Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Cytunaf yn llwyr gyda'r cynnig ger ein bron, ac nid yw fy ngwelliant ond yn ceisio tynnu sylw at y cyfraniad amhrisiadwy y mae byddin Cymru o ofalwyr di-dâl yn ei wneud.
Byddai'n rhaid i ni fwy na dyblu ein holl gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol oni bai am y miloedd o bobl sy'n gofalu am rywun annwyl, ffrind neu gymydog. Mae maint eu cyfraniad yn profi, heb rithyn o amheuaeth, fod Cymru'n genedl sy'n gofalu, ond pwy sy'n gofalu am y gofalwyr? Yn anffodus, nid oes digon yn cael ei wneud i gefnogi gofalwyr, ac oherwydd diffyg cefnogaeth, mae llawer yn ei chael hi'n anodd. Nid yw dau o bob tri gofalwr yn cael digon o gwsg. Nid yw dros eu hanner yn cael digon o ymarfer corff ac wedi dioddef iselder oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Os nad ydym yn edrych ar ôl y gofalwyr hyn, bydd angen gofal arnynt hwy. Roedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i fod i wella'r cymorth i ofalwyr, ond y gwir trist amdani yw nad yw llawer o ofalwyr yn cael yr asesiad o anghenion gofalwyr y mae ganddynt hawl iddo.
Canfu adroddiad 'Care in Crisis?' Age Cymru amrywiad eang yn nifer y bobl dros 65 oed sy'n cael asesiadau o angen, a phan fo pecynnau gofal yn cael eu darparu, yn aml nid oedd unrhyw gymorth yn ystod y nos ar gael. Mae angen cymorth a chefnogaeth ar ofalwyr o bob oed, ac rwy'n gobeithio y bydd adolygiad y Gweinidog o'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn ymdrin â'r amrywio yn y cymorth o un awdurdod lleol i'r llall. Rhaid inni roi diwedd ar ddiffyg cymorth ddydd a nos, rhoi diwedd ar aros tair i bedair blynedd am ofal seibiant dros nos, a rhoi diwedd ar ofalwyr yn darparu dros 50 awr o ofal heb fawr ddim cymorth os o gwbl.
Er nad wyf yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru yn galw am ddatganoli lles, rhaid gwneud newidiadau i'r system fudd-daliadau. Mae'n warthus fod gofalwyr ifanc yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng mynd ar drywydd addysg amser llawn, addysg bellach ac addysg uwch, neu barhau i gael lwfans gofalwr. Mae'n warthus fod lwfans gofalwyr yn is nag unrhyw fath o fudd-daliad o'i fath, ac mae'n warthus fod y rheini sy'n amlwg yn methu gweithio yn colli eu budd-daliadau, gan eu gorfodi hwy a'u gofalwyr i fyw mewn mwy o dlodi. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am ddiwygiadau lles sy'n deg ac yn gyfiawn.
Wrth i ni ddathlu Wythnos y Gofalwyr, mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom i wneud mwy i gefnogi gofalwyr di-dâl. Mae Llywodraeth Cymru yn credu eu bod wedi gwneud hynny gyda chyflwyno'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ond mae'n amlwg nad yw'n gweithio fel y bwriadwyd iddi wneud gan nad yw dwy ran o dair o'r gofalwyr wedi cael cynnig neu wedi gofyn am asesiad o anghenion, ac mae tri chwarter y gofalwyr yn dweud nad ydynt yn cael unrhyw gymorth o gwbl gan eu meddyg teulu. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy.
Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig a'r holl welliannau, ac eithrio gwelliannau 1 a 4. Drwy wneud hynny, byddwn yn dangos i 370,000 o ofalwyr Cymru faint rydym yn eu gwerthfawrogi ac y byddwn yn gwneud mwy i'w cefnogi yn y dyfodol. Diolch yn fawr.