylid parhau i geisio consensws o gwmpas yr adroddiad hwnnw. Yn y ddadl ddiwethaf, mi wnes i dynnu sylw at argymhellion yn ymwneud â'i gwneud hi’n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno cwotâu er mwyn cael nifer cydradd o ymgeiswyr. Heddiw, rwyf i am hoelio sylw ar un arall o argymhellion y panel hwnnw a oedd hefyd yn rhan o’r gwaith o ystyried sut i wella amrywiaeth yn y Cynulliad. Yn ôl yr adroddiad: