Cysylltiadau Rhwng Pobl Ifanc a'r Heddlu

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:09, 13 Mehefin 2018

Rydw i’n cyd-weld â dadansoddiad yr Aelod dros Orllewin De Cymru, ond a gaf fi ddweud hyn? Yn gyntaf, nid yw'r heddlu wedi’i ddatganoli, felly mae ein gallu i ddylanwadu ar y pethau yma yn gallu cael ei amharu arno fe, ambell waith, ond rydw i'n gweld bod yr heddlu yn gweithio’n galed iawn i estyn mas i rannau gwahanol o’r gymdeithas. Mae yna enghreifftiau arbennig o dda yn Heddlu Gwent o'r gallu i wneud hynny. Hefyd, rydw i wedi gweld newidiadau mawr yn y ffordd mae heddlu’r de yn delio gyda'r pethau yma hefyd. Felly, mae gen i hyder bod gennym ni'r arweinyddiaeth yn ei lle yn yr heddlu i allu cyrraedd y nod y buasech chi a minnau'n ei rannu. Ond, y pwynt sylfaenol yw hyn: nes bod yr heddlu'n rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus Cymreig, wedi'i ddatganoli i'r lle yma, mae'n mynd i fod yn anodd iawn i ni ddatblygu'r math o bolisïau holistig sydd eu hangen arnom ni.