9. Dadl Fer: Rhannu swyddi Aelodau'r Cynulliad: A fyddai caniatáu i Aelodau'r Cynulliad rannu swydd yn arwain at greu Cynulliad cydradd o ran rhywedd ac un mwy cynrychioliadol o’r boblogaeth gyfan?

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 6:30, 13 Mehefin 2018

Mae gan rannu swydd fanteision amlwg o ran creu cyfleon i ferched sydd â dyletswyddau gofalu—am blant ifanc neu am aelodau oedrannus o’r teulu. Gan mai merched, o hyd, ydy'r prif ofalwyr, ydy’r mwyafrif o ofalwyr, fe allai creu cyfleon i gyfuno dyletswyddau gofalu efo gweithio fel Aelod Cynulliad arwain at gynyddu’r nifer y menywod yma yn y Cynulliad. Gallai rhannu swydd fod yn opsiwn llawer iawn haws i'w amgyffred os ydych chi'n fenyw efo plant bychain, ac yn enwedig os ydych chi'n byw ymhell o Fae Caerdydd ac angen treulio cyfnod o bob wythnos i ffwrdd o gartref.

Sut fyddai fo’n gweithio, felly, o ran Aelodau Cynulliad yn rhannu swydd? Rhai o'm syniadau i ydy'r rhain, a rhai sy'n syniadau sydd wedi deillio o waith Cymdeithas Fawcett. Mae'r rhain yn bethau inni gnoi cil amdanyn nhw, yn amlwg, os ydym ni eisiau mynd ar hyd y trywydd yma. Ond, i ddechrau, byddai angen i’r ddau berson gyflwyno eu hunain fel un tîm o’r cychwyn cyntaf. Mi fyddai angen i’r ddau ymgeisydd gael eu barnu gan eu pleidiau i fod yn gymwys ag efo’r cymwysterau priodol—y ddau fel ei gilydd. Wrth gael eu dethol gan eu pleidiau, ac eto wrth gael eu hethol, byddai angen cyflwyno datganiad clir a chynhwysfawr am yr hyn maen nhw yn credu ynddo fo, eu blaenoriaethau nhw, eu hamcanion nhw, sydd wedi eu cael eu cytuno ar y cyd. Dylai ymgeiswyr ar gyfer rhannu swydd fanylu ar y rheolau a fyddai'n cael eu mabwysiadu ar gyfer pennu eu trefniadau gwaith o ddydd i ddydd.

Mae'n bwysig, rydw i'n meddwl, nad oes dim angen bod yn rhy benodol. Mae hyblygrwydd yn hollbwysig o ran y trefniadau gwaith. Efallai eu bod nhw yn gweithio rhannau gwahanol o’r wythnos, gwahanol rannau o’r flwyddyn seneddol, gweithio yn yr etholaeth, neu yng Nghaerdydd, rhannu gwaith etholaeth ar y penwythnos ar rota, rhannu portffolios, rhannu ymgyrchoedd. Byddai’r patrwm gwaith yn gallu amrywio yn ôl amgylchiadau a newid dros amser. Gallai un deithio i’r Senedd ganol bob wythnos a gwneud y gwaith yn fan hyn yn y Siambr ac ar bwyllgorau; gallai’r llall wneud y gwaith achos yn yr etholaeth. Ond, mewn gwirionedd, mater o drafodaeth fyddai fo, gyda hyblygrwydd yn nodwedd gwbl ganolog.

Byddai hyn yn gallu newid dros amser hefyd: efallai Aelod efo dyletswyddau gofal dros blant bychain yn treulio mwy o amser yn yr etholaeth ar y cychwyn, ond y patrwm hwnnw yn newid dros amser. Mi fyddai hi'n ffordd dda i ddenu merched efo plant at y swydd, a gall y rhannu swydd ddod i ben wrth i’r dyletswyddau gofal leihau, gan roi cyfnod o fentora a magu hyder a fyddai’n gwneud ymgeisio i fod yn Aelod Cynulliad yn y lle cyntaf yn llawer iawn mwy deniadol i lawer iawn mwy o bobl, yn cynnwys, wrth gwrs, merched.

Byddai dau berson yn rhannu’r gwaith o gynrychioli eu hetholwyr. Un bleidlais fyddai gan y ddau Aelod Cynulliad, ac fe ddylai’r cyhoedd fod yn glir pwy fydd yn pleidleisio a phryd. Byddai'r Aelodau Cynulliad yn ennill neu golli etholiad fel un, ac yn cael eu dal i gyfrif fel un gan yr etholwyr. Mi fyddai, wrth gwrs, angen cytuno protocol ar gyfer delio efo unrhyw wahaniaethau barn. Mae hyn yn bwysig, ond mae yna ffordd o'i gwmpas o. Mae cael y cyfathrebu yna yn glir o'r cychwyn, wrth gwrs, yn bwysig. A chofiwch, wrth gwrs, fod Aelodau pleidiau gwleidyddol yn atebol i’w pleidiau, ac mae gan y pleidiau ddulliau o ddelio efo a datrys anghydfod, petai'r math yna o sefyllfa yn codi. Y cyfathrebu clir rhwng y ddau sydd am rannu swydd, rhwng y ddau a’u pleidiau a rhwng y ddau a’u hetholwyr—mae hynny'n gwbl greiddiol i lwyddiant wrth rannu swydd.

Ac mae hi’n ddigon hawdd tynnu sylw at rai o’r problemau, ac rydw i'n gweld bod y busnes pleidleisio yma yn gallu bod yn un o'r meini tramgwydd, ond un mater ydy hwnnw. Mae'n ddigon hawdd tynnu sylw at y broblem, ond rydw i'n meddwl bod eisiau gwyntyllu'r cysyniad yn fanwl iawn, oherwydd rydw i'n credu bod angen troi pob carreg yn yr ymdrech i greu cenedl o gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru. Gall hyn fod yn rhan fechan o’r jig-sô—rhan fechan iawn—ond rhan o'r jig-sô sydd ei angen, ac mae gennym ni yma yn y Cynulliad gyfle i’w ystyried o fel rhan o’r pecyn o ddiwygiadau etholiadol sydd yn cael eu trafod ar hyn o bryd. Felly, ystyriwn a thrafodwn a down i benderfyniad, gobeithio, a fydd yn caniatáu inni symud i'r cyfeiriad yma. Diolch.