Prosiectau Ynni Adnewyddadwy

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:05, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu ei bod yn deg fod cost adeiladu'r morlyn llanw cyntaf yn y byd yn cael ei chymharu â darpariaeth ynni niwclear yn Hinkley Point, pan gafodd yr orsaf bŵer niwclear gyntaf yn Calder Hall ei hadeiladu ym 1956, a lle mae'r costau datgomisiynu a gwaredu wedi'u capio, ac os yw'r gwir gost yn uwch na'r cap, bydd y gost yn cael ei thalu gan y Llywodraeth, h.y. ni'r trethdalwyr?