Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 13 Mehefin 2018.
Nid ydw i'n meddwl bod hynny'n ateb y cwestiwn, ac a bod yn onest, mae o'n ateb byrrach na'r un ces i gan y Prif Weinidog y diwrnod o'r blaen pan wnes i ofyn yr un cwestiwn. Ond, ateb yn union yr un mor ddisylwedd â hwnnw y ces i, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae ymdrechion Gweinidogion dro ar ôl tro i wrthod ateb cwestiynau syml yn sarhad ar y Senedd yma.
Mae yna waith wedi cael ei wneud ar y gost gan nifer o gyrff gwahanol. Mi gafodd gwaith ei gyflwyno i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan arbenigwr uchel ei barch, yr Athro Malcolm Prowle, yn ddiweddar, efo rhai cyrff yn amcangyfrif y gallai'r cynigion ailstrwythuro gostio hyd at £268 miliwn. Mae'r ymchwil gan yr Athro Prowle hefyd yn dangos tystiolaeth o Loegr ac yn rhyngwladol sy'n dangos bod uno ac ailstrwythuro llywodraeth leol yn cael canlyniadau ariannol negyddol. Ai'r gwirionedd felly ydy, un ai nid ydych wedi gwneud unrhyw asesiad o beth fydd y gost, neu rydych chi'n gwrthod rhyddhau'r wybodaeth? Mae hynny yn ei dro wedyn yn amddifadu llywodraeth leol a'r Cynulliad yma o'r ffeithiau hollbwysig rydym ni eu hangen yn ystod y drafodaeth yma.