1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 13 Mehefin 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am brosiectau ynni adnewyddadwy yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52307
Diolch. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy yn y rhanbarth hwn. Mae un enghraifft, Awel Aman Tawe, wedi derbyn cymorth uniongyrchol o dros £4 miliwn ar gyfer ei brosiect mawr cyntaf. Mae'r grŵp yn dod yn gwmni ynni lleol pwysig yn rhanbarthol ac amlwg ar lefel y DU.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Yn naturiol, roeddwn i'n mynd i fynd ar ôl y morlyn llanw—y bondigrybwyll erbyn hyn, achos mae'n edrych eto fel ein bod ni'n wynebu oedi ynglŷn ag unrhyw gyhoeddiad am unrhyw ddyfodol i'r morlyn llanw ym mae Abertawe. Fel rydych chi'n gwybod, rydym ni wedi bod yn aros ers cyhoeddi adroddiad Hendry yn Ionawr 2017. Nawr, y cwestiwn ydy: a ydych chi wedi cael trafodaethau'n ddiweddar efo cyngor Abertawe ac efo'r cwmni morlyn llanw yn lleol—yn ddiweddar nawr, yn y dyddiau yma—ynglŷn ag unrhyw ffordd ymlaen? A ydych chi'n bersonol wedi cael unrhyw drafodaethau efo unrhyw Weinidogion yn Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol San Steffan ers i'r papur newydd, yr 'amseroedd ariannol', y Financial Times, adrodd nad oedd y morlyn llanw yn debygol o fynd ymlaen? Yn olaf, a oes yna unrhyw drafodaethau wedi bod efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â beth sydd ei angen i gael y morlyn yn realiti? Rydw i'n clywed beth rydych chi'n ei ddweud ynglŷn â'r llythyru oddi wrth y Prif Weinidog i fyny at Greg Clark, y Gweinidog perthnasol, ond rydw i'n credu, gan fod y prosiect yma mor affwysol bwysig i ni yn Abertawe, mae angen bod yn fwy rhagweithiol na hynny, a mynnu bod rhywbeth yn digwydd, yn bendant, os ydyn nhw'n parhau i ddweud bod £200 miliwn yn parhau i fod yn annigonol—pa swm sy'n mynd i fod yn ddigonol?
Mewn ymateb i'r pwynt olaf, nid wyf yn gwybod pa ffigur a fyddai'n dderbyniol, ond rwy'n siŵr y bydd Greg Clark yn hysbysu'r Prif Weinidog os yw hynny, yn wir, yn broblem. Mater i Lywodraeth y DU yw hwn. Hwy sydd wedi oedi a gwthio'r penderfyniad am y morlyn llanw o'r neilltu. Fe fyddwch yn gwybod am adroddiad Hendry, ac os oes unrhyw un wedi ei ddarllen, roedd yn adroddiad cadarnhaol iawn—un o'r adroddiadau mwyaf cadarnhaol rwyf erioed wedi'i ddarllen, mae'n debyg. Felly, mae'n rhaid i ni aros am Lywodraeth y DU, ond yn bendant, mater iddynt hwy benderfynu yn ei gylch yw hyn bellach.
Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda chyngor Abertawe na'r cwmni morlyn llanw fy hun, ond rwy'n ymwybodol fod cyd-Aelodau gweinidogol eraill wedi gwneud hynny. Roedd y cyfarfod a gefais, ac rwy'n credu mai hwnnw yw'r pwysicaf yn ôl pob tebyg, gyda Claire Perry, Gweinidog ynni yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ynglŷn ag amrywiaeth o sectorau ynni adnewyddadwy. Llwyddais i fynegi pryder, er enghraifft, ynglŷn ag ynni solar—mae pobl yn dal i gwyno wrthyf am y penderfyniad i gael gwared ar y tariff cyflenwi trydan; penderfyniad polisi annoeth iawn, rwy'n credu—ac yn amlwg, cawsom drafodaethau ynglŷn ag ynni gwynt ar y tir ac ar y môr.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu ei bod yn deg fod cost adeiladu'r morlyn llanw cyntaf yn y byd yn cael ei chymharu â darpariaeth ynni niwclear yn Hinkley Point, pan gafodd yr orsaf bŵer niwclear gyntaf yn Calder Hall ei hadeiladu ym 1956, a lle mae'r costau datgomisiynu a gwaredu wedi'u capio, ac os yw'r gwir gost yn uwch na'r cap, bydd y gost yn cael ei thalu gan y Llywodraeth, h.y. ni'r trethdalwyr?
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw, Mike Hedges, a dywedaf eto: mae'n rhaid i mi fod yn ofalus iawn o ran yr hyn a ddywedaf am brosiectau penodol—rwyf wedi fy nghyfyngu'n fawr, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y morlyn llanw arfaethedig ar gyfer bae Abertawe.
Credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod costau pŵer môr-lynnoedd llanw yn cael eu cymharu â thechnolegau eraill ar sail deg—credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn—ac mae'n rhaid i chi ystyried oes hir môr-lynnoedd, yn ogystal â'r holl effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol eraill. Nid yw ystyried costau, allbynnau ynni a phris streic unrhyw brosiect ynni, wrth gwrs, yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ac felly credaf y byddai'n fwy priodol i Lywodraeth y DU, mewn gwirionedd, esbonio'r rhesymeg sy'n sail i'r cymariaethau diweddar â Hinkley Point C.
O ran y sylwadau am Calder Hall, eto, mae datgomisiynu polisi niwclear yn fater a gedwir yn ôl, felly byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU esbonio eu safbwyntiau a sut y gwnaethant y penderfyniadau hynny. Nid ydym wedi bod yn rhan o unrhyw drafodaethau manwl gyda Llywodraeth y DU a hyrwyddwyr pŵer môr-lynnoedd llanw, er enghraifft, felly nid ydym yn gwybod sut y mae cost pŵer môr-lynnoedd yn cymharu â dewisiadau eraill y maent yn eu hystyried.
Wel, yn amlwg, rwy'n rhannu rhwystredigaeth pawb ynglŷn â chyflymder y newyddion mewn perthynas â'r morlyn llanw. Ond rwy'n credu bod angen i ni gadw golwg ar y sefyllfa o hyd mewn perthynas â ffynonellau ynni adnewyddadwy eraill yn ogystal. Mae prifysgol gwyddoniaeth gymhwysol Stuttgart wedi cynghori yn ddiweddar mai cyfuniad o ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl pob tebyg, yw'r ffordd orau o leihau allyriadau mewn ardaloedd trefol, ac maent wedi darganfod, os ydych yn ystyried ynni biomas neu geothermol, mae'n bosibl i'r ardaloedd trefol hynny gyfrannu bron i hanner eu hynni eu hunain o ffynonellau adnewyddadwy. Fel y gwyddoch, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig buddsoddi yn y modelau ynni adnewyddadwy cymysg hyn, fel y gall ein dinasoedd mawr wrthbwyso eu defnydd o drydan erbyn 2030. A wnewch chi edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio mwy o ynni biomas a geothermol fel rhan o'r model cynhyrchu ynni cymysg yma yng Nghymru yn awr, pan fo gennym gyfle i wneud hynny?
Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn cadw golwg ar gyfuniad o wahanol fathau o ynni adnewyddadwy, ac fe grybwyllais fferm wynt gymunedol Awel Aman Tawe yn fy ateb cyntaf i Dai Lloyd. Mae honno'n eiddo i'r gymuned yn gyfan gwbl. Roedd yn costio £8 miliwn, a chredaf ein bod wedi cyfrannu hanner y swm hwnnw—credaf mai tua £4 miliwn ydoedd. Maent yn awr, unwaith eto, ar y blaen o ran talu eu had-daliadau yn ôl i ni. Fe fyddwch yn gwybod am brosiect Adfywio Gŵyr hefyd. Felly, rwy'n hapus iawn i edrych ar bob math o ynni adnewyddadwy, ac os ydym am gyrraedd y targedau uchelgeisiol iawn a osodais y llynedd, mae angen i ni weld y cyfuniad hwnnw.