Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 13 Mehefin 2018.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn dilynol? Cydymdeimlaf yn llwyr â'r gofid a achosodd hyn i drigolion yn Llanelli, ac yn enwedig yr ardal sydd agosaf at y lle y digwyddodd, ac mae'n rhaid bod hynny wedi bod yn ofnadwy i bobl ar y pryd.
Yn sicr, mae yna bob amser wersi i'w dysgu o'r pethau hyn a gallwn wella'r hyn rydym wedi'i wneud bob amser. Fel y dywedais, nid yw'r cyngor wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am gymorth hyd yn hyn, ond rydym yn agored i'r trafodaethau hynny. Deallaf eu bod wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion y cyngor. Gwyddom fod y cyngor bellach wedi trosglwyddo cyfrifoldeb a chamau gorfodi posibl i Cyfoeth Naturiol Cymru, a phan fydd y gwaith papur gorfodi wedi'i gyflwyno, byddwn yn parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cyngor a'r gymuned leol i sicrhau nad oes digwyddiadau fel hyn yn digwydd eto.