Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 13 Mehefin 2018.
Na, ni fuaswn yn derbyn hynny, ac wrth gwrs, mae fy ffrind, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig newydd ateb cwestiynau ar y materion hyn, ac felly nid wyf am fynd ar drywydd unrhyw ddadl neu drafodaeth bellach ar gynllunio yn benodol. Yr hyn a ddywedaf wrth geisio ateb y cwestiwn mewn ffordd gadarnhaol yw eich cyfeirio at y pwyntiau a wneuthum ynglŷn â'r ffaith mai dinasyddion sy'n berchen ar lywodraethiant y wlad hon ac nid gwleidyddion. A'r hyn sy'n bwysig i mi yw ein bod yn gallu edrych am ffyrdd a dulliau newydd a gwahanol o'n dwyn ni fel gwleidyddion, fel Gweinidogion, fel Aelodau Cynulliad a chynghorwyr awdurdodau lleol i gyfrif. Ond hefyd, sut y mae grymuso gwahanol lefelau o lywodraeth leol? Cefais gyfarfod da iawn gyda phanel o gynghorau tref a chymuned y bore yma, yn dadlau a thrafod rhai o'u cynigion, a fydd, gobeithio, yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf. Ond i mi, mae hyn yn gadarnhaol ac yn cyfoethogi dadl ynglŷn â grymuso; nid dadl syml ydyw am linellau ar fapiau, prosesau uno a sut i naill ai gynnig neu osgoi'r materion hynny. I mi, y mater gwirioneddol bwysig am y ddadl ar ddiwygio llywodraeth leol yw'r uchelgais, y pen draw, y weledigaeth ac nid y broses yn unig.