Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 13 Mehefin 2018.
'Gallai galluogi ymgeiswyr sy’n sefyll dros yr un blaid neu fel ymgeiswyr annibynnol sefyll i’w hethol ar sail trefniadau rhannu swydd arwain at gynnydd yn yr amrywiaeth o gynrychiolwyr yn y Cynulliad. Gallai’r hyblygrwydd i sefyll ar sail rhannu swydd fod yn arbennig o fuddiol i ymgeiswyr hŷn, pobl ag anableddau, neu bobl â chyfrifoldebau gofalu.'
Mae’r Athro Rosie Campbell a’r Athro Sarah Childs—y ddwy a rannodd swydd, fel mae'n digwydd, fel aelodau o’r panel arbenigol—wedi cyfrannu llawer at y drafodaeth am rannu swyddi. Fe gyfrannodd y ddwy at waith a wnaed gan y Fawcett Society ar y posibilrwydd o Aelodau Seneddol yn rhannu swyddi, gan dynnu sylw at y manteision. Ac, yn 2012, fe gyflwynodd John McDonnell AS Fil rheol 10 Munud i Dŷ’r Cyffredin a chafwyd cefnogaeth drawsbleidiol iddo fo. Ond, yn ystod etholiad cyffredinol 2015, fe wrthodwyd rhoi caniatâd i ddwy aelod o'r Blaid Werdd a oedd yn gobeithio sefyll i gael eu hethol i Senedd y Deyrnas Unedig gan rannu swydd.
Mae’r wir dweud mai cyfyng fu’r drafodaeth ar rannu swyddi mewn seddau etholedig, ac roeddwn i'n falch iawn, felly, o weld argymhelliad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol yn y Cynulliad. Mae yn gyfle i ni gael y drafodaeth yn y fan yma. Ffurf ar weithio yn hyblyg yw rhannu swydd. Yn syml iawn, mae’n galluogi i ddau gyflogai rannu cyfrifoldebau a dyletswyddau un swydd llawn amser. Nid yw'n gysyniad newydd; mae'n deillio o'r 1970au ac mae rhannu swydd wedi cynyddu yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, yn enwedig mewn rhai swyddi rheolaethol, ac ar draws pob math o yrfaoedd. Ac mae llawer o enghreifftiau o arfer da.
Mewn adroddiad o’r enw 'Working Families', bu ymchwilwyr yn edrych ar 11 achos o rannu swydd. Roedd y swyddi hyn yn cynnwys prif weithredwr o ymddiriedolaeth iechyd, ditectif arolygydd, rheolwr siop fawr, cyfarwyddwr yn y gwasanaeth sifil, pennaeth adran mewn banc rhyngwladol, rheolwr gyda bwrdd dŵr a phrif weithredwr elusen. O edrych yn fyr ar un o’r rhain, fe fu cyfarwyddwyr ar y cyd y Bwrdd Astudiaethau Cyfiawnder yn rhannu swydd â’i gilydd, a hynny am dros 20 mlynedd—a hynny mewn saith swydd i gyd. Roedd hyn yn llwyddiant mawr. Roedd ganddyn nhw werthoedd tebyg a’r un agwedd tuag at waith ac at arweinyddiaeth, ond personoliaethau gwahanol, ac roedden nhw yn defnyddio cryfderau ei gilydd. Roedd rhannu swydd yn werthfawr iddyn nhw o ran trafod a chefnogi ei gilydd, ac fe oedd rhannu swydd yn hybu dull mwy cydweithredol o arwain a oedd o fudd i’r tîm cyfan, gan annog dirprwyo, ac felly yn creu cyfleon grymuso ar gyfer eraill yn y tîm.
Rwy'n credu y byddai yna fanteision amlwg o gyflwyno rhannu swydd ar ein cyfer ni fel Aelodau Cynulliad. Mae ymgyrchwyr hawliau anabledd yn gweld manteision amlwg i rannu swyddi, ac mae eraill yn gweld y gallai rhai mewn swyddi proffesiynol barhau i gynnal eu sgiliau fel doctoriaid, athrawon, gwyddonwyr ac ati tra eu bod hefyd mewn rôl etholedig—gyda lleihad mewn risg petaen nhw’n colli eu seddi, a hynny'n gwneud rhoi eu henwau nhw ymlaen yn y lle cyntaf, felly, yn fwy deniadol.
Roedd adroddiad y panel arbenigol yn nodi mai’r egwyddor arweiniol ganolog ar gyfer rhannu swydd yw y dylai partneriaid sy’n rhannu swydd gael eu trin fel petaen nhw'n un person. Byddai hyn yn golygu, er enghraifft, pe bai partner yn ymddiswyddo, y byddai yna ragdybiaeth awtomatig y byddai’r llall hefyd yn ymddiswyddo fel Aelod Cynulliad. Hefyd, mi fyddai angen eglurder a thryloywder o ran y tâl a’r cymorth ariannol ar gyfer trefniant rhannu swydd o’r fath. Fe wnaeth adroddiad y panel arbenigol argymell mai’r egwyddorion wrth wraidd trefniadau o’r fath yw y dylai ymgeiswyr egluro wrth bleidleiswyr y cytundeb sydd rhyngddyn nhw i rannu’r swydd, ac y dylai’r Aelodau hynny sy’n rhannu’r swydd beidio ag achosi unrhyw gostau ychwanegol sy’n uwch na chostau un Aelod Cynulliad.