2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 13 Mehefin 2018.
1. Pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cyflwyno i wella'r gefnogaeth i aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru dros y 12 mis nesaf? OAQ52290
Lywydd, rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf a byddwn yn parhau i adeiladu ar y cynnydd hwnnw. Yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Ebrill, nodais y cymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gymuned y lluoedd arfog yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb hwnnw. Yn gynharach heddiw, roeddem yn mwynhau dathliad o ganmlwyddiant y Llu Awyr Brenhinol yn y Senedd gyda grŵp o brif farsialiaid y Llu Awyr Brenhinol a'r prif Aelodau Cynulliad yno. Mae'n ddiwrnod mawr i'r Cynulliad. Yn ddiweddar, cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid ymchwiliad i effaith cyfamod y lluoedd arfog ar bersonél y lluoedd arfog. Mae'r ymchwiliad hwn wedi nodi problemau'n ymwneud â sut y mae sefydliadau sector cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau, gan gynnwys diffyg atebolrwydd am gyflawni'r cyfamod, diffyg ymwybyddiaeth ymysg staff y sector cyhoeddus a diffyg cynaliadwyedd o ran y ffordd y caiff gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r Llywodraeth eu hariannu. Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ymateb i'r pryderon hyn, ac a wnaiff ailystyried ei benderfyniad i wrthod comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru, os gwelwch yn dda?
Lywydd, nid wyf yn siŵr fod honno'n farn gwbl—sut y gallaf ddweud—gytbwys ar yr adroddiad hwnnw, ond o ran y gefnogaeth a ddarparwn ar gyfer cymuned y lluoedd arfog yn gyffredinol, byddaf yn parhau i adolygu hynny. Rwyf wedi gwneud datganiad ar sut y byddwn yn ymateb i adroddiad y grŵp trawsbleidiol—adroddiad rwy'n ei werthfawrogi'n fawr, mae'n rhaid i mi ddweud—a byddwn yn edrych ar sut y gallwn gryfhau'r meysydd gwahanol o gymorth.
Ond rwyf am ddweud wrth yr Aelod fod hyn yn cael ei brif ffrydio drwy ein gwaith yn ogystal. Ddoe, siaradais mewn cynhadledd yng Nghaerdydd ynglŷn â sut rydym yn darparu cymorth penodol, ac angen darparu cymorth penodol, ar anghenion dysgu ychwanegol i blant sy'n dod o gymuned y lluoedd arfog. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â charchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yno siaradais ag aelodau o staff sy'n gweithio yn adain Endeavour, sydd wedi'i neilltuo ar gyfer aelodau o gymuned y lluoedd arfog. Felly, tra byddwn yn parhau i ddarparu cymorth penodol ar gyfer cyn-filwyr a'r rheini sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog, byddwn hefyd yn sicrhau ei fod yn cael ei brif ffrydio drwy holl waith y Llywodraeth.