3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 13 Mehefin 2018.
1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r goblygiadau i gyn-lowyr a'u teuluoedd a chymunedau yng Nghymru sy'n deillio o benderfyniad Llywodraeth yr Alban i gynnal ymchwiliad annibynnol ar effaith plismona yn ystod streic y glowyr? 183
Dro ar ôl tro, mae Llywodraeth Cymru wedi pwyso ar yr Ysgrifennydd Cartref i gynnal adolygiad o blismona yng nghymunedau Cymru yn ystod streic y glowyr. Gwrthodwyd y ceisiadau hynny. Rwy'n edrych yn ofalus ar ymchwiliad yr Alban. Byddaf yn siarad â fy aelod cyfatebol o Lywodraeth yr Alban yr wythnos hon ac yn ysgrifennu, unwaith eto, at yr Ysgrifennydd Cartref.
Diolch ichi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd y digwyddiadau yn Orgreave ym mis Mehefin 1984 yn ystod streic y glowyr yn un o'r achosion mwyaf difrifol o gamddefnyddio grym y wladwriaeth yn y cyfnod diweddar. Roedd digwyddiadau yn ystod streic y glowyr, yn fy marn i, yr agosaf y daeth y wlad hon at fod yn wladwriaeth heddlu. Gorchmynnwyd swyddogion yr heddlu i ddefnyddio cymaint o rym â phosibl yn erbyn y glowyr, a llawer ohonynt yn dod o Gymru, ac ymosodwyd yn dreisgar ar nifer o lowyr Cymru, gan eu curo nes eu bod yn waed drostynt. Wedyn, cawsant eu cyhuddo â chyhuddiadau cyfraith gyffredin ffugiedig o derfysg a chynulliad anghyfreithlon, a fyddai, pe baent wedi'u profi, wedi arwain at garchariad hir i lawer o'r glowyr. Cafodd y dystiolaeth ei ffugio a'i cham-drafod mewn ymgais i sicrhau euogfarnau, ac er gwaethaf hyn oll, Ysgrifennydd y Cabinet, methu a wnaeth yr holl achosion. Dyfarnwyd bob un o'r glowyr yn ddieuog, methodd ymgais y wladwriaeth i geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder, gorfodwyd Heddlu De Swydd Efrog i dalu £0.5 miliwn mewn iawndal a chostau cyfreithiol am erlyniadau maleisus a restiadau ar gam, ac eto ni chafodd neb erioed ei ddwyn i gyfrif.
Mae Llywodraeth y DU dro ar ôl tro wedi gwrthod cynnal ymchwiliad. Mae tystiolaeth newydd wedi dod i'r amlwg a chanfu Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu fod yna sail resymol dros gynnal ymchwiliad. Mae'r mater hwn yn bwysig yn yr ystyr y gallai digwyddiadau eraill dilynol yn Hillsborough a Rotherham yn hawdd fod wedi datblygu mewn ffordd wahanol pe bai ymchwiliad wedi'i gynnal i Orgreave. Mae'r Alban yn cynnal ei hymchwiliad ei hun, ond yng Nghymru, yn anffodus, nid yw plismona wedi'i ddatganoli eto, ac eto cafodd yr alwad am ymchwiliad ei chefnogi gan bob un o'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu.
Mae'r cof am streic y glowyr yn parhau yng Nghymru. Nid anghofir am y modd y gwnaeth Margaret Thatcher erlid y glowyr a'u cymunedau—mae hynny wedi'i ysgrifennu ar lechen ein cof ac yn rhan o'n hanes. Fodd bynnag, mae effaith anghyfiawnder Orgreave, cam-drin pŵer y wladwriaeth a thanseilio rheol y gyfraith yn aros ac yn parhau i danseilio hyder yn ein system farnwrol ac yn wir, mewn cyfiawnder yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU ddatgelu'r holl ffeiliau, cynnal ymchwiliad cyhoeddus a darganfod unwaith ac am byth beth a ddigwyddodd, pwy a roddodd y gorchmynion, pwy oedd y prif gynllwynwyr a sut y gellid tanseilio rheol y gyfraith i'r fath raddau mewn gwlad y mae ei chyfansoddiad yn honni bod yn seiliedig ar oruchafiaeth rheol y gyfraith. Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnaf i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i gydweithredu ag ymchwiliad Llywodraeth yr Alban a'i gefnogi, a galw unwaith eto ar yr Ysgrifennydd Cartref i ymrwymo i ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiadau yn Orgreave.
Lywydd, fel y nododd yr Aelod yn ei gwestiwn, nid yw plismona wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru ac o ganlyniad, nid ydym wedi cynnal asesiad o'r materion a godir ganddo, gan fod hwn yn fater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Amber Rudd, ym mis Gorffennaf 2016 ynglŷn â'r posibilrwydd o ymchwiliad i'r digwyddiadau a ddisgrifiwyd. Yn Hydref 2016, ar ôl ystyried yr holl safbwyntiau a gyflwynwyd, penderfynodd yr Ysgrifennydd Cartref beidio â sefydlu ymchwiliad. A gaf fi ddweud fy mod yn gresynu'n fawr at y penderfyniad hwnnw? Roedd pawb ohonom a oedd yn weithgar yn cefnogi'r glowyr yn ystod y streic honno—roedd llawer ohonom yn sefyll ar y llinellau piced ar y pryd, yn cefnogi ffrindiau, ffrindiau ysgol, cydweithwyr a chymunedau yn y frwydr—safasom gyda'r glowyr yn y dyddiau hynny ac rydym yn sefyll gyda hwy heddiw. Gwelais y trais hwnnw, gwelais ef â fy llygaid fy hun. Gwelais yr hyn a ddigwyddodd pan oedd y cymunedau hynny'n wynebu rhyfel bron gan eu Llywodraeth eu hunain. Roedd y cymunedau hynny'n haeddu gwell bryd hynny, roedd y bobl yn haeddu gwell bryd hynny ac maent yn haeddu cyfiawnder heddiw. Rwy'n gwbl glir yn fy meddwl fy hun fod yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gydnabod ei chyfrifoldebau yn y mater hwn. Dioddefodd pobl yr oeddwn yn eu hadnabod, pobl yr oeddwn yn yr ysgol gyda hwy, effeithiau'r gweithredoedd hynny. Maent yn haeddu chwarae teg, maent yn haeddu cyfiawnder.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.