Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 13 Mehefin 2018.
Wel, gadewch i ni symud ymlaen o'r cwestiwn o gost am ychydig, felly, a throi at un o'r cwestiynau y gwnes i eu gofyn i chi pan gawsoch chi eich penodi fel Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol. Y cwestiwn hwnnw oedd pa fath o steil yr oeddech chi am ei fabwysiadu wrth ddelio efo llywodraeth leol. Mae'n wir, efallai, nad ydym ni wedi gweld y fath lefel o ffraeo a checru yn y cyfryngau rhyngoch chi a'r awdurdodau lleol, ond mae'r anghytuno croch yn parhau, a'r gwirionedd ydy nad oes yna gefnogaeth gan gynghorau lleol i gynigion y Papur Gwyrdd.
Mae Debbie Wilcox, fel rydych chi'n gwybod yn iawn, wedi dweud bod unrhyw amcangyfrif synhwyrol yn dangos na fuasai uno cynghorau yn arbed arian. 'Tynnu sylw diangen', meddai arweinydd cyngor Caerffili, a ddoe, fel y clywsom ni, mi gawsom ni ymateb ffurfiol gan Gyngor Sir Ddinbych hyd yn oed, sef un o'r ychydig gynghorau a oedd yn barod i uno yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf, a Dinbych yn nodi nad oes achos credadwy dros newid wedi'i wneud yn nogfen ymgynghori'r Papur Gwyn. Pan ddechreuoch chi yn y rôl yma, dywedoch chi ei bod hi'n bryd cael perthynas newydd efo llywodraeth leol. Ai creu anghytundeb llwyr rhwng y Llywodraeth ac awdurdodau lleol a oedd gennych chi mewn golwg?