Codau Ymarfer Lles Anifeiliaid

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:12, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Fis diwethaf, derbyniodd Senedd y DU ddeiseb gyda 143,000 o lofnodion arni gan gefnogwyr yn ymgyrchu i wahardd pobl rhag gwerthu cŵn bach mewn siopau anifeiliaid anwes a gwerthwyr trydydd parti eraill. Enwyd yr ymgyrch yn gyfraith Lucy, er cof am darfgi Siarl a achubwyd o'r enw Lucy, a oedd wedi cael ei defnyddio fel peiriant magu ar fferm fridio cŵn bach heb unrhyw ystyriaeth i'w lles, ac mae cefnogaeth drawsbleidiol i'r ymgyrch honno. Bydd cyfraith Lucy yn helpu i gael gwared ar fridio a gwerthu anghyfrifol, yn enwedig o ffermydd cŵn bach, gan ei bod yn ei gwneud yn anghyfreithlon i werthu cŵn bach oni bai bod y fam yn bresennol. Ysgrifennydd y Cabinet, a yw cyfraith Lucy yn gyfraith y gallai Llywodraeth Cymru ystyried ei chyflwyno yng Nghymru?