Pŵer Ynni'r Llanw yn y Gogledd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 1:33, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf, cynigiodd y Prif Weinidog £200 miliwn i wella rhagolygon morlyn llanw bae Abertawe. Fel arfer, mae'r ffocws cyfan wedi bod ar dde Cymru pan fo arfordir gogledd Cymru yn barod i gael ei ystyried ar gyfer y math hwn o brosiect. Rwy'n siŵr y byddai hyd yn oed canran fach o'r £200 miliwn hwnnw yn helpu i roi hwb cychwynnol i'r cysyniad y mae Ynni Llanw Gogledd Cymru yn gweithio arno. Pa gymorth y mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei roi fel y gellir rhoi'r prosiect hwn ar waith? Mae gogledd Cymru mewn sefyllfa i fod yn brosiect braenaru. Mae'n bryd edrych tua'r gogledd yn awr.