Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:00, 13 Mehefin 2018

Diolch. Ddechrau'r wythnos, mi gyhoeddodd eich cyd Aelodau o'r Llywodraeth yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd a'r Gweinidog gofal cymdeithasol gynllun ar gyfer dyfodol iechyd a gofal, ac un o'r amcanion ydy sicrhau gwell cydweithio ac, yn wir, integreiddio rhwng gwaith llywodraeth leol a byrddau iechyd. Un cwestiwn sydd ar fy meddwl i, ac rydw i'n gwybod sydd ar feddwl rhai mewn llywodraeth leol yng Nghymru, ydy: siawns, wrth roi cynllun iechyd a gofal newydd at ei gilydd, fod angen sefydlogrwydd mewn llywodraeth leol er mwyn delifro hynny. Nid ydy ad-drefnu llywodraeth leol, ac felly ad-drefnu adrannau gwasanaethau gofal cymdeithasol, ddim yn debygol o helpu efo'r broses integreiddio. Yr awgrym fel rydw i'n ei gweld hi—mi ddymunwn i gael eich barn chi—ydy bod gwahanol adrannau o'ch Llywodraeth chi ddim i'w gweld yn siarad efo'i gilydd.