Codau Ymarfer Lles Anifeiliaid

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:13, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn, Joyce Watson. Unwaith eto, mae hwn yn faes—gwerthiannau trydydd parti—y byddaf yn ei gyflwyno yn fy natganiad llafar ddydd Mawrth nesaf. Gwn y bydd yna ddigwyddiad y mae'r Aelod yn ei noddi mewn perthynas â chyfraith Lucy yn y Senedd, ar ddechrau mis Gorffennaf, rwy'n credu. Ers i mi gael y portffolio hwn, mae gweld y galw uchel ymysg pobl sydd eisiau gwerthiannau trydydd parti wedi peri pryder mawr i mi. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â hyn. Felly, byddaf yn cyflwyno gwybodaeth bellach yn y datganiad ddydd Mawrth.