Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 13 Mehefin 2018.
Dro ar ôl tro, mae Llywodraeth Cymru wedi pwyso ar yr Ysgrifennydd Cartref i gynnal adolygiad o blismona yng nghymunedau Cymru yn ystod streic y glowyr. Gwrthodwyd y ceisiadau hynny. Rwy'n edrych yn ofalus ar ymchwiliad yr Alban. Byddaf yn siarad â fy aelod cyfatebol o Lywodraeth yr Alban yr wythnos hon ac yn ysgrifennu, unwaith eto, at yr Ysgrifennydd Cartref.