Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:45, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Mae amrywiaeth yn rhywbeth yr ydym ar fin ei archwilio yn y pwyllgor llywodraeth leol, felly byddwn yn bwydo i mewn i'r broses honno gobeithio, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n ymwneud â ni. Rhoesoch ateb diddorol ynglŷn â mater y refferendwm lleol, gan gyfeirio at Galiffornia fel enghraifft, felly mae hynny'n galondid. O gofio eich diddordeb yn y syniadau hyn a'r gwahanol ffurfiau ar ddemocratiaeth—democratiaeth gynrychioliadol, democratiaeth uniongyrchol ac ati—byddai'n ddiddorol gweld sut y ceisiwch ymgorffori'r syniadau hyn wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, a fyddech yn derbyn bod yna broblem o ran canfyddiad y cyhoedd o'r system gynllunio yng Nghymru—nid yng Nghymru'n unig, ond yn y DU—a'i bod yn ymddangos fel pe na bai'n cynrychioli dinasyddion lleol yn ddigon da?