Cefnogaeth i Aelodau'r Lluoedd Arfog

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:19, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb hwnnw. Yn gynharach heddiw, roeddem yn mwynhau dathliad o ganmlwyddiant y Llu Awyr Brenhinol yn y Senedd gyda grŵp o brif farsialiaid y Llu Awyr Brenhinol a'r prif Aelodau Cynulliad yno. Mae'n ddiwrnod mawr i'r Cynulliad. Yn ddiweddar, cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid ymchwiliad i effaith cyfamod y lluoedd arfog ar bersonél y lluoedd arfog. Mae'r ymchwiliad hwn wedi nodi problemau'n ymwneud â sut y mae sefydliadau sector cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau, gan gynnwys diffyg atebolrwydd am gyflawni'r cyfamod, diffyg ymwybyddiaeth ymysg staff y sector cyhoeddus a diffyg cynaliadwyedd o ran y ffordd y caiff gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r Llywodraeth eu hariannu. Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ymateb i'r pryderon hyn, ac a wnaiff ailystyried ei benderfyniad i wrthod comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru, os gwelwch yn dda?