Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 13 Mehefin 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn sôn am adeiladu capasiti, ac rwy'n cofio bod llawer o'r sgyrsiau pan aildrefnwyd y byrddau iechyd yn ôl yn 2009 yn ymwneud â 'chreu sefydliadau mwy o faint er mwyn creu capasiti'. Ni fu hynny'n llwyddiant digamsyniol. Ond un o'r pethau y gallech ddweud a fyddai o fudd i awdurdodau lleol ar draws Cymru, yn enwedig po bellaf yr ewch o Gaerdydd, fyddai datganoli pwerau a chyfrifoldebau arbennig yn ymwneud â datblygu economaidd. Gyda datblygiad meiri metro a meiri dinasoedd yn Lloegr, mae'r cysylltiadau hyn, yn drawsffiniol, yn hanfodol bwysig a phan edrychwch ar ddatblygu economaidd yn arbennig, lle mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae, cânt eu grymuso i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau lleol ac o fudd i'w cymunedau lleol. Pa asesiad, yn yr amser y buoch yn Weinidog, a wnaethoch ynglŷn â pha bwerau a fyddai'n fuddiol ar lefel leol yn hytrach na'u bod yn cael eu cadw ar lefel Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu economaidd?