Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 13 Mehefin 2018.
Lywydd, rwyf wedi cyfarfod gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru ddwywaith yn ystod yr wythnos ddiwethaf i drafod diogelwch cymunedol a sut y symudwn ymlaen â gwahanol ddulliau o gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi a materion ehangach yn ymwneud â'r gymuned gyfan. I mi, mae'n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi'r swyddogion cymorth cymunedol a ariennir gan Lywodraeth Cymru nid yn unig dros y flwyddyn ariannol hon, ond mewn blynyddoedd ariannol i ddod. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod yn gwario bron £17 miliwn eleni ar gefnogi a chynnal y rhaglen unigol honno. Hoffwn ddweud wrth yr Aelod y byddai llawer o'r gwaith hwn yn cael ei wella pe bai plismona'n cael ei ddatganoli i'r lle hwn inni allu gweithredu dull mwy cyfannol o reoli gwasanaethau plismona fel rhan o ddull ehangach o fynd i'r afael â diogelwch cymunedol a materion eraill.