Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 13 Mehefin 2018.
Yn bendant. Ceir cydberthynas arwyddocaol rhwng y pellter o adref a nifer yr ymweliadau cartref a gafwyd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd angen i ni ei ystyried. Mewn gwirionedd, o ran llawer o'r bobl ifanc a phlant a gedwir yn sefydliad troseddwyr ifanc y Parc, er enghraifft, y rhai sydd bellaf oddi cartref yw'r bobl sy'n hanu o Loegr, o Lundain neu Birmingham neu fannau eraill. Er nad oes gennyf broblem gyda chyfeiriad neu genedligrwydd y bobl, fy mhroblem yw'r pellter o adref, ac mae angen inni gael cyfleusterau—yn achos plant a phobl ifanc, canolfan lle y gallant barhau mewn addysg, lle y gellir darparu cymorth ar eu cyfer. Mae gan lawer o'r bobl hyn anghenion cymhleth, boed yn salwch meddwl neu'n gamddefnyddio sylweddau, ond hefyd dônt o gefndiroedd, weithiau, sy'n anodd iawn, ac maent angen cymorth a chefnogaeth yn hytrach na charchariad llym. Yr hyn y gobeithiaf y byddem yn gallu ei wneud mewn polisi cosbi Cymreig yw gwreiddio hynny mewn ymdeimlad o adsefydlu, cymorth, dyngarwch a pharch er mwyn ein galluogi i symud ymlaen mewn ffordd wahanol iawn.