– Senedd Cymru am 3:25 pm ar 13 Mehefin 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru'. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gysgu ar y stryd. Hoffwn ddiolch i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'n hymchwiliad, gan gynnwys y staff a'r gwirfoddolwyr y cyfarfuom â hwy mewn prosiectau yng Nghasnewydd a Chaerdydd. Cawsom ein taro gan eu hymroddiad, eu tosturi a'u hymagwedd gadarnhaol. Dywedasant wrthym nad ydynt byth yn rhoi'r gorau i helpu'r rhai sydd angen cymorth. Mae'r dyfalbarhad hwn, y parodrwydd hwn i ddygnu arni, yn hollbwysig.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai a rannodd eu profiadau uniongyrchol a'u hanesion trawiadol ynglŷn â sut y daethant i fod yn cysgu ar y stryd. Roedd llawer yn cynnwys rhestr o ddigwyddiadau y byddai hyd yn oed y mwyaf gwydn yn ein plith yn ei chael hi'n anodd eu goddef. Diolch byth, cawsant eu cynorthwyo i ddod oddi ar y stryd ac maent yn gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol, a dymunwn yn dda iddynt.
Ddirprwy Lywydd, rhoddodd eira trwm, gwynt rhynllyd a thymereddau rhewllyd y gaeaf diwethaf ffocws clir ar y peryglon sy'n bygwth bywyd o gysgu yn yr awyr agored, ond ni ddylai ein pryder ddibynnu ar y tymor. Mae'n bryd ateb yr her o atal a mynd i'r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd ein hadroddiad yn darparu arweiniad clir ar gyfer y ffordd ymlaen.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol ac wedi derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, 23 allan o 29 o'n hargymhellion. Hoffem arwydd clir o amserlenni ar gyfer eu gweithredu. Mae rhai o'r rhain yn ceisio adeiladu ar a chryfhau cynllun gweithredu'r Llywodraeth a'i chanllawiau ar dai yn gyntaf, a chyhoeddwyd y ddau pan oedd ein hymchwiliad eisoes wedi cychwyn. Mae'r adroddiad yn cwmpasu ystod o feysydd, ond heddiw byddaf yn canolbwyntio ar ein prif argymhellion.
Mae angen blaenoriaethol yn parhau i fod yn destun llawer o drafodaeth. Mae'n anodd nodi grŵp o bobl sydd â mwy o angen tai na'r rhai sy'n byw ar y strydoedd. Eto, mae'r categorïau presennol a'r ffordd y cânt eu cymhwyso yn golygu nad yw llawer o bobl yn cael y cymorth y maent ei angen mor daer. Mae angen newid hyn.
Rydym yn argymell dull graddol o fynd ati i ddiddymu angen blaenoriaethol. Dylai'r cam cyntaf gynnwys ychwanegu pobl sy'n cysgu ar y stryd fel categori newydd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Yn ei hymateb, dywedodd y Llywodraeth wrthym ei bod yn cynllunio i gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol i lywio unrhyw newidiadau yn y dyfodol. Hoffwn gael syniad clir gan y Gweinidog ynglŷn â'r llinell amser ar gyfer y gwaith hwn.
Os na fyddai'r Gweinidog yn ymrwymo i'w ddiddymu, gwnaethom gyfres o gynigion pellach gyda'r nod o wella diogelwch statudol. Argymhellwyd y dylai'r Llywodraeth ddiwygio ystyr 'agored i niwed' o fewn y Ddeddf Tai, a chadarnhau angen blaenoriaethol awtomatig ar gyfer pobl sy'n gadael carchar. Mae'r Llywodraeth wedi gwrthod y ddau ar y sail y dylai aros am ganlyniadau ei ymchwil annibynnol yn gyntaf. Ond nid yw darparu ystyr cliriach i 'agored i niwed' i sicrhau cysondeb wrth wneud penderfyniadau ar draws awdurdodau, y clywsom ei fod yn brin, yn ymwneud â newid y dull cyfredol o weithredu. Nid ydym yn credu bod cryfhau'r cod arweiniad a darparu ymarfer gorau yn ddigon i gyflawni hyn. Cawsom dystiolaeth fod dileu'r statws awtomatig ar gyfer pobl sy'n gadael carchar wedi cael effaith andwyol. Ceir cysylltiad rhwng cysgu ar y stryd ac aildroseddu, gyda'r holl gostau personol a chymdeithasol sydd ynghlwm wrth hynny. Felly rydym yn siomedig ynglŷn â safbwynt y Llywodraeth.
Un o'r meysydd allweddol a ystyriwyd gennym fel rhan o'n hymchwiliad oedd achosion cysgu ar y stryd. Mae'r rhain yn eang ac yn cynnwys cyfuniad o ffactorau personol a strwythurol. Rydym wedi canolbwyntio ar ddau brif achos strwythurol: diwygio lles a diffyg tai fforddiadwy. Mae newidiadau i hawliau i fudd-daliadau, y cynnydd yn y cosbau a chyflwyno credyd cynhwysol yn cael effaith ddifrifol ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan gael gwared i raddau helaeth ar y rhwyd ddiogelwch sydd ar gael i'r rhai sydd mewn perygl o ddechau cysgu ar y stryd. Mae'n destun pryder fod yr effaith lawn eto i'w theimlo yng Nghymru.
Clywsom y gallai darparu mwy o hyblygrwydd gyda thaliadau leihau'r perygl o droi allan sy'n deillio o ôl-ddyledion rhent, a galwasom ar Lywodraeth Cymru i ofyn am y pŵer angenrheidiol. Gwrthodwyd y cais ar y sail fod hyblygrwydd o'r fath eisoes yn bodoli, ac eto, nid yw'n ymddangos bod sefydliadau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu gwasanaethau i'r digartref yn gwybod am yr opsiynau talu hyn. Felly, heddiw, rwy'n gofyn: a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i godi ymwybyddiaeth gyda'r sector tai a digartrefedd, a chyda gwasanaethau cyngor ariannol y trydydd sector, fel mater o flaenoriaeth?
Yn ogystal â phrinder tai fforddiadwy, clywsom hefyd fod problemau iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â chamddefnyddio sylweddau, yn gyffredin ymhlith pobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae gan lawer ohonynt anghenion cymorth lluosog a chymhleth na chânt eu datrys drwy eu helpu i ddod o hyd i lety yn unig, er mor bwysig yw hynny. Felly, mae cydweithio rhwng y sector tai a'r sector iechyd yn hanfodol. Heb hynny, mae yna berygl gwirioneddol y bydd symud i fodel tai yn gyntaf yn methu darparu'r canlyniadau a welwyd mewn mannau eraill.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad 17, yn galw am rannu cyfrifoldeb dros weithredu ei chynllun gweithredu ar y cyd rhwng y Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, mae'n dweud hefyd fod y Gweinidog yn arwain ar weithredu, ond y bydd yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ymddangos y byddai hyn yn llai na'r hyn y credwn ei fod yn angenrheidiol, a hoffem eglurhad ar hynny heddiw.
Ddirprwy Lywydd, mae yna obeithion mawr ar draws y sector digartrefedd y bydd mabwysiadu'r model tai yn gyntaf yn eang yn sicrhau newid gwerthfawr. Fodd bynnag, mynegodd academyddion amheuon cryf ynglŷn â defnyddio'r model ymgynnull, sy'n cael ei gynnwys fel opsiwn yn arweiniad y Llywodraeth. Rydym yn ceisio sicrwydd pellach gan y Gweinidog ar y pwynt hwn, ac yn benodol, ar y pryder ynghylch unrhyw ddefnydd o hosteli wedi'u haddasu.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, roedd dyfodol grant y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael sylw amlwg yn y dystiolaeth a gawsom gan y rhai sy'n ymwneud â'r gwaith o ddarparu gwasanaethau i'r gymuned ddigartref. Maent yn dal yn bryderus iawn ynghylch yr argymhelliad arfaethedig i uno'r grant a'r effaith ar gysgu ar y stryd. Gyda'r cylch cyllidebol nesaf ychydig fisoedd i ffwrdd, rydym yn ailadrodd yr angen i'r Llywodraeth osod amserlen ar gyfer cyhoeddi canfyddiadau'r cynlluniau braenaru ariannu hyblyg a rhoi syniad pendant o ba bryd y gwneir penderfyniad terfynol. A all y Gweinidog ei gwneud yn eglur y bydd canfyddiadau'r cynlluniau braenaru ar gael cyn y cylch cyllidebol nesaf?
Ddirprwy Lywydd, nid ydym eisiau ailadrodd ein galwadau am weithredu mwy pendant yn dilyn cyhoeddi'r cyfrif o bobl sy'n cysgu ar y stryd ar gyfer 2019. Ond gadewch i mi fod yn glir: nid ymwneud â niferoedd, ystadegau neu dueddiadau y mae hyn. Mae'n ymwneud â gwella bywydau cannoedd o bobl sy'n cysgu ar y stryd yn ein cymunedau. Mae'n ymwneud â chost ddynol anfesuradwy cysgu ar y stryd. Mae'n sicrhau bod pobl sy'n byw ar y strydoedd yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu, y cartref sydd ei angen arnynt a'r cyfle i fyw, yn hytrach na dim ond bodoli.
Rwy'n falch o gael cyfrannu at y ddadl hon, ar ôl ymchwiliad sy'n agoriad llygad i gysgu ar y stryd gan ein pwyllgor. Mae'r amcangyfrif bod 300 o bobl yn cysgu ar y stryd ledled Cymru yn un sy'n peri pryder, a gwn fod nifer o drefi a dinasoedd yn enwedig wedi gweld cynnydd amlwg yn eu poblogaethau sy'n cysgu ar y stryd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gydag astudiaethau'n dangos cynnydd o rhwng 10 a 33 y cant dros y 12 mis diwethaf yn unig.
Mae'r gwaith a wnaed yn Lloegr, gan gynnwys cyflwyno Deddf Lleihau Digartrefedd 2017 yn gynharach eleni, yn ategu nod Llywodraeth y DU o haneru'r nifer sy'n cysgu ar y stryd erbyn 2022, a'i ddileu'n gyfan gwbl erbyn 2027—targedau sydd wedi bod yn hollol eglur. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau heddiw a oes gan Lywodraeth Cymru ddyddiad targed penodol mewn golwg, yn ogystal â'r cynllun gweithredu dwy flynedd ar gysgu ar y stryd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ar gyfer dileu cysgu ar y stryd yng Nghymru. Yn sicr, roedd ein hymchwiliad yn amlygu'r angen am uchelgais o'r fath, ac roedd yn siomedig nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cais y pwyllgor am weld yr adroddiad chwarterol ar y cynllun gweithredu ar gysgu ar y stryd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y gall aelodau etholedig, sefydliadau'r trydydd sector a'r cyhoedd graffu'n llawn ar gynnydd yn y mater hwn heb ddata o'r fath.
Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi nifer yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn. Rhaid i mi ddweud, er hynny, nad wyf yn cefnogi nifer ohonynt mewn perthynas ag angen blaenoriaethol, gan nad wyf yn teimlo y dylid newid y model presennol o angen blaenoriaethol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Roeddwn yn rhan o'r Cynulliad hwn cyn hynny, pan ddaeth llawer o dystiolaeth gerbron y diweddar Ysgrifennydd y Cabinet, pan oedd hyn ar y gweill, ac rwy'n credu bod y rhesymau sylfaenol dros y statws angen blaenoriaethol hwnnw yn dal yno. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi cychwyn asesiad annibynnol o angen blaenoriaethol, ac rwy'n disgwyl yn eiddgar i weld canfyddiadau'r asesiad hwn. Yn y pen draw, wrth gwrs, hoffem fod mewn sefyllfa lle nad oes angen inni gael y dosbarthiad angen blaenoriaethol, wrth inni gyrraedd sefyllfa lle y gallwn roi cartref i bawb sydd mewn angen mewn man addas.
Nodaf fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno dyletswydd i ddarparu cynnig o lety addas i bawb sy'n ddigartref. Nododd rhai ymatebwyr bryderon ariannol i awdurdodau lleol mewn perthynas ag awgrymiadau ar gyfer diddymu angen blaenoriaethol. Felly, hoffwn ofyn am sicrwydd y byddai dynodi dyletswydd o'r fath yn cael ei gefnogi gan gyllid a chefnogaeth briodol er mwyn i awdurdodau lleol allu cyflawni hyn yn effeithiol. Yn fy etholaeth i, gwn ein bod wedi llwyddo i ailgartrefu pobl sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd, ond yn anffodus, heb rwydwaith o gymorth i'w cynnal drwy gydol y broses, nid yw bob amser wedi gweithio, ac maent yn ôl ar y strydoedd. Felly, credaf fod angen inni edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd.
Fwyfwy dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rwyf wedi clywed gan bobl sy'n ddigartref neu mewn perygl mawr o fynd yn ddigartref. Mae'r tîm digartrefedd lleol yn gwneud gwaith gwych pan fydd rhywun yn cysylltu â hwy, ond mae pobl yn cael trafferth gyda'r cysylltiad cychwynnol hwnnw, a gwybod ble i fynd. Yn sicr, mae yna gryn dipyn o ffordd i fynd cyn y gellir trechu digartrefedd yng Nghymru, gwella hygyrchedd timau digartrefedd o fewn awdurdodau lleol, a dod o hyd i adnoddau ariannol priodol ar gyfer yr awdurdodau lleol hynny.
Rwy'n cytuno'n llwyr fod angen cefnogi ein pobl ddigartref, y rhai sy'n cysgu ar y stryd, ond credaf yn gryf fod angen i Lywodraeth Cymru a'n hawdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth gref a chadarn, ac mae angen iddo fod yn rhan o raglen fonitro barhaol. Diolch.
Diolch i chi am drefnu'r ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch i bawb o'r tîm sy'n cefnogi'r pwyllgor yn ogystal, oherwydd credaf fod hwn yn waith pwysig iawn. A hoffwn gofnodi mai'r hyn a oedd fwyaf gwerthfawr yn fy marn i oedd siarad â phobl mewn amryw o leoliadau yr ymwelwyd â hwy—pobl ddigartref a allai roi eu profiad o fywyd bob dydd ar y strydoedd i ni. Nid oes unrhyw beth yn fwy gwerthfawr i mi na chlywed sut y mae pobl yn brwydro i oroesi, a sut y gallwn ni fel gwleidyddion newid hynny, os oes gennym ewyllys i wneud hynny. Credaf fod eu huodledd wrth gymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn yn aruthrol, a hoffwn ddiolch o galon iddynt am hynny.
Cafwyd gwahanol safbwyntiau ynglŷn â rhoi angen blaenoriaethol i rai a gysgai ar y stryd ai peidio, fel y gwelwyd, gyda rhai cynghorau'n nodi y byddent yn categoreiddio'r rhai sy'n cysgu ar y stryd fel rhai ag angen blaenoriaethol a sefydliadau eraill, megis Shelter, yn dweud, yn ymarferol, nad oedd hyn bob amser yn wir. Roedd y prawf Pereira'n gysylltiedig â hyn wrth gwrs, prawf sy'n achosi problemau gan nad yw ystyr 'agored i niwed' yn cael ei ddehongli yn yr un ffordd neu'n cael ei gymhwyso'n gyson.
Hoffwn gofnodi hefyd fy mod yn siomedig i weld nad oedd Janet Finch-Saunders yn cefnogi'r argymhelliad hwn. Yn bersonol buaswn wedi credu y byddai'r Ceidwadwyr wedi cefnogi'r cysyniad y dylai'r rhai sy'n byw ar y stryd fod yn flaenoriaeth ar gyfer cael to dros eu pennau. Rydym wedi ceisio bodloni Aelodau yn yr adroddiad, a gallaf ddyfynnu paragraff 64, sy'n dweud,
'credwn mai dull fesul cam i ddiddymu yw’r ffordd fwyaf pragmatig ymlaen. Er enghraifft, drwy gyflwyno categorïau newydd o angen blaenoriaethol, fel pobl sy’n cysgu ar y stryd'
Felly, os yw hi'n poeni cymaint ag y mae'n dweud ei bod, buaswn wedi meddwl y byddai dull fesul cam yn ddigon yn hynny o beth. Nid ydym yn awgrymu y gellid ei wneud dros nos. Gwyddom y byddai goblygiadau ariannol, ond credaf fod angen ei wneud ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn cael eu diffinio fel rhai nad ydynt yn flaenoriaeth—dynion ifanc yn bennaf—pan ddylent fod yr un mor bwysig â phobl eraill sy'n ddigartref.
Byddech yn disgwyl imi sôn am argymhelliad 10—datganoli gweinyddu lles—ac roeddwn yn falch ein bod wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol, i raddau, ar hyn. Rydym wedi bod yn gwbl glir ar hyn: mae'n ddigon hawdd i wleidyddion feirniadu newidiadau lles fel un o achosion sylfaenol tlodi yn y gymdeithas, ond pan nad oes unrhyw barodrwydd i hyd yn oed geisio ennill rheolaeth dros rai o'r pwerau lles hynny, mae'n tanseilio hygrededd y ddadl yn gyfan gwbl. A ydym eisiau cwyno am newidiadau lles neu a ydym eisiau dylanwadu arnynt a'u newid? Gadewch inni beidio â chael geiriau gwag am undod ar draws y DU mewn perthynas â'n system les ychwaith—mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon bwerau eisoes dros weinyddu lles. Mae'r awydd i weld system les unedig, ledled y DU yn ddadl sydd eisoes wedi mynd heibio. Barn semantig ydyw nad yw'n gwneud dim i helpu pobl yng Nghymru sy'n byw ar y stryd neu mewn unrhyw anhawster arall. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen â'r ddadl hon ac y gallwn edrych ar hyn ymhellach fel pwyllgor. Ymddengys bod y pwyllgor yn gweithio mewn modd cadarnhaol; o na bai Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y llais hwnnw mor astud ag y gobeithiem y byddai'n ei wneud.
Mewn perthynas â thai yn gyntaf, credaf ei bod hi'n dda iawn ein bod wedi gosod ein stondin drwy ddweud pa mor bwysig yw tai yn gyntaf. Ond cefais sgwrs Twitter yr wythnos hon gyda Peter Black, cyn Aelod Cynulliad, sy'n arwain y gweithgor digartrefedd ar gyngor Abertawe, ac mae ef wedi bod yn gofyn i Fwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg ers misoedd i fynd i mewn i siarad ag ef ynglŷn â thai yn gyntaf a sut y gallant weithio gyda'i gilydd ar hyn. Ac oherwydd ein bod wedi cael y sgwrs hon ar Twitter, rwy'n credu, yn sydyn fe ddywedodd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg y byddent yn dod i'r cyfarfod i drafod tai yn gyntaf. Ni ddylai gymryd dau wleidydd yn cael dadl fyw ar y cyfryngau cymdeithasol i Abertawe Bro Morgannwg sylweddoli'n sydyn fod tai yn gyntaf yn rhan o'u problem, neu nid problem, ond yn rhan o'r ateb i ddigartrefedd yma yng Nghymru. Credaf fod tai yn gyntaf yn gysyniad gwych, ond rhaid inni gael cefnogaeth, nid yn unig gan y sector tai, ond o'r maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, fel y gallwn wneud i dai yn gyntaf weithio. Os yw hyn yn mynd i fod yn rhan o'r dyfodol ym maes tai ac atal digartrefedd yma yng Nghymru, buaswn yn annog y Gweinidog i wneud yn siŵr ein bod o ddifrif, felly, ynglŷn â chael pobl o amgylch y bwrdd.
I orffen yn gyflym mewn perthynas â rhai o'r sylwadau. Mae The Big Issue wedi nodi mewn tystiolaeth fod cyfran fawr o'u gwerthwyr yn ddinasyddion yr ardal economaidd Ewropeaidd heb allu i ofyn am arian cyhoeddus, ac unwaith eto, dyma rywbeth nad yw wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd, ond mae canlyniadau'r polisi hwn a'r awyrgylch gelyniaethus o du Llywodraeth y DU yn rhywbeth y dylai pob un ohonom bryderu yn ei gylch.
Mae angen inni ddatrys rhai o'r problemau cyfredol sy'n ymwneud â pharodrwydd landlordiaid y sector rhentu cymdeithasol a phreifat i gynnig lleoedd i bobl ddigartref a phobl sy'n cysgu ar y stryd. Roedd tystiolaeth yn yr adroddiad yn dangos nad oedd llawer o landlordiaid cymdeithasol yn teimlo eu bod wedi'u paratoi ar gyfer helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd neu rai sydd â rhai o'r problemau sy'n codi yn aml o ganlyniad i fod ar y strydoedd. Mae'n fwy na thebyg y gallwn siarad drwy'r dydd ar y mater hwn, ond ni wnaf hynny—mae fy amser ar ben—ond mae'n bwysig iawn ein bod yn cyflwyno'r argymhellion hyn a'n bod yn sicrhau y gall digartrefedd ddod i ben yma yng Nghymru, a chredaf fod yr adroddiad pwyllgor hwn wedi gwneud llawer iawn i roi hyn ar y map gwleidyddol.
Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hynod bwysig hwn? Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor fy hun, ond gallaf weld o swm y gwaith sydd wedi mynd tuag at ei gynhyrchu a'r dystiolaeth sylweddol a gasglwyd, ei fod yn mynd i fod yn gymorth mawr i Lywodraeth Cymru a chredaf fod ymateb Llywodraeth Cymru iddo i'w groesawu i raddau helaeth hefyd.
Mae'n deg dweud, rwy'n credu, fod Llywodraeth Cymru yn darparu ffocws clir iawn ar les yn ein cymunedau ac ni allaf feddwl am gyfraniad mwy sylweddol at les personol na chartref diogel, cynnes, fforddiadwy—mae'n sylfaen i gymaint o agweddau eraill ar fywyd.
O fy mhrofiad cyfyngedig, yn seiliedig ar wirfoddoli gyda'r lloches nos ym Merthyr Tudful a siarad â'r trigolion a'r gwirfoddolwyr mwy profiadol, mae'n glir iawn fod achosion a rhesymau dros ddigartrefedd a chysgu ar y stryd, fel y nodwyd yn yr ymchwiliad, yn amrywiol ac yn gymhleth. Yn wir, mewn llawer o achosion, fel y dangoswyd yn yr adroddiad a chan siaradwyr eraill, gall sefyllfa tai unigolyn adlewyrchu llu o broblemau dryslyd eraill yn eu bywydau. Dyna pam yr oeddwn am gyfeirio'n benodol at argymhelliad 17 yn ymateb Llywodraeth Cymru. Mae'n hollol iawn y dylai fod cyfrifoldeb a rennir rhwng y Gweinidog iechyd a'r Gweinidog tai i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd, ac felly croesewir y ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn, er gwaethaf y cafeat a'r eglurhad y gofynnwyd amdano gan Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths. Fodd bynnag, fel y noda ymateb y Llywodraeth, mae gan yr holl Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion gyfrifoldeb a rennir i helpu i sicrhau mwy o gynnydd yn y gwaith o leihau cysgu ar y stryd. Felly, hoffwn glywed mwy gan y Gweinidog am y dull Llywodraeth gyfan o ystyried y mater. Er enghraifft, a yw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn gwthio'r sector preifat yng Nghymru i gyfrannu mwy drwy eu cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol? A yw'r Gweinidog diwylliant yn gwthio pobl yn sector y celfyddydau i ymwneud mwy â'r sector digartrefedd er mwyn defnyddio gallu'r celfyddydau a cherddoriaeth i estyn allan at bobl? Mewn addysg, a yw'r Llywodraeth yn effro i'r plant sy'n cael eu gosod mewn perygl mawr o ganlyniad i ddiffyg cartref diogel a sefydlog? A gellid gofyn cwestiynau tebyg i holl adrannau'r Llywodraeth, felly rwy'n edrych ymlaen at glywed yr ymateb i hynny.
Ddirprwy Lywydd, roeddwn eisiau siarad am argymhelliad 28 hefyd a'r cyfeiriad at y rhaglen Cefnogi Pobl. Rydym yn gwybod bod cynlluniau braenaru ar hyn o bryd yn profi'r posibilrwydd o ariannu hyblyg, ond hyd yn oed ar y pwynt hwn, fel eraill rwy'n credu, hoffwn osod marciwr. Rwy'n parhau i fod heb fy argyhoeddi na fydd darparu hyblygrwydd ychwanegol i rai awdurdodau lleol yn cynnwys risgiau sylweddol i'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni, ac mae hwnnw'n destun pryder y gwn fod eraill yn y sector tai yn ei rannu. Er enghraifft, mewn rhai mannau, rydym eisoes yn gweld risgiau i gyllidebau ysgolion ar ôl i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i glustnodi arian ar gyfer addysg. Yn fy marn i, mae angen inni edrych ar a dysgu oddi wrth y profiadau hynny. Os gall y rhaglen Cefnogi Pobl bresennol gyflawni gan symud hyd yn oed yn fwy eglur tuag at wella canlyniadau, byddai'n annoeth rhoi hynny mewn perygl. Gyda chlustnodi arian, gwyddom y bydd yr holl arian a ddyrannwyd yn mynd at y diben hwnnw. Efallai y bydd rhai awdurdodau lleol yn ychwanegu ato hyd yn oed. Fodd bynnag, mae cael gwared ar glustnodi arian—mae'n glir i mi y bydd rhai cynghorau yn ymateb i'w blaenoriaethau mewn ffordd wahanol, a gallai hynny danseilio'r holl waith da yr ydym yn ei wneud yn y maes hwn.
Felly, unwaith eto a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad a gobeithio y bydd yn mynd gryn dipyn o ffordd tuag at gynorthwyo'r Llywodraeth i ymdrin â mater sydd wedi dod yn ffynhonnell cywilydd ym Mhrydain heddiw? A gadewch i ni obeithio, yng Nghymru, y gallwn ddangos y gallwn wneud pethau'n wahanol, y gallwn neilltuo amser, egni, adnoddau ac ymrwymiad i ymdrin â'r malltod gofidus a diangen hwn ar fywydau cymaint o bobl sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas heddiw.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw a hefyd i'r bobl a gymerodd ran yn yr ymchwiliad, gan gynnwys y bobl ddigartref a roddodd amser i sôn wrthym am eu profiadau personol, ac fel y crybwyllodd Bethan Sayed roedd hynny'n ddadlennol iawn—y rhan fwyaf dadlennol o'r ymchwiliad mae'n debyg.
Un ffactor a ddaeth yn amlwg i mi yn ystod y rhyngweithio hwn oedd y berthynas agos i lawer o bobl ddigartref—nid yr holl bobl ddigartref wrth gwrs—rhwng eu digartrefedd, camddefnyddio alcohol a sylweddau, a phroblemau iechyd meddwl. Er na allwn ddisgrifio'r problemau hyn fel rhai sy'n cydberthyn yn achos pob unigolyn digartref wrth gwrs, mae'r themâu cyffredin hyn i'w gweld yn aml, a daeth hynny'n amlwg yn ystod yr ymweliadau—yn fy achos i, â hostel Byddin yr Iachawdwriaeth yn Stryd Bute, i lawr y ffordd oddi yma.
Nododd rhywun, yn ystod yr ymchwiliad, fod y berthynas rhwng y problemau hyn ychydig bach fel plicio haenau nionyn, lle byddwch yn plicio'r digartrefedd ac yn darganfod, o oes, mae yna gamddefnyddio alcohol a sylweddau. Ond wedyn gallwch blicio hwnnw a byddwch yn darganfod mai'r hyn sydd y tu ôl i hynny, mewn llawer o achosion, yw problemau iechyd meddwl, a achosir yn aml gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Felly, mae'r rhain yn faterion cymhleth, ac mae'n anodd dod o hyd i atebion ymarferol weithiau i broblemau mor gymhleth.
Wrth edrych ar yr agweddau ymarferol a godai o'r ymchwiliad, ceir rhai rhwystrau i bobl sy'n cysgu ar y stryd rhag dod o hyd i lety dros dro neu lety mewn argyfwng hyd yn oed. Er enghraifft, dywedodd canolfan Huggard wrthym y bydd rhai unigolion yn cael eu heithrio o'r ddarpariaeth frys o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan fod hynny'n cynnwys camddefnyddio sylweddau. Felly, yn amlwg, os yw pobl yn camddefnyddio sylweddau, mae'n ddibyniaeth, mae'n rhywbeth nad ydynt yn mynd i allu rhoi'r gorau iddo ar unwaith, felly mae'n anodd braidd pan na ellir eu cartrefu, hyd yn oed o dan y darpariaethau brys, gan y bydd yr ymddygiad hwnnw'n cael ei ddiffinio fel ymddygiad gwrthgymdeithasol. Felly, dyma un o'r anawsterau ymarferol sy'n ein hwynebu. Mae'r mathau hyn o bethau yn creu rhwystr i'r rhai sy'n ceisio lloches rhag digartrefedd.
O ystyried natur gymhleth y materion hyn, mae yna bryder clir iawn fod mynediad at wasanaethau camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl yn hollbwysig. O'u gadael heb eu trin, a chydag amseroedd aros hir am rai gwasanaethau cymorth arbenigol, ceir perygl go iawn y bydd rhai pobl sy'n cysgu ar y stryd yn ei chael hi'n amhosibl torri'r cylch sy'n arwain at fywyd ar y strydoedd. Felly, rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl.
Roedd adroddiad y pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyfrifoldeb dros weithredu'r camau wedi ei rannu, fel y soniodd Cadeirydd y pwyllgor yn ei gyfraniad, rhwng y Gweinidog tai a'r Ysgrifennydd iechyd. Rydym yn aros i weld beth sydd gan Weinidog y Llywodraeth i'w ddweud am hynny heddiw, oherwydd mae problemau cysgu ar y stryd, ynghyd â materion iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol a sylweddau, mor gydgysylltiedig fel bod angen gweithio'n drawslywodraethol fel yr unig ffordd o ddatrys y broblem yn realistig.
Hefyd galwasom ar y Llywodraeth i gyhoeddi adroddiadau chwarterol ar y cynllun gweithredu ar gysgu ar y stryd. Teimlem y byddai hyn yn sicrhau tryloywder ac yn gwella atebolrwydd. Yn anffodus, nid oedd y Llywodraeth yn cytuno â ni ar y pwynt penodol hwn a theimlai y byddai adroddiadau chwarterol yn rhy fiwrocrataidd. Wrth gwrs, mae yna gwestiwn yn codi ynglŷn ag adnoddau hefyd. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo cyllid tuag at eu nod o ddileu cysgu ar y stryd, ond mae angen adnoddau dynol yn ogystal â chymorth ariannol. Er enghraifft, pan ymwelsom â hostel Byddin yr Iachawdwriaeth, mynegwyd pryderon gan y staff nad oedd digon o bobl hyfforddedig ar gael i allu ymdrin â'r problemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl cymhleth sy'n wynebu'r bobl sy'n cysgu ar y stryd a ddaw atynt. Felly, rhaid inni fynd i'r afael â'r prinder hwn os ydym o ddifrif ynglŷn ag ymdrin â'r mater hwn. Diolch yn fawr.
Croesawaf yr adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn ceisio edrych ar rai o'r meysydd hynny sydd ar hyn o bryd yn arwain at bobl yn cysgu ar y strydoedd a gweld lle y ceir bylchau yn y polisi. Credaf ei fod eisoes wedi cael croeso cyffredinol ar draws y sector, felly llongyfarchiadau ar hynny. Credaf fod yr argymhellion yn adeiladol ac wedi eu hystyried yn drwyadl, ac fel y nodwyd, mae'r fframwaith deddfwriaethol yn un eithaf cadarn bellach, a'i nod yw atal yn anad dim. Ac mae'n deg dweud ei fod wedi denu rhywfaint o sylw ledled y DU, felly dechreuwn gyda'r sylfaen honno.
Ond mae'r her wedi bod yn llawer mwy, rwy'n credu, wrth ymdrin â phobl sy'n cysgu ar y stryd, yn enwedig rhai sydd eisoes ar y strydoedd neu ar fin mynd ar y stryd. Ar y lefel honno—a chredaf ei bod yn deg dweud, pan fydd llawer o'r cyhoedd yn meddwl am ddigartrefedd, am gysgu ar y stryd y byddant yn aml yn meddwl, yn hytrach na'r cwestiwn ehangach ynglŷn â digartrefedd ar ei amrywiol ffurfiau. Felly, roedd y cwestiwn ynglŷn â sut yr ymdriniwn â'r pen hwnnw i bethau, y pen difrifol iawn, yn amlwg yn thema gyffredin a ddeilliodd o'r sesiynau tystiolaeth, wrth i'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr, gan gynnwys y Wallich, Byddin yr Iachawdwriaeth, canolfan Huggard, Cymorth Cymru a Shelter Cymru, nodi mai effaith gyfyngedig a oedd i Ddeddf 2014 yn arbennig ar y rhai a oedd eisoes yn ddigartref, yn enwedig pobl sy'n cysgu ar y stryd. Nodaf fod Dr Peter Mackie o Brifysgol Caerdydd wedi datgan, ac rwy'n dyfynnu, fod y Ddeddf
'wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar atal pobl rhag mynd yn ddigartref a gwella eu sefyllfa yn gyffredinol.... Serch hynny, nid yw wedi bod mor llwyddiannus â hynny gyda'r rheini sy'n cysgu ar y stryd, sef y grŵp y gellir dadlau sydd fwyaf agored i niwed.'
Ac unwaith eto, rwyf am fod yn fanwl gywir ac yn gymedrol yn fy meirniadaeth yn hynny o beth, oherwydd mae hon yn her anodd tu hwnt o ran polisi a bu cyflawniadau gyda'r Ddeddf na ddylem eu gwadu.
A gaf fi nodi un neu ddau o'r materion mwy dadleuol yn gyflym, gan ddechrau gydag angen blaenoriaethol? Ymysg rhai o'r argymhellion y buaswn yn anghytuno â hwy braidd yw'r syniad hwn y dylem ddiddymu angen blaenoriaethol. Nid wyf yn gweld hyn fel opsiwn ymarferol ar hyn o bryd. Cyhyd ag y ceir digartrefedd a chysgu ar y stryd, bydd angen cydbwyso blaenoriaethau. Yn ddelfrydol, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders, byddai pawb ohonom am weld sefyllfa lle nad oedd angen blaenoriaethol yn bodoli oherwydd ein bod wedi datrys problem cyflenwad tai. Ond nid ydym yn y sefyllfa honno, a rhaid imi ddweud bod y sylwadau a wnaed gan lywodraeth leol yn gwneud hyn yn glir iawn ac wedi tynnu sylw at y goblygiadau ariannol a allai fod yn gysylltiedig â diddymu angen blaenoriaethol. Mae'n gysylltiedig iawn â phroblem cyflenwad ac mae hynny'n mynd i gymryd cryn amser i'w ddatrys. Aeth Cyngor Caerdydd mor bell â datgan, pe bai angen blaenoriaethol yn cael ei ddiddymu, y gallai hynny gynyddu nifer yr ymgeiswyr digartref, rwy'n dyfynnu yn hytrach na phobl sy'n ceisio datrys eu problemau eu hunain.
Nawr, rwy'n meddwl bod honno'n farn go gadarn ac efallai'n farn lem hyd yn oed, ond ceir cydbwysedd yma. Mae angen inni fod yn eithaf gofalus ynglŷn â hyn.
Os edrychwn ar pam y mae pobl yn mynd yn ddigartref, a phobl yn cysgu ar y stryd ar y pen mwyaf difrifol, ar gyfer dynion sengl, mae'n ymwneud â bod yn agored i henaint, iechyd gwael, wedi'u dilyn gan adael carchar a risg o drais neu gam-drin, ac i fenywod, trais a chamdriniaeth, wedi'u dilyn gan henaint, iechyd gwael a bod yn feichiog. Rwy'n credu, fodd bynnag, y dylai cysgu ar y stryd ym mhob achos bron, wneud rhywun yn gymwys ar gyfer statws angen blaenoriaethol, ac nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Ac mae'n baradocs braidd ac yn her, oherwydd rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o aelodau o'r cyhoedd yn credu, os ydych ar y stryd, eich bod yn achos blaenoriaethol ar gyfer tai. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ymdrin yn uniongyrchol ag ef. Nodaf fod cod arweiniad Llywodraeth Cymru yn dadlau bod pobl sy'n cysgu ar y stryd yn debygol o fod yn agored i niwed am ryw reswm arbennig arall oherwydd goblygiadau iechyd a goblygiadau cymdeithasol eu sefyllfa, ond mae'n ymddangos bod peth gwahaniaeth yn ymarferol pan fyddwch yn edrych ar y dystiolaeth mewn gwirionedd. Ac mae llawer, neu rai beth bynnag—nifer sylweddol—o'r bobl sy'n cysgu ar y stryd nad ydynt yn gymwys i fod yn achosion blaenoriaethol. Felly, credaf fod angen archwilio'r pethau hyn yn ofalus iawn.
A gaf fi symud ymlaen i orffen at Cefnogi Pobl? Yn amlwg, mae hyn wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau heddiw oherwydd yr adroddiad rhagorol 'Housing Matters' a gynhyrchwyd gan nifer o sefydliadau yn y sector hwn. Nawr, mae argymhelliad 28 o adroddiad y pwyllgor yn gofyn
'Os yw canfyddiadau’r Cynlluniau Braenaru Cyllid Hyblyg yn dangos gostyngiad yn y cyllid ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl, neu’n amau ynghylch gallu’r sector i gynnal y gwasanaeth ar y lefelau presennol, rydym yn argymell y dylai Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl barhau i fod yn grant ar wahân sydd wedi’i neilltuo.'
Ac rwy'n cytuno â hynny. Mae hwn yn faes rhy bwysig i darfu arno ar hyn o bryd, ac mae'r adroddiad yn glir fod y cynlluniau ariannu presennol yn creu risg sylweddol i'r cymorth sydd ar gael ar gyfer pobl sy'n agored i niwed drwy raglenni tai a digartrefedd yng Nghymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd gofal yn y maes polisi cyhoeddus hwn. Gallwch weld hefyd o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eu pryder sylweddol iawn a'r pryder ar draws y sector ynglŷn â beth fydd yn digwydd i'r rhaglenni Cefnogi Pobl. A hebddynt, bydd y rheini sydd fwyaf o angen cymorth yn eu tenantiaeth neu sydd ar fin bod yn ddigartref a chysgu ar y stryd mewn sefyllfa fregus tu hwnt. Rhaid inni ddiogelu'r ffrydiau ariannu y maent yn dibynnu cymaint arnynt. Diolch.
Credaf ei bod yn galondid fod llawer o Aelodau nad oedd ar y pwyllgor ac yn rhan o'r ymchwiliad wedi dangos diddordeb ynddo, oherwydd, yn amlwg, rwy'n gobeithio eich bod yn ei ystyried yn ddefnyddiol. Yn sicr, roedd yn ymchwiliad diddorol iawn i fod yn rhan ohono.
Roeddwn am dalu teyrnged yn fyr i un neu ddau o sefydliadau lleol yr ymdriniaf â hwy'n rheolaidd. Un yw gwasanaeth digartrefedd Cyngor Caerdydd a'r ffordd y maent wedi hyfforddi o leiaf bump o bobl i fynd allan, dair noson yr wythnos, tan hanner nos, i siarad â phobl sy'n byw ar y strydoedd er mwyn sicrhau eu bod yn cael asesiad o'u hanghenion, oherwydd dyma'r bobl nad ydynt yn mynd i droi at wasanaeth y digartref yn Heol Dumballs. Credaf fod hynny'n dangos eu bod o ddifrif ar y blaen o ran gweithio gyda phobl ar y broblem anodd hon.
Yn ail, rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 24 i annog yr holl wasanaethau heddlu i ddefnyddio'r camerâu fideo y maent yn gwisgo ar eu gwisgoedd ar gyfer y sgyrsiau anodd hyn gyda phobl ar y stryd, oherwydd mae'n cofnodi'r sgwrs yn gywir, sy'n gallu bod yn anodd iawn os yw rhywun yng nghanol argyfwng iechyd meddwl neu'n feddw, ond mae hefyd yn gyfle hyfforddi gwych i'r rhai sy'n gorfod ymdrin â phobl a all fod yn anodd a heriol iawn ac sydd â llu o anghenion. Felly, credaf ei bod yn dda iawn ein bod yn ymdrechu i weld yr arfer da hwn yn cael ei ymestyn i'n holl heddluoedd sy'n cael y sgyrsiau anodd hyn.
Yn drydydd, rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 4, a chytuno i ailsefydlu'r gweithgor llety ac ailsefydlu carcharorion, oherwydd cawsom dystiolaeth glir iawn fod y drws tro yn fyw ac yn iach a bod rhai carcharorion yn syrthio drwy'r rhwyd. Nid yw'r gwasanaethau digartrefedd a thai yn gwybod am bobl mewn pryd pan gânt eu rhyddhau ac mae rhai o'r bobl hyn yn mynd yn ôl ar y strydoedd ac yn anochel wedyn, yn ôl i garchar, ar gost enfawr i'r pwrs cyhoeddus yn y pen draw. Felly, rwy'n credu ei bod yn wych ein bod yn ymdrechu i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio? Rebecca Evans.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am eu harchwiliad o gysgu ar y stryd. Fel y dywedais yn fy nhystiolaeth i'r pwyllgor, rwy'n cydnabod bod digartrefedd yn digwydd ar sawl ffurf ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n ddigartref ar y strydoedd—maent yn aros gyda ffrindiau, teulu neu mewn llety dros dro arall wedi i denantiaeth neu berthynas ddod i ben neu o ganlyniad i anghydfod teuluol. Ond rwy'n croesawu'n fawr y ffocws go iawn a roddodd y pwyllgor ar ddigartrefedd ar ei ffurf fwyaf difrifol. Wrth siarad gyda'r bobl y cyfarfûm â hwy sy'n cysgu ar y stryd neu sydd wedi cael profiad o gysgu ar y stryd, clywais hanesion dirdynnol, fel y gwn y clywodd y pwyllgor, am deuluoedd yn chwalu, trais domestig, afiechyd meddwl, problemau ariannol, camddefnyddio sylweddau a phrofedigaeth. Mae'r rhain oll yn broblemau a all arwain at golli cartref a throelli ar i lawr, gan greu cylch dieflig o gysgu ar y stryd, sef y ffurf fwyaf difrifol ar ddigartrefedd fel y gwyddom.
Fel y mae adroddiad y pwyllgor yn cydnabod, mae Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i atal digartrefedd ledled Cymru ac mae wedi'i chanmol yn eang am ei dull ataliol o weithredu. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ers iddi ddod yn weithredol, rydym wedi atal mwy na 14,000 o aelwydydd rhag mynd yn ddigartref, ond rydym yn cydnabod o hyd fod llawer mwy i'w wneud. Fel y nodwyd gennym yn 'Ffyniant i Bawb', nid yw'n dderbyniol y dylai unrhyw un gael ei orfodi i gysgu ar y strydoedd mewn cymdeithas ffyniannus. Fel y nodais yn gynharach eleni, rwy'n pryderu ynglŷn â'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd. Hefyd, nodais ymrwymiad y Llywodraeth hon i wneud popeth a allwn i wrthdroi'r duedd honno. Ym mis Chwefror, cyhoeddais ein cynllun gweithredu i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd, ynghyd â'n dogfen arweiniad ac egwyddorion tai yn gyntaf. Mae adroddiad y pwyllgor, felly, yn ddogfen hynod o amserol sy'n ein helpu i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth i lywio esblygiad a gweithrediad y cynllun hwnnw.
Mae fy ymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor yn nodi ein hymateb manwl i'r 29 o argymhellion yn yr adroddiad. Er bod rhai gwahaniaethau ynghylch y gwaith paratoi sy'n angenrheidiol cyn penderfynu ar gamau gweithredu penodol, mae'r Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor. Amlinellais i'r Siambr hon o'r blaen fy mharodrwydd i adolygu'r dull o weithredu angen blaenoriaethol. Fel y mae'r pwyllgor yn cydnabod, mae'n bwysig na wneir unrhyw newid i'r dull presennol oni bai lle y deellir holl oblygiadau newid o'r fath yn llawn. Felly, gallaf gadarnhau ein bod eisoes wrthi'n comisiynu asesiad annibynnol o effaith bosibl a chanlyniadau anfwriadol newid y dull cyfredol o weithredu angen blaenoriaethol er mwyn llywio'r ffordd ymlaen. Mae gan hyn oblygiadau o ran cysylltiad lleol. Rhoddir ystyriaeth i hynny hefyd fel rhan o'r asesiad annibynnol.
A wnaiff y Gweinidog ildio? Roedd hi'n ddiddorol clywed y Gweinidog yn sôn am gysylltiad lleol, a hefyd y ffaith bod y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd wedi codi, oherwydd yng Nghaerdydd, ers 2014, credaf fod nifer y rheini sy'n cysgu ar y stryd wedi dyblu, ac yn amlwg mae mater cysylltiad lleol yn codi gyda nifer fach o'r bobl hynny. A yw'n credu, weithiau, fod pennu o ble y mae'r unigolyn wedi dod yn eu hatal rhag cael y cymorth gorau?
Rwy'n credu mai un o'r pethau y clywodd y pwyllgor dystiolaeth arno oedd na roddir sylw i fater cysylltiad lleol mewn ffordd sy'n gyson ac yn gydlynol ar draws Cymru. Felly, dyma rywbeth y byddaf yn bendant yn sicrhau bod yr asesiad annibynnol yn ei ystyried o ran nodi'r ffordd orau ymlaen yn hynny o beth, oherwydd gwn fod y pwyllgor wedi clywed tystiolaeth gref am y ffordd y gwneir hynny.
Ar fy ymweliad diweddar â'r Alban, cefais gyfle i ymweld â rhai o ddarparwyr gwasanaethau digartrefedd y trydydd sector, ac archwilio eu profiadau o ddiddymu angen blaenoriaethol yn yr Alban. Roedd hwnnw'n gyfle dadlennol iawn i siarad â phobl sydd wedi cael y profiad hwnnw. Trafodwyd yr effaith a gafodd ar gynyddu'r defnydd o lety dros dro ac unwaith eto tynnodd hynny sylw at bwysigrwydd deall y canlyniadau anfwriadol posibl cyn gwneud newidiadau. Yn anecdotaidd, clywais fod y boblogaeth sy'n aros am gyfnodau hir mewn llety dros dro yng Nghaeredin, er enghraifft, wedi codi o 200 i dros 600, yn dilyn diddymu'r angen blaenoriaethol. Ac wrth gwrs, wrth gerdded o amgylch Caeredin, roedd yn amlwg i mi fod cysgu ar y stryd yn parhau'n destun pryder mawr ac nid yw wedi ei ddileu yn y ddinas. Roedd fy nhrafodaethau hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd sylfaenol argaeledd tai o ansawdd da wrth fynd i'r afael â phob math o ddigartrefedd. Mae diwallu anghenion tai ni waeth beth yw'r flaenoriaeth yn ymwneud yn bennaf â chyflenwad tai, ac rwy'n falch o'r gwaith yr ydym yn ei wneud yng Nghymru ar hyn a'r cynnydd a wnawn tuag at ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy.
Maes pwysig arall a gydnabuwyd gan y pwyllgor oedd gwella mynediad at y sector rhentu preifat, sydd wedi gweld cyfran sylweddol o'r cyllid pontio a ddyrannwyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i awdurdodau lleol i gynyddu eu cyflenwad o eiddo sector preifat sydd ar gael i bobl sy'n ddigartref. Ar gyfer pobl sy'n rhentu, mae materion fforddiadwyedd, ansawdd a diogelwch deiliadaeth yn real iawn, a dyna pam y mae'r Llywodraeth hon wedi gosod, ac yn parhau i osod pwyslais mawr ar sicrhau bod y sector rhentu preifat yn cael ei reoleiddio a'i reoli'n dda. Ac yn y modd hwn, gallwn helpu i sicrhau ei fod yn cynnig ateb hirdymor ymarferol i bobl sy'n dewis neu sydd angen rhentu yn y sector rhentu preifat. Ddoe ddiwethaf, noddodd Bethan Sayed ddigwyddiad rhagorol yn y Cynulliad, lle roedd Tai Pawb a'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi gweithio gyda'i gilydd drwy'r prosiect Agor Drysau er mwyn sicrhau bod gwybodaeth a chymorth i landlordiaid er mwyn agor cyfleoedd yn y sector rhentu preifat i bobl na fyddai landlordiaid o reidrwydd yn draddodiadol yn ystyried rhentu iddynt, a gallai hynny gynnwys pobl ddigartref yn sicr. A bydd Rhentu Doeth Cymru yn edrych ar y prosiect hwnnw o ran cynnig hyfforddiant i landlordiaid.
Felly, yn ogystal â chartref o safon, dylem hefyd sicrhau bod y cymorth cywir yn ei le ar gyfer unigolion sy'n agored i niwed, ac yn briodol, roedd y pwyllgor yn cydnabod manteision dulliau wedi'u harwain gan dai, megis tai yn gyntaf, sy'n canolbwyntio ar symud pobl sy'n profi digartrefedd yn gyflym i lety a darparu cefnogaeth a gwasanaethau ychwanegol wedyn fel sy'n ofynnol. Nodweddion allweddol y dull hwnnw o weithredu yw y dylai defnyddwyr gwasanaethau gael dewis a rheolaeth ac nad yw tai yn amodol ar gymorth neu driniaeth. Bwriad y dull yw gwasanaethu'r bobl sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth, ac efallai na fyddai'n addas ar gyfer pawb sy'n cysgu ar y stryd. Mae'n un o ystod o opsiynau tai a gynigir i'r rheini sy'n cysgu ar y stryd, a gwyddom fod angen llawer mwy o waith er mwyn cynyddu ei ddefnydd. Ond unwaith eto, rwy'n sicr fod yn rhaid glynu at egwyddorion tai yn gyntaf. Nid yw'n ymwneud ag ailbecynnu llety â chymorth, nid yw'n ymwneud â gosod pobl sy'n cysgu ar y stryd mewn geto; mae'n ymwneud â chynnig ffordd arloesol, newydd a dilys o'u cefnogi.
Fel y dengys y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor yn glir, mae'r rhesymau dros gysgu ar y stryd yn hynod gymhleth ac nid yw'r atebion yn canolbwyntio'n unig ar dai. Mae gan iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, diogelwch cymunedol a phethau eraill rôl i'w chwarae, ac rwy'n derbyn sylwadau'r Aelodau ynglŷn â chael ymwneud ystyrlon gan yr holl bartneriaid. Yn sicr, rydym ni fel Llywodraeth yn gweithio ar draws ffiniau traddodiadol i gyflawni'r cynllun gweithredu ar gysgu ar y stryd, ac rydym yn mabwysiadu ymagwedd Llywodraeth gyfan. Er enghraifft, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn arwain ar gamddefnyddio sylweddau, ond yn y cynllun gweithredu yno ceir camau clir ynglŷn â digartrefedd. Mae'r un peth yn wir eto am y cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl; ceir camau gweithredu penodol yno i'w rhoi ar waith ar ddigartrefedd.
Felly, i gloi, fel Llywodraeth, rydym yn buddsoddi llawer iawn yn y gwaith o fynd i'r afael â phob math o ddigartrefedd gyda £10 miliwn ychwanegol yn flynyddol dros y ddwy flynedd nesaf, ynghyd â £10 miliwn ychwanegol ar gyfer digartrefedd ymhlith ieuenctid yn 2019-20. Fel yr amlinellais yn y Siambr yn gynharach eleni, yn fwriadol ni nodais sut y caiff pob ceiniog ei gwario eleni. Rwyf ar hyn o bryd yn adolygu'r cynnydd a'r dystiolaeth o gynlluniau peilot y llynedd a byddaf yn ystyried y dystiolaeth hon ochr yn ochr â'r adroddiadau ymchwil sydd i'w cyhoeddi yn yr haf. Byddaf hefyd yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ystyried sut y mae angen i'r cynllun gweithredu esblygu ac ymateb i adroddiad y pwyllgor a thystiolaeth arall sy'n dod i'r amlwg er mwyn sicrhau y caiff yr agenda hollbwysig hon ei chyflawni. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl? John Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau ac adleisio sylwadau a wnaed eisoes ei bod yn arbennig o dda cael cyfraniadau gan Aelodau nad ydynt yn aelodau o'n pwyllgor?
A gaf fi ddechrau felly gyda Janet Finch-Saunders a chydnabod hawl Janet i anghytuno ar rai pwyntiau, ond serch hynny, diolch i Janet am ei chyfraniad i'r adroddiad yn gyffredinol? Wrth gwrs, mae'n hollol iawn fod gan yr Aelodau farn wahanol, a'r hyn y gallant neu na allant ei gefnogi yn ystod trafodion y pwyllgor a chael hynny wedi ei gofnodi yn yr adroddiad, ac mae pob un ohonom, mae'n siŵr, yn ddiolchgar am y cyfle hwnnw ar wahanol adegau ar faterion amrywiol.
Credaf fod un peth yn gwbl glir, Ddirprwy Lywydd, sef y ceir consensws eithaf eang sy'n cydnabod pwysigrwydd y materion hyn: trafferthion pobl sy'n cysgu ar y strydoedd, y cynnydd sydd wedi'i wneud eisoes—ac mae'n sylweddol—ac fel dywedwyd, y Ddeddf tai newydd sydd gennym, sy'n mynd i'r afael yn effeithiol â digartrefedd, ond nad yw mor effeithiol o ran cysgu ar y stryd, sydd mor gymhleth ac yn creu heriau mor fawr. Ond rhaid inni gydnabod y cynnydd cyffredinol a wnaed, sy'n bwysig iawn ar gyfer atal, gan gynnwys atal pobl rhag cysgu ar y stryd, ond unwaith eto, credaf fod yna gonsensws fod angen i ragor gael ei wneud gan Lywodraeth Cymru, ac amrywiaeth o bartneriaid wrth gwrs. Ac mae rhywfaint o hynny yn wir yn ymwneud ag uno'n effeithiol ar draws y Llywodraeth ac uno y tu allan i'r Llywodraeth ar draws Cymru, ac roedd yn dda clywed rhai o'r enghreifftiau a roddodd y Gweinidog am y dull a weithredir gan y Llywodraeth mewn perthynas â'r materion hynny. Roedd gennym argymhellion, fel y soniais yn gynharach, a oedd yn rhoi sylw i'r angen hwn am waith trawslywodraethol a chyfrifoldeb ar y cyd, ac rwy'n siŵr y byddwn yn cadw llygad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu dull trawsbynciol o'r fath.
Ar yr hyn a ddywedodd Dawn Bowden, credaf ei bod yn bwysig inni weld cynnydd gan y sector preifat, o fyd y celfyddydau, o addysg, fel enghreifftiau o'r hyn sydd angen digwydd er mwyn gwireddu'r dull trawsbynciol hwnnw. Mae'n gyfrifoldeb a rennir ar draws y Llywodraeth, ond hefyd caiff ei rannu gan nifer o chwaraewyr eraill yng Nghymru sydd â chyfraniad i'w wneud.
Ddirprwy Lywydd, dywedais yn fy sylwadau agoriadol fod angen blaenoriaethol, yn amlwg, yn ganolog i'r ddadl hon mewn sawl ffordd, ac adlewyrchwyd hynny yn rhai o'r cyfraniadau a glywsom. Dywedais hefyd ei fod yn ddadleuol, fel y gwyddom, a chafodd hynny hefyd ei adlewyrchu yn rhai o'r cyfraniadau a glywsom. Rydym yn cydnabod y ceir anawsterau, nad yw diddymu angen blaenoriaethol yn rhywbeth a allai ddigwydd dros nos, ac yn wir mae cost i hynny, a rhaid ystyried honno yn yr hafaliad ac wrth wneud penderfyniadau. Felly, rydym yn sôn am ddull fesul cam o ddiddymu angen blaenoriaethol, gan gydnabod y byddai angen iddo ddigwydd dros gyfnod o amser, a bod pethau eraill a allai ddigwydd i fynd i'r afael â'r problemau nad ydynt yn ymwneud â diddymu angen blaenoriaethol.
Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil ac yn dymuno aros am ganlyniad y gwaith hwnnw cyn gwneud unrhyw benderfyniadau, a gallaf weld peth cryfder yn y farn honno, ond yn amlwg, rydym am weld camau'n cael eu rhoi ar waith ar frys. Ac fel y dywedaf, ceir ffyrdd y gallai gweithredu o'r fath fynd i'r afael â rhai o'r problemau heb orfod diddymu angen blaenoriaethol. Un o'r rheini yw'r prawf 'agored i niwed'. Soniodd David Melding am y ffaith y byddai pobl sy'n cysgu ar y stryd, fel mater o synnwyr cyffredin ym marn y rhan fwyaf o bobl, yn cael eu gweld fel rhai sydd ag angen blaenoriaethol i'w ddatrys ond nid yw hyn bob amser yn wir, fel y clywsom wrth inni gasglu tystiolaeth. Ond mae'r prawf 'agored i niwed' a allai ddynodi bod angen blaenoriaethol gan bobl sy'n cysgu ar y stryd yn drothwy anos i'w groesi yng Nghymru nag ydyw yn Lloegr ar hyn o bryd, oherwydd bod cyfraith achosion yn Lloegr o dan achos Hotak, fel y'i gelwir, yn cynnig dehongliad newydd yn eu deddfwriaeth nad yw'n gymwys yng Nghymru. Felly, rydym yn awgrymu ein bod yn mabwysiadu, yn egluro ac yn dweud yn glir yr hoffem weld y diffiniad sydd ar waith yn Lloegr ar hyn o bryd yn cael ei ddilyn yng Nghymru. Felly, y cymharydd ar gyfer rhywun sy'n cysgu ar y stryd fyddai person cyffredin pe bai'n cael ei wneud yn ddigartref, nid person cyffredin sy'n ddigartref mewn gwirionedd. Felly, mae hwnnw'n wahaniaeth go sylweddol y byddem yn hoffi ei weld yn cael ei fabwysiadu yma yng Nghymru.
Materion eraill a oedd yn bwysig iawn i ni, rwy'n credu, oedd pobl sy'n gadael carchar, ac yn amlwg, nid yw'r Llywodraeth o blaid adfer angen blaenoriaethol awtomatig ar gyfer pobl sy'n gadael carchar. Ond roeddwn yn falch fod Jenny Rathbone wedi sôn am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn, sef yr angen i ailsefydlu'r gweithgor ar lety ar gyfer pobl sy'n gadael carchar, oherwydd clywsom yn aml nad oes hysbysiad amserol yn cael ei roi fod rhywun ar fin gadael carchar. Mae'n arbennig o anodd pan fydd pobl yn cael dedfryd fer. Daw pobl allan o'r carchar heb lety, ac yn amlwg, gallant ddychwelyd i drafferthion go iawn yn gyflym, ac aildroseddu yn wir, gan barhau'r cylch yr ydym yn ceisio ei dorri.
Rwy'n gweld bod fy amser wedi dod i ben yn gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud wrth gloi, gan adleisio'r hyn a ddywedodd Dawn Bowden, mewn gwirionedd—rwy'n credu bod yna farn gyhoeddus glir mai ffynhonnell cywilydd yn y DU, y bedwaredd neu'r bumed economi fwyaf yn y byd, yw'r ffaith ein bod yn dal i weld pobl mor eithafol o agored i niwed yn cysgu ar ein strydoedd, gyda disgwyliad oes yn eu pedwardegau hwyr. Mae pobl yn teimlo'n gryf iawn fod angen inni wneud beth bynnag sy'n rhaid ei wneud. A dyna'r ysbryd yr hoffwn ein gweld yn symud ymlaen ynddo yn Llywodraeth Cymru a thu hwnt: beth bynnag sy'n rhaid ei wneud i ddileu cysgu ar y stryd. Ac fel pwyllgor rydym yn benderfynol o ddychwelyd at y materion hyn. Byddwn yn dilyn hynt ein hargymhellion—byddwn yn sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu harchwilio'n ofalus ac yn gadarn.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.