Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch ichi am yr ateb cryno hwnnw. Mae Pwynt Help Abertawe wedi bod yn ychwanegiad cadarnhaol at economi nos Abertawe. Prosiect a gefnogir gan Heddlu De Cymru ydyw mewn gwirionedd, a chan gyngor Abertawe a St John Cymru yn ogystal, ac mae eu gwaith wedi helpu i gadw statws baner borffor y ddinas. Ond mae yna heriau'n parhau, gan fod troseddau treisgar, fel y'u cofnodwyd, wedi cynyddu ar Stryd y Gwynt, gerllaw lleoliad y Pwynt Help, ac yn yr achos penodol hwn, mae ardal gwella busnes Abertawe wedi cyfrannu, fel busnesau, tuag at y Pwynt Help er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn troseddu. Ond pa lwybrau eraill a allai fod ar gael i annog partneriaid i rannu'r cyfrifoldebau hyn dros gadw canol trefi'n fwy diogel, os mynnwch, o gofio bod trefi eraill yn ceisio datblygu eu heconomïau nos?