Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 13 Mehefin 2018.
Nid yw tawelwch byth yn euraid, fel y gwelodd cyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth yr wythnos hon. Mae'n codi amheuon, ac rwy'n tybio bod methiant i arwain cynghorau ar gysondeb ynglŷn â beth sy'n asesiad a beth sy'n ddiwallu anghenion wedi arwain at ddryswch ynglŷn â beth y mae'r gofynion statudol hynny yn ei olygu mewn gwirionedd. Sut y gallwch fod yn sicr fod cynghorau'n gweithredu'n gyfreithlon os nad yw gofalwyr yn gwybod beth yw sail gyfreithiol gwahanol sgyrsiau y maent yn eu cael gydag awdurdodau lleol. Felly, os gwelwch yn dda peidiwch â dweud wrth y Siambr hon nad ydych yn gwybod beth y byddech yn ei gyfrif i gynhyrchu'r ffigurau hyn. Roedd y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn ddeddfwriaeth arloesol, a dylid gallu cyflawni gwaith craffu ar ôl deddfu.
Roeddwn eisoes yn poeni efallai fod yr hawliau a grybwyllwyd gennych yn eich gwelliant yn profi'n ddiystyr, er iddynt gael eu cytuno gan y Cynulliad diwethaf. Gellid dadlau bod unrhyw hawl statudol yn ddiystyr oni bai y ceir unioni statudol cyfatebol, nad yw, wrth gwrs, yn bodoli yma, ond mae'n bendant yn ddiystyr os ydych yn gwadu'r ddeddfwrfa sy'n eich dwyn i gyfrif yn ei gylch.
Byddai'n well pe bai eich corff cynghori gweinidogol, a groesewir gennym, yn gwisgo ei esgidiau cicio penolau i wneud i chi ddal i fyny â'r gwaith o weithredu'r ddeddfwriaeth hon ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant 5 i wneud yn siŵr y gallwn graffu ar ba mor galed y maent yn cicio. Gallwch ddisgwyl inni gadw llygad hefyd ar ba mor dda y mae'r cynlluniau gofal cymdeithasol ac iechyd yn datblygu. Hynny yw, yn amlwg, mae llawer o ewyllys da tuag at y rhain, ond rhaid mesur eu llwyddiant ar fwy nag uno gwasanaethau arloesol neu wella statws a chyfrifoldeb gweithwyr proffesiynol gofal canolraddol a gofal cymdeithasol, cleifion hapusach neu hyd yn oed y rhai sy'n cael gofal. Rhaid iddynt wella bywydau'r 11 y cant o'r boblogaeth rydym yn sôn amdanynt heddiw yn ogystal. Os nad yw iechyd ein gofalwyr yn gwella, yn enwedig eu hiechyd meddwl, os nad yw ein gofalwyr ifanc yn cael mwy o amser yn yr ysgol, os yw ein gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn gadael addysg bellach, hyfforddiant neu brentisiaethau oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu, os nad yw busnesau'n cael unrhyw beth ystyrlon o'r rhwydwaith cyflogwyr newydd ar gyfer gofalwyr yr edrychwn ymlaen at glywed mwy amdano, ac os ydym yn dal i sôn am fylchau mewn seibiant ar ddiwedd tymor y Cynulliad hwn, yna bydd yr adolygiad seneddol wedi methu.
Rwy'n siomedig er nad wyf yn synnu bod cynlluniau'r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer grant dyfodol oedolion ifanc sy'n ofalwyr wedi cael derbyniad llai brwd gan y pleidiau yma nag a gafodd gan ofalwyr sy'n oedolion ifanc eu hunain ac Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, sy'n siarad ar ran gofalwyr o bob oedran. Ond er gwaethaf y datgysylltiad rhyngoch a'r polisi hwn, credaf y byddwch—mae'n siŵr y byddwch, mewn gwirionedd, yn ymuno â mi i longyfarch Lucy Prentice a phawb yn Gofal Croesffyrdd Sir Gaerfyrddin Ymddiriedolaeth y Gofalwyr am eu hymgyrch i ddiwygio lwfans gofalwyr. Dymunaf bob llwyddiant iddi wrth iddi gyflwyno'r ddadl honno i Lywodraeth y DU a byddaf yn ei chefnogi o ran ei nod.
Fodd bynnag, nid ydym yn cefnogi gwelliant 2 ar hyn, gan nad oes unrhyw sicrwydd y byddai datganoli pwerau yn arwain at ddiwygio fel yr honnir, a byddai'n well gennyf ddefnyddio'r pwerau sydd gennym yn awr i sicrhau'r un canlyniad, gan ganiatáu i oedolion ifanc sy'n ofalwyr baratoi ar gyfer eu dyfodol a buddsoddi yn eu dyfodol eu hunain gan gadw eu teuluoedd gyda'i gilydd ar yr un pryd.
Gan edrych yn gyflym ar y gwelliannau eraill, nid wyf yn gweld mewn gwirionedd sut y mae gwelliant 3 Plaid Cymru yn gwneud llawer o synnwyr. Nid ydym yn cefnogi camfanteisio neu gamddefnyddio opsiynau gweithio hyblyg fwy na chithau, ond does bosib na allwch weld y gallai gweithio hyblyg helpu gofalwyr ifanc sy'n oedolion nad ydynt yn gallu ymrwymo i oriau rheolaidd.
Gwelliant 4—nid oes dim y gallwn anghytuno ag ef yno. Byddem wedi cefnogi gwelliant 6, fel rydym wedi cefnogi'r ymgyrch dros gael cerdyn adnabod, pe na baech wedi drysu'r darlun drwy gyfeirio at drafnidiaeth, gan fod ein grant dyfodol ein hunain yn mynd law yn llaw â'n cerdyn gwyrdd trafnidiaeth ein hunain, sy'n galluogi'r holl bobl ifanc dan 25 oed i ehangu eu gorwelion.
Rydym yn cefnogi gwelliant 8, ond rwyf ychydig yn ddrwgdybus o welliant 9. Efallai mai'r ffordd y cafodd ei eirio yw'r broblem, ond credaf ei fod yn gofyn gormod i blant mor ifanc ag wyth oed ysgwyddo cyfrifoldeb am roi meddyginiaeth neu driniaeth uniongyrchol i rywun arall. Efallai y bydd eich manylion pellach yn rhoi rhywfaint o sicrwydd inni ar hyn, ond ni allwn gefnogi'r geiriad, mae'n ddrwg gennyf.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r aelodau o'r gymuned sy'n gofalu am ofalwyr—sydd efallai'n diwallu eu hanghenion, sydd wedi'u hasesu neu beidio. Bydd gan bawb ohonom enghreifftiau yn ein rhanbarthau neu yn ein hetholaethau, ond rwy'n hoff iawn o un Louise Barham, sydd wedi sefydlu 'caffi lôn y cof' yn y Pîl. Fel y byddwch yn sylweddoli mae'n debyg, mae'n gyfle i bobl â dementia fynd allan i gymdeithasu, a rhannu gweithgareddau o bosibl, ond ei werth mwyaf, rwy'n credu, yw ei fod yn rhoi cyfle hefyd i ofalwyr dreulio amser gyda phobl eraill sy'n wynebu'r un trafferthion, yr un euogrwydd, yr un galar, ac i gael cysur o gwmni ei gilydd. Ni fydd strategaethau Llywodraeth byth yn disodli caredigrwydd dynol, ond rhaid inni wneud yn siŵr nad oes dim yn cael ei roi yn ei ffordd. Diolch i chi.