1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 13 Mehefin 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i harneisio pŵer ynni'r llanw yng Ngogledd Cymru? OAQ52315
Mae gwaith blaenllaw ar y gweill ym mharth arddangos morol gogledd Cymru. Gallai ynni'r môr chwarae rhan bwysig yn y broses o sicrhau economi garbon isel i Gymru, gan greu swyddi hirdymor a thechnolegau y gellir eu hallforio. Dyna pam rydym yn parhau i gefnogi parth arddangos gogledd Cymru.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf, cynigiodd y Prif Weinidog £200 miliwn i wella rhagolygon morlyn llanw bae Abertawe. Fel arfer, mae'r ffocws cyfan wedi bod ar dde Cymru pan fo arfordir gogledd Cymru yn barod i gael ei ystyried ar gyfer y math hwn o brosiect. Rwy'n siŵr y byddai hyd yn oed canran fach o'r £200 miliwn hwnnw yn helpu i roi hwb cychwynnol i'r cysyniad y mae Ynni Llanw Gogledd Cymru yn gweithio arno. Pa gymorth y mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei roi fel y gellir rhoi'r prosiect hwn ar waith? Mae gogledd Cymru mewn sefyllfa i fod yn brosiect braenaru. Mae'n bryd edrych tua'r gogledd yn awr.
Nid wyf ond wedi cael un cyfarfod gyda'r cwmni sy'n cyflwyno cynigion môr-lynnoedd llanw i Gymru, ond yn sicr, roeddent yn edrych ac yn ystyried un yng ngogledd Cymru. Soniais ein bod yn cefnogi'r parth arddangos, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn, ac mae gennym sawl datblygwr yn ystyried pa gyfleoedd sydd ar gael yno. Rwy'n falch iawn fod gan Gymru ddau o'r parthau mwyaf ar gyfer arddangos araeau llanw a thonnau ac yn amlwg, byddem yn hapus iawn i edrych ar yr holl fathau o ynni morol sy'n cael eu cyflwyno. Ymwelais â Morlais yn Ynys Môn, ym mis Chwefror eleni rwy'n credu. Felly, rwy'n parhau, ac mae fy swyddogion yn parhau, i gynnal trafodaethau gyda phartïon sydd â diddordeb.
Rwyf newydd ddod o gyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar ynni cynaliadwy, grŵp yr wyf yn gadeirydd arno, a grŵp sy'n cael ei argymell yn fawr iawn i'r holl Aelodau, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond ymhlith y cyflwyniadau a gawsom, cafwyd un am waith y Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol ar Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Ymysg nifer o'r clystyrau ymchwil y mae'r rhwydwaith hwn wedi'u sefydlu, mae yna un ar ynni morol yn arbennig, sy'n amlwg yn gwneud cyfraniad pwysig i arloesedd ac ymchwil yn y maes hwn. Nawr, mae cyllid ar gyfer y rhwydwaith yn dod i ben ym mis Rhagfyr; nid oes unrhyw gynllun olynol, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae'r rhwydwaith wedi adeiladu llawer o fomentwm—mae wedi denu ymchwilwyr enwog o bedwar ban byd, sydd bellach yn gadael oherwydd nad ydynt yn gweld dyfodol i'r rhwydwaith penodol hwnnw. Felly, o gofio pwysigrwydd y gwaith y maent yn ei wneud yn y sector penodol hwn, sy'n arbennig o addawol i ni yma yng Nghymru, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth i weld beth y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod y rhwydwaith hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn parhau gyda'r gwaith?
Rwyf wedi dechrau cynnal trafodaethau cynnar iawn a gobeithio, erbyn mis Rhagfyr, y byddwn yn gallu gweld sut y gallwn helpu, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cadw'r wybodaeth hon. Rwy'n hoff iawn o bolisïau clwstwr, a chredaf ein bod yn gweld hynny'n digwydd yn y maes hwn. Ond rwy'n siŵr na fyddech yn disgwyl i mi gyhoeddi penderfyniad heddiw, ond mae'r gwaith ar y gweill.
Yn ogystal â chynnig ynni llanw gogledd Cymru ar gyfer y morlyn yr ydych wedi cyfeirio ato, rydych hefyd wedi cyfeirio'n fyr at gynigion oddi ar Ynys Môn. Pan gyfarfu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ag ardal fenter Ynys Môn yn gynharach eleni, cawsom gyflwyniad ar y cynigion ar gyfer technoleg 'gwyrdd dwfn' i gynhyrchu trydan oddi ar arfordir Ynys Môn. Rydych wedi crybwyll, rwy'n credu, ymweliad ym mis Chwefror. Pa ystyriaeth rydych chi a'ch swyddogion yn ei roi i'r adroddiad y maent wedi'i gynhyrchu, sy'n dangos y manteision amlwg y gallai hyn eu cynnig, nid yn unig i gynhyrchu ynni glân, ond hefyd i economi Ynys Môn?
Fel y dywedwch, cyfeiriais at y cyfarfod a gefais gyda Morlais yn ôl ym mis Chwefror. Cefais y newyddion diweddaraf ganddynt ar y datblygiadau sydd ar y gweill a'r gwaith y maent yn ei wneud mewn perthynas â chydsynio. Ond yn amlwg ni allaf drafod agweddau penodol ar gynllun aráe lanw Morlais oherwydd gallai hynny niweidio fy ystyriaeth o'r cais arfaethedig am orchymyn trafnidiaeth a gwaith, os a phryd y caiff ei wneud.