Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau ac adleisio sylwadau a wnaed eisoes ei bod yn arbennig o dda cael cyfraniadau gan Aelodau nad ydynt yn aelodau o'n pwyllgor?
A gaf fi ddechrau felly gyda Janet Finch-Saunders a chydnabod hawl Janet i anghytuno ar rai pwyntiau, ond serch hynny, diolch i Janet am ei chyfraniad i'r adroddiad yn gyffredinol? Wrth gwrs, mae'n hollol iawn fod gan yr Aelodau farn wahanol, a'r hyn y gallant neu na allant ei gefnogi yn ystod trafodion y pwyllgor a chael hynny wedi ei gofnodi yn yr adroddiad, ac mae pob un ohonom, mae'n siŵr, yn ddiolchgar am y cyfle hwnnw ar wahanol adegau ar faterion amrywiol.
Credaf fod un peth yn gwbl glir, Ddirprwy Lywydd, sef y ceir consensws eithaf eang sy'n cydnabod pwysigrwydd y materion hyn: trafferthion pobl sy'n cysgu ar y strydoedd, y cynnydd sydd wedi'i wneud eisoes—ac mae'n sylweddol—ac fel dywedwyd, y Ddeddf tai newydd sydd gennym, sy'n mynd i'r afael yn effeithiol â digartrefedd, ond nad yw mor effeithiol o ran cysgu ar y stryd, sydd mor gymhleth ac yn creu heriau mor fawr. Ond rhaid inni gydnabod y cynnydd cyffredinol a wnaed, sy'n bwysig iawn ar gyfer atal, gan gynnwys atal pobl rhag cysgu ar y stryd, ond unwaith eto, credaf fod yna gonsensws fod angen i ragor gael ei wneud gan Lywodraeth Cymru, ac amrywiaeth o bartneriaid wrth gwrs. Ac mae rhywfaint o hynny yn wir yn ymwneud ag uno'n effeithiol ar draws y Llywodraeth ac uno y tu allan i'r Llywodraeth ar draws Cymru, ac roedd yn dda clywed rhai o'r enghreifftiau a roddodd y Gweinidog am y dull a weithredir gan y Llywodraeth mewn perthynas â'r materion hynny. Roedd gennym argymhellion, fel y soniais yn gynharach, a oedd yn rhoi sylw i'r angen hwn am waith trawslywodraethol a chyfrifoldeb ar y cyd, ac rwy'n siŵr y byddwn yn cadw llygad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu dull trawsbynciol o'r fath.
Ar yr hyn a ddywedodd Dawn Bowden, credaf ei bod yn bwysig inni weld cynnydd gan y sector preifat, o fyd y celfyddydau, o addysg, fel enghreifftiau o'r hyn sydd angen digwydd er mwyn gwireddu'r dull trawsbynciol hwnnw. Mae'n gyfrifoldeb a rennir ar draws y Llywodraeth, ond hefyd caiff ei rannu gan nifer o chwaraewyr eraill yng Nghymru sydd â chyfraniad i'w wneud.
Ddirprwy Lywydd, dywedais yn fy sylwadau agoriadol fod angen blaenoriaethol, yn amlwg, yn ganolog i'r ddadl hon mewn sawl ffordd, ac adlewyrchwyd hynny yn rhai o'r cyfraniadau a glywsom. Dywedais hefyd ei fod yn ddadleuol, fel y gwyddom, a chafodd hynny hefyd ei adlewyrchu yn rhai o'r cyfraniadau a glywsom. Rydym yn cydnabod y ceir anawsterau, nad yw diddymu angen blaenoriaethol yn rhywbeth a allai ddigwydd dros nos, ac yn wir mae cost i hynny, a rhaid ystyried honno yn yr hafaliad ac wrth wneud penderfyniadau. Felly, rydym yn sôn am ddull fesul cam o ddiddymu angen blaenoriaethol, gan gydnabod y byddai angen iddo ddigwydd dros gyfnod o amser, a bod pethau eraill a allai ddigwydd i fynd i'r afael â'r problemau nad ydynt yn ymwneud â diddymu angen blaenoriaethol.
Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil ac yn dymuno aros am ganlyniad y gwaith hwnnw cyn gwneud unrhyw benderfyniadau, a gallaf weld peth cryfder yn y farn honno, ond yn amlwg, rydym am weld camau'n cael eu rhoi ar waith ar frys. Ac fel y dywedaf, ceir ffyrdd y gallai gweithredu o'r fath fynd i'r afael â rhai o'r problemau heb orfod diddymu angen blaenoriaethol. Un o'r rheini yw'r prawf 'agored i niwed'. Soniodd David Melding am y ffaith y byddai pobl sy'n cysgu ar y stryd, fel mater o synnwyr cyffredin ym marn y rhan fwyaf o bobl, yn cael eu gweld fel rhai sydd ag angen blaenoriaethol i'w ddatrys ond nid yw hyn bob amser yn wir, fel y clywsom wrth inni gasglu tystiolaeth. Ond mae'r prawf 'agored i niwed' a allai ddynodi bod angen blaenoriaethol gan bobl sy'n cysgu ar y stryd yn drothwy anos i'w groesi yng Nghymru nag ydyw yn Lloegr ar hyn o bryd, oherwydd bod cyfraith achosion yn Lloegr o dan achos Hotak, fel y'i gelwir, yn cynnig dehongliad newydd yn eu deddfwriaeth nad yw'n gymwys yng Nghymru. Felly, rydym yn awgrymu ein bod yn mabwysiadu, yn egluro ac yn dweud yn glir yr hoffem weld y diffiniad sydd ar waith yn Lloegr ar hyn o bryd yn cael ei ddilyn yng Nghymru. Felly, y cymharydd ar gyfer rhywun sy'n cysgu ar y stryd fyddai person cyffredin pe bai'n cael ei wneud yn ddigartref, nid person cyffredin sy'n ddigartref mewn gwirionedd. Felly, mae hwnnw'n wahaniaeth go sylweddol y byddem yn hoffi ei weld yn cael ei fabwysiadu yma yng Nghymru.
Materion eraill a oedd yn bwysig iawn i ni, rwy'n credu, oedd pobl sy'n gadael carchar, ac yn amlwg, nid yw'r Llywodraeth o blaid adfer angen blaenoriaethol awtomatig ar gyfer pobl sy'n gadael carchar. Ond roeddwn yn falch fod Jenny Rathbone wedi sôn am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn, sef yr angen i ailsefydlu'r gweithgor ar lety ar gyfer pobl sy'n gadael carchar, oherwydd clywsom yn aml nad oes hysbysiad amserol yn cael ei roi fod rhywun ar fin gadael carchar. Mae'n arbennig o anodd pan fydd pobl yn cael dedfryd fer. Daw pobl allan o'r carchar heb lety, ac yn amlwg, gallant ddychwelyd i drafferthion go iawn yn gyflym, ac aildroseddu yn wir, gan barhau'r cylch yr ydym yn ceisio ei dorri.
Rwy'n gweld bod fy amser wedi dod i ben yn gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud wrth gloi, gan adleisio'r hyn a ddywedodd Dawn Bowden, mewn gwirionedd—rwy'n credu bod yna farn gyhoeddus glir mai ffynhonnell cywilydd yn y DU, y bedwaredd neu'r bumed economi fwyaf yn y byd, yw'r ffaith ein bod yn dal i weld pobl mor eithafol o agored i niwed yn cysgu ar ein strydoedd, gyda disgwyliad oes yn eu pedwardegau hwyr. Mae pobl yn teimlo'n gryf iawn fod angen inni wneud beth bynnag sy'n rhaid ei wneud. A dyna'r ysbryd yr hoffwn ein gweld yn symud ymlaen ynddo yn Llywodraeth Cymru a thu hwnt: beth bynnag sy'n rhaid ei wneud i ddileu cysgu ar y stryd. Ac fel pwyllgor rydym yn benderfynol o ddychwelyd at y materion hyn. Byddwn yn dilyn hynt ein hargymhellion—byddwn yn sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu harchwilio'n ofalus ac yn gadarn.