2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 13 Mehefin 2018.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl llywodraeth leol yn y broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52328
Mae rôl llywodraeth leol yn hanfodol bwysig ar gyfer ein cymdeithas a llesiant ein cenedl. Rydw i wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn gynaliadwy ac o ansawdd uchel, ac yn cynnwys dinasyddion a phartneriaid yn y broses.
Diolch. Ddechrau'r wythnos, mi gyhoeddodd eich cyd Aelodau o'r Llywodraeth yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd a'r Gweinidog gofal cymdeithasol gynllun ar gyfer dyfodol iechyd a gofal, ac un o'r amcanion ydy sicrhau gwell cydweithio ac, yn wir, integreiddio rhwng gwaith llywodraeth leol a byrddau iechyd. Un cwestiwn sydd ar fy meddwl i, ac rydw i'n gwybod sydd ar feddwl rhai mewn llywodraeth leol yng Nghymru, ydy: siawns, wrth roi cynllun iechyd a gofal newydd at ei gilydd, fod angen sefydlogrwydd mewn llywodraeth leol er mwyn delifro hynny. Nid ydy ad-drefnu llywodraeth leol, ac felly ad-drefnu adrannau gwasanaethau gofal cymdeithasol, ddim yn debygol o helpu efo'r broses integreiddio. Yr awgrym fel rydw i'n ei gweld hi—mi ddymunwn i gael eich barn chi—ydy bod gwahanol adrannau o'ch Llywodraeth chi ddim i'w gweld yn siarad efo'i gilydd.
Nid ydym ni jest yn siarad gyda'n gilydd, ond rydym ni'n cytuno gyda'n gilydd. Mi ges i gyfarfod gyda Vaughan ddechrau'r wythnos i drafod hynny, ac rydw i'n ei weld e yn nes ymlaen y prynhawn yma i barhau i drafod hynny. A gaf i ddweud hyn? Nid ydw i'n cytuno gyda'r dadansoddiad rydych chi'n ei wneud. I fi, os ydy cydweithio rhanbarthol yn y ffordd rydych chi wedi'i ddisgrifio ac yn y ffordd mae'r ymateb i'r adroddiad seneddol yn mynnu ac yn gobeithio ei weld ac yn cynllunio ar ei gyfer yn dibynnu ar gapasiti awdurdodau lleol ac adrannau i gyfrannu at hynny, nid yw e'n fater o un yn gwneud gwaith y llall; mae'n fater o greu capasiti a chreu cryfder y tu fewn i'r cynghorau. Ar hyn o bryd, mae'r cynghorau eu hunain yn dweud nad yw'r sefyllfa bresennol ddim yn gynaliadwy, felly nid yw e'n bosibl adeiladu cydweithio ar system sydd ddim yn gynaliadwy ei hun. Felly, i fi, beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n rhoi'r fframwaith mewn lle sydd yn creu capasiti, sydd yn creu'r capasiti i gydweithio ar gyfer y dyfodol, ac i sicrhau dyfodol gweithwyr cymdeithasol, a hefyd y capasiti i ddelifro ar gyfer y cynllun rydym ni wedi'i gyhoeddi. Felly, nid ydw i'n ei weld e fel dewis; rydw i'n ei weld e fel proses.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn sôn am adeiladu capasiti, ac rwy'n cofio bod llawer o'r sgyrsiau pan aildrefnwyd y byrddau iechyd yn ôl yn 2009 yn ymwneud â 'chreu sefydliadau mwy o faint er mwyn creu capasiti'. Ni fu hynny'n llwyddiant digamsyniol. Ond un o'r pethau y gallech ddweud a fyddai o fudd i awdurdodau lleol ar draws Cymru, yn enwedig po bellaf yr ewch o Gaerdydd, fyddai datganoli pwerau a chyfrifoldebau arbennig yn ymwneud â datblygu economaidd. Gyda datblygiad meiri metro a meiri dinasoedd yn Lloegr, mae'r cysylltiadau hyn, yn drawsffiniol, yn hanfodol bwysig a phan edrychwch ar ddatblygu economaidd yn arbennig, lle mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae, cânt eu grymuso i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau lleol ac o fudd i'w cymunedau lleol. Pa asesiad, yn yr amser y buoch yn Weinidog, a wnaethoch ynglŷn â pha bwerau a fyddai'n fuddiol ar lefel leol yn hytrach na'u bod yn cael eu cadw ar lefel Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu economaidd?
Rwy'n ofni, Lywydd, y gallai fod gormod o gytundeb rhyngof fi a mainc flaen y Ceidwadwyr ar rai o'r materion hyn. Rwy'n gryf o blaid datganoli pwerau a chyfrifoldebau ychwanegol i lywodraeth leol; dyna rwyf eisiau ei weld. Rwyf am weld mwy o bwerau'n cael eu cadw yn lleol a mwy o atebolrwydd yn lleol. Bydd arweinydd y Ceidwadwyr yn cofio mai un o fy ngweithredoedd cyntaf ar ôl fy mhenodi oedd ysgrifennu at yr holl arweinwyr llywodraeth leol yng Nghymru ac at yr holl Aelodau yma yn gofyn pa bwerau y credent y dylid eu datganoli i lywodraeth leol a pha bwerau y byddent am eu gweld yn cael eu cadw'n lleol. Yn bersonol, hoffwn weld safbwynt mwy strategol a mwy hael ynglŷn â'r pwerau y dylid eu cadw'n lleol. Caf fy nenu gan fodelau llywodraethu lle mae cymunedau lleol a siroedd—yn niffyg term gwell—yn gallu gwneud penderfyniadau arwyddocaol iawn, ac yn gallu mynd ar drywydd dulliau gweithredu sy'n briodol i'r ardal leol a'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli.
Bydd arweinydd y Ceidwadwyr yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi cyhoeddi cynllun gweithredu economaidd sy'n grymuso rhanbarthau Cymru i weithredu yn y modd hwn mewn gwirionedd. Rwy'n gweld hynny fel rhan o broses ar gyfer grymuso rhanbarthau gwahanol a gwahanol rannau o'r wlad i wneud yr union benderfyniadau y sonioch chi amdanynt. Gwnaeth yr Aelod dros Ynys Môn bwynt tebyg iawn, mewn sawl ffordd, ynghylch gweithio rhanbarthol. Y pwynt a wnaf i chi yn gwbl o ddifrif yw na allwch adeiladu cestyll ar dywod. Os nad oes gennym y strwythurau a'r blociau adeiladu sylfaenol, sef awdurdodau lleol cynaliadwy, yna ni ddaw dim o'r gweithio rhanbarthol hwnnw, oherwydd ni fyddwn yn gallu cynnal y gwasanaethau. Felly, i mi, mae angen inni fynd drwy broses o ddiwygio a newid, a phan fyddwn wedi gwneud hynny, byddwn yn gallu darparu'r math o ddatganoli cyfrifoldebau a phwerau y mae arweinydd y Ceidwadwyr wedi'i ddisgrifio ac y mae eraill wedi'i ddisgrifio heddiw hefyd.