Pryfed yn Llanelli

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:00, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb, Weinidog. Ers i mi gyflwyno'r cwestiwn, rwy'n falch fod safle tebygol y pla bellach wedi'i nodi a'i drosglwyddo i Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae llawer iawn o straen a gofid o hyd, yn enwedig yn y Morfa a rhannau glan môr y dref lle roedd y broblem ar ei gwaethaf, ac roedd yn amhleserus iawn i lawer o deuluoedd. Mae llawer iawn o bryder y gallai'r broblem ddigwydd eto dros yr haf. Mae swyddogion y cyngor wedi gweithio'n galed i ddod o hyd i'r ffynhonnell, ond credaf fod yna rai gwersi i'w dysgu am gyfathrebu gyda'r gymuned, ac yn ddi-os, mae yna wersi ehangach i'w dysgu hefyd. A wnaiff Llywodraeth Cymru gynorthwyo Cyngor Sir Caerfyrddin i weld beth y gallant ei wneud i wella'r ansawdd amgylcheddol lleol, yn un o ardaloedd tlotaf Llanelli, ond hefyd i ystyried pa wersi y gallant hwy, a chynghorau eraill, eu dysgu rhag ofn y bydd hyn yn digwydd eto?