Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 13 Mehefin 2018.
Yn ogystal â chynnig ynni llanw gogledd Cymru ar gyfer y morlyn yr ydych wedi cyfeirio ato, rydych hefyd wedi cyfeirio'n fyr at gynigion oddi ar Ynys Môn. Pan gyfarfu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ag ardal fenter Ynys Môn yn gynharach eleni, cawsom gyflwyniad ar y cynigion ar gyfer technoleg 'gwyrdd dwfn' i gynhyrchu trydan oddi ar arfordir Ynys Môn. Rydych wedi crybwyll, rwy'n credu, ymweliad ym mis Chwefror. Pa ystyriaeth rydych chi a'ch swyddogion yn ei roi i'r adroddiad y maent wedi'i gynhyrchu, sy'n dangos y manteision amlwg y gallai hyn eu cynnig, nid yn unig i gynhyrchu ynni glân, ond hefyd i economi Ynys Môn?