Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 13 Mehefin 2018.
Pan ofynnoch chi'r cwestiwn, mi wnes eich ateb chi fan hyn yn y Siambr, a hefyd ar fy mlog, ac rydych chi wedi fy nghwestiynu i ar hynny ers i mi gyhoeddi'r erthygl. Ac roeddwn i'n hollol glir ar y pryd fod gen i weledigaeth ar gyfer y dyfodol ac mae gen i weledigaeth o lywodraeth wahanol yng Nghymru—llywodraeth lle rydym ni yn datganoli o'r lle yma, ac mi rydych chi a'ch Plaid wedi gwneud digon—. Rydw i wedi clywed digon o areithiau gan Plaid Cymru ar hynny dros y blynyddoedd, ac nawr rydw i'n cynnig hynny. Rydw i'n cynnig datganoli o fae Caerdydd i Ddinbych, i sir Fôn, i Gaernarfon, hyd yn oed i Fangor. Ac rydw i'n cynnal y drafodaeth honno gyda llywodraeth leol, ond hefyd y tu hwnt i lywodraeth leol. Gormod o weithiau yn y fan hyn rydym ni'n sôn amboutu llywodraeth fel taw ni a chynghorwyr sydd ei phiau hi. Rydw i'n meddwl mai pobl Cymru sydd biau'r ffordd yr ydym ni'n llywodraethu, nid gwleidyddion.