2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 13 Mehefin 2018.
4. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddata yn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales: A Factfile'? OAQ52326
Rydym wedi darllen yr adroddiad gan Dr Robert Jones. Mae'n cyflwyno darlun defnyddiol iawn o'r hyn sy'n digwydd yng ngharchardai Cymru a materion sy'n ymwneud â phobl o Gymru a gedwir mewn carchardai yn Lloegr.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf ddyfyniad o'r ail baragraff:
Nid yw carchardai yng Nghymru yn perfformio cystal â charchardai yn Lloegr ar amrywiaeth o fesurau diogelwch carchar. Mae nifer y digwyddiadau a gofnodwyd o hunan-niwed ac ymosodiadau carchar yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd uwch nag... yn Lloegr.
Mewn gwirionedd roedd mwy o ddigwyddiadau yng Ngharchar y Parc nag mewn unrhyw garchar arall yng Nghymru a Lloegr. Fel y data yn yr adroddiad, mae hynny'n sicr yn dangos cyflwr a natur anhrefnus y gwasanaeth carchardai yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn wir, mae'n effeithio'n andwyol ar garcharorion o Gymru a'u teuluoedd a'u bywydau pan fyddant yn gadael carchar o ganlyniad i hynny. Mae'n tynnu sylw mewn gwirionedd at dwpdra llwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyflwyno cynnig ar gyfer carchar ym Maglan, sydd wedi'i dynnu oddi ar yr agenda bellach. Ond nododd eich datganiad ar 6 Ebrill eich bod am drafodaethau ystyrlon ar ddyfodol y polisi cosbi yng Nghymru gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, i sicrhau bod gennym ateb Cymreig ar gyfer carcharorion o Gymru. Pa mor bell y mae hynny wedi mynd gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder? A gawsoch drafodaethau â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ddatganoli'r system gosbi fel y gallwn sicrhau bod carcharorion o Gymru yn cael y cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn nes at adref, yn nes at eu teuluoedd, ac nad ydynt yn cael eu cadw mewn rhyw fath o warws yn rhywle arall?
Ymwelais â charchar y Parc yr wythnos diwethaf a siaradais â chyfarwyddwr y carchar ac aelodau eraill o'i staff sy'n ymdrin yn uniongyrchol â phobl sy'n cael eu cadw yno, a thrafodwyd yr holl faterion hynny gyda'r cyfarwyddwr. Rwy'n ymweld â charchar Berwyn bore yfory a byddaf yn cael sgyrsiau tebyg gyda'r staff yno. Rhannaf eich pryder. Rhannaf y pryder am yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, y credaf ei fod yn dilyn wrth sodlau nifer o adroddiadau beirniadol ynghylch yr amodau mewn sefydliadau diogel yng Nghymru. Credaf fod angen dull sylfaenol wahanol o weithredu. Siaredais mewn cwestiwn cynharach am yr angen i gael ymagwedd fwy cyfannol yn y materion hyn, ac mae hynny'n wir yma yn ogystal.
Roedd gennyf gyfarfod yn fy nyddiadur gyda Dr Phillip Lee, a thybiaf y caiff ei aildrefnu bellach, a hoffwn—[Torri ar draws.] Mae Dr Lee yn un o'r grŵp o bobl sydd wedi sefyll etholiad ym Mlaenau Gwent, felly mae gennym rywbeth yn gyffredin. Rwy'n talu teyrnged iddo ef ac i'r gwaith a wnaeth yn ei swydd. Roeddwn yn meddwl ei bod hi'n newid braf cael siarad â Gweinidog Ceidwadol a oedd yn deall llawer o'r materion rydym yn ymdrin â hwy, ac mae'n flin iawn gennyf ei fod wedi teimlo'r angen i ymddiswyddo ddoe.
Ond byddaf yn mynd ar drywydd y materion hyn. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Gweinidog carchardai, Rory Stewart, ac rydym yn aros i glywed a fydd hynny'n gallu mynd rhagddo. Ond mae'r angen i fynd i'r afael mewn modd cyfannol â pholisi cosbi yng Nghymru yn greiddiol i'r mater hwn i mi. Nid wyf yn credu y gallwn fynd i'r afael â'n dull o ymwneud â pholisi cosbi yng Nghymru yn iawn cyhyd â'i fod yn cael ei reoli gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy'n dilyn blaenoriaethau ac athroniaethau Llywodraeth wahanol a dull sylfaenol wahanol o weithredu. Mae angen polisi cosbi sy'n seiliedig ar barch, dyngarwch ac adsefydlu, ac un sy'n gwasanaethu pob rhan o'n cymunedau ar draws Cymru gyfan.
Fel un arall o gyn-fechgyn etholiadol Blaenau Gwent, os mai dyna'r ffordd iawn o'i roi, credaf mai llwyddiant cyfyngedig a gafodd pawb ohonom. Cafodd hynny ei drawsnewid gennych chi yn ddiweddar, ond yn sicr apêl gyfyngedig a oedd i mi a Mr Lee. A gaf fi gymeradwyo gwaith Robert Jones, gŵr yr wyf yn ei adnabod—ac rwyf wedi cael y pleser o gynnal digwyddiad lle roedd yn brif siaradwr yma yn y Cynulliad—a gwaith Canolfan Llywodraethiant Cymru hefyd? Mae hwn yn ddeunydd o ansawdd gwirioneddol dda ac mae angen inni ei ystyried.
Rwy'n falch o weld bod nifer y plant o Gymru mewn carchardai wedi gostwng o 116 yn 2010 i 32 yn 2017. Credaf y dylai rhoi plant yng ngharchar fod yn ddewis pan fetho popeth arall. Mae'r duedd honno'n disgyn ac mae hynny'n beth da. Ond mae'n golygu bod mwy a mwy o blant yn gorfod teithio i sefydliadau troseddwyr ifanc, sydd eu hunain yn cau. Felly, mae gennym ganran uwch o blant Cymru bellach yn teithio pellteroedd mawr, ac mae rhai ohonynt yn adrodd nad ydynt byth yn cael ymweliad gan rieni oherwydd y caledi y mae hynny'n ei achosi. A wnewch chi edrych ar hyn a gweld a allwn wella sefyllfa'r teuluoedd hyn?
Yn bendant. Ceir cydberthynas arwyddocaol rhwng y pellter o adref a nifer yr ymweliadau cartref a gafwyd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd angen i ni ei ystyried. Mewn gwirionedd, o ran llawer o'r bobl ifanc a phlant a gedwir yn sefydliad troseddwyr ifanc y Parc, er enghraifft, y rhai sydd bellaf oddi cartref yw'r bobl sy'n hanu o Loegr, o Lundain neu Birmingham neu fannau eraill. Er nad oes gennyf broblem gyda chyfeiriad neu genedligrwydd y bobl, fy mhroblem yw'r pellter o adref, ac mae angen inni gael cyfleusterau—yn achos plant a phobl ifanc, canolfan lle y gallant barhau mewn addysg, lle y gellir darparu cymorth ar eu cyfer. Mae gan lawer o'r bobl hyn anghenion cymhleth, boed yn salwch meddwl neu'n gamddefnyddio sylweddau, ond hefyd dônt o gefndiroedd, weithiau, sy'n anodd iawn, ac maent angen cymorth a chefnogaeth yn hytrach na charchariad llym. Yr hyn y gobeithiaf y byddem yn gallu ei wneud mewn polisi cosbi Cymreig yw gwreiddio hynny mewn ymdeimlad o adsefydlu, cymorth, dyngarwch a pharch er mwyn ein galluogi i symud ymlaen mewn ffordd wahanol iawn.