Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 13 Mehefin 2018.
Tybed a fedrwch chi roi ystadegau inni am yr hyn sydd yn digwydd o ran stopio a chwilio pobl ifanc yma yng Nghymru hyd yn hyn. Mae ymchwil rydw i wedi’i ddarllen yn dangos bod pobl ifanc yn dueddol o eisiau mynd ati i dorri’r gyfraith neu gymryd rhan mewn gweithred droseddol oherwydd y ffaith eu bod nhw wedi cael triniaeth wael gyda’r heddlu o ran stopio a chwilio. A hefyd, mae yna sectorau gwahanol o gymdeithas yn fwy tueddol o gael eu stopio—dynion Asiaidd neu ddu, er enghraifft—ac mae hwn yn gwneud iddyn nhw deimlo fel nad ydynt yn rhan o’r gymdeithas oherwydd yr agwedd negyddol wedyn maen nhw’n ei datblygu tuag at yr heddlu. Sut ydych chi’n gallu ennyn cymdeithas lle mae'r heddlu a phobl ifanc yn teimlo fel eu bod nhw ar yr un lefel, a bod yna feithrin rhywbeth positif rhyngddynt, yn lle bod yna deimlad bod yr heddlu yn eu herbyn nhw mewn nifer o agweddau ar gymdeithas?