Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:27, 13 Mehefin 2018

Llywydd, beth fuasai'n hynod sarhadus fyddai pennu ymgynghoriad ddoe a dweud beth ydy'r penderfyniad heddiw, heb ystyried dim un o'r atebion rydym ni wedi'u cael yn ystod y misoedd diwethaf. Mi fuasai hynny yn sarhadus i'r bobl sydd wedi bod yn rhan o'r drafodaeth yma. Ond a gaf i ddweud hyn yn glir? Mi wnes i gyfarfod â'r Athro Prowle yr wythnos diwethaf, ac mi ges i sgwrs hir a gwelais i ei gyflwyniad e pan oedd e'n trafod y fath o ffigurau y mae'r Aelod wedi crybwyll heddiw. Ond, a gaf i ddweud hyn wrthoch chi? Mi wnaeth ef bennu ei gyflwyniad drwy ddweud buasai naw cyngor yn well i Gymru.