Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 13 Mehefin 2018.
Hoffwn innau hefyd ddechrau fy nghyfraniad, fel y mae pawb arall wedi gwneud, drwy ddiolch o galon i holl ofalwyr Cymru sydd ar ddyletswydd 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ac yn anaml iawn yn cael amser iddynt eu hunain. Fel y dywedodd eraill, hebddynt yn wir ni fyddai ein cymdeithas yn gallu gweithredu. Cefais fy syfrdanu gan ffigurau Suzy Davies fod niferoedd y gofalwyr mewn gwirionedd yn fwy na'n GIG yn ei gyfanrwydd, a chredaf y dylem fyfyrio'n ofalus iawn ar hynny.
Mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi bod yn ofalwyr neu'n mynd i fod yn ofalwyr yn y dyfodol—er enghraifft, drwy fod yn rhiant. Ond wrth gwrs, mae pen draw i'r mathau hynny o rolau gofalu. Mae plant yn tyfu fyny yn y pen draw ac yn gadael cartref, gobeithio, ac nid oes raid ichi fod yn gyfrifol amdanynt mwyach. Ond wrth gwrs, os ydych yn ofalwr, rydych yn gofalu am rywun nad yw byth yn mynd i adael cartref. Rydych yn gofalu am rywun nad yw byth yn mynd i wella, ac a fydd bob amser yn dibynnu arnoch chi i ofalu amdanynt. Nid oes gennych unrhyw olau ar ben draw eich twnnel. Felly, mae'n ddyletswydd arnom i gynnig rhywfaint o'r golau hwnnw.
Fel Aelod Cynulliad dros etholaeth, mae llawer o fy ngwaith achos yn dod â mi i gysylltiad â gofalwyr o bob oed, ac rydym wedi trafod gofalwyr hŷn yn eithaf mynych yn y Siambr a'r math o gymorth sydd ei angen arnynt. Cefais un achos a ddaeth ataf yr wythnos diwethaf. Cymydog oedd hi mewn gwirionedd, ac mae ganddi hi gymydog oedrannus iawn, sydd heb neb ar ôl yn y byd hwn. Mae angen i'r cymydog oedrannus fynd i Ysbyty Treforys am driniaeth, felly mae'r gymdoges—nad oes ganddi lawer o arian ac mae ei char yn hen ac wedi gweld dyddiau gwell—yn mynd â hi unwaith neu ddwy bob mis am y driniaeth hon. Yn y bôn cysylltodd â mi i ddweud, 'Rwy'n hapus iawn i'w wneud. Nid oes ots gennyf ei wneud. Ni allaf fforddio'r arian petrol. Sut y gallwch chi helpu?' Mae'r unigolyn yn cyflawni'r swyddogaeth ofal hon. Felly, nid yw bob amser wedi'i reoleiddio. Nid yw bob amser, wyddoch chi, yn fater o fod rhywun yn gofalu am rywun arall yn llawn amser. Mae'n fater o garedigrwydd dieithriaid, a dyna sy'n rhaid i ni ei argymell a'i ehangu, ond mae angen inni gefnogi'r caredigrwydd hwnnw gan ddieithriaid.
Am weddill fy nghyfraniad rwyf am sôn am ofalwyr ifanc yn fyr iawn, a gwn fod Bethan wedi gwneud pwyntiau da iawn. Pan oeddwn yn Aelod Cynulliad newydd iawn, euthum i gyfarfod â gofalwr ifanc yn Noc Penfro, ac roedd newydd gael ei chadw i mewn yn yr ysgol. Ar yr adeg honno, credaf ei bod tua 13 a hanner neu 14 oed. Nid oedd wedi gallu rhoi ei gwaith cartref i mewn ar amser. Pan gyrhaeddais ei chartref, cefais fraw o weld ei bod yn edrych ar ôl ei mam a oedd yn dioddef o iselder drwg iawn. Roedd ei mam yn dioddef o iselder oherwydd ei bod yn edrych ar ôl ei mab hŷn anodd, awtistig, a'i gŵr a oedd mewn cadair olwyn. Felly, roedd un ferch fach yn ysgwyddo baich y teulu cyfan hwnnw. Nid oedd gan yr ysgol unrhyw syniad fod ganddi'r fath gyfrifoldeb gofalu, felly pan ai i'r ysgol yn edrych yn hŷn na finnau mae'n siŵr, nid oedd ganddynt unrhyw gydymdeimlad â'r ffaith nad oedd hi wedi gallu gwneud ei gwaith cartref.
Felly, Weinidog, fy nghwestiwn cyntaf i chi yw hwn: rwyf am sôn am y pwynt a wnaeth Bethan hefyd ynglŷn â sut y mae'n rhaid inni sicrhau bod ysgolion yn ymateb i bobl ifanc sy'n ofalwyr. Bydd gofalwyr ifanc yn colli gwerth tua 48 diwrnod o ysgol ar gyfartaledd. Mawredd. Os ydych yn ei ddweud yn gyflym, nid yw'n swnio'n llawer iawn, ydy e? 48 diwrnod. Dyna dros naw wythnos a hanner o ysgol. Nid colli ysgol drwy chwarae triwant neu fynd ar wyliau gyda'ch ffrindiau neu beth bynnag yw hynny. Mae hynny oherwydd eich bod yn edrych ar ôl rhywun ac rydych wedi blino gormod i ddod yn ôl i mewn. Weinidog, hoffwn weld rhyw fath o system lle mae pob plentyn ym mhob ysgol, os oes ganddynt gyfrifoldeb gofalu, yn cael eu cofrestru, yn cael eu cofnodi, yn cael cymorth bugeiliol, ac yn cael oedolyn arall sy'n fwy na hwy, gydag ysgwyddau ychydig yn fwy, sy'n gallu eu helpu i ymladd eu ffordd drwy'r sefyllfa anodd iawn y maent ynddi.
Rwyf am gyflwyno un achos arall i chi: bachgen ifanc a'i fam. Byddai'r bachgen ifanc yn dod adref bob dydd, ei galon yn curo'n galed, yn gobeithio y bydd ei fam yn iawn. Roedd ganddi salwch a olygai y byddai'n cwympo i'r llawr yn gwbl ddirybudd. Roeddent yn byw mewn tŷ â grisiau. Roedd yr unig doiled yn y tŷ i fyny'r grisiau. Felly, byddai ofn arno y byddai hi'n mynd i fyny'r grisiau yn ystod y dydd ac y byddai'n disgyn i lawr y grisiau. Ar ôl llawer o lobïo, llwyddasom i gael y cyngor sir i ddod o hyd i fyngalo i'r uned deuluol honno symud i mewn iddo. Problem wedi'i datrys, ond fe ddywedodd y cyngor, 'Na, fe allwch gael y byngalo newydd hyfryd hwn, ond wyddost ti beth, fachgen bach? Mae angen cael gwared ar dy gi anwes.' Dewch. Rhaid inni fod yn fwy caredig. Rydym yn dweud ein bod fel cymdeithas yn dibynnu ar garedigrwydd dieithriaid i helpu i unioni'r diffyg yn ein system am nad oes gennym ddigon o arian, am nad oes gennym ddigon o bobl, ond mawredd, rydym yn gosod rhwystrau yn y system honno. Ac weithiau nid yw'r wladwriaeth ei hun yn dangos y caredigrwydd y gofynnwn amdano.
Felly, Weinidog, cerdyn neu ryw fath o gydnabyddiaeth fod pob plentyn yn yr ysgol yn cael ei nodi. Ac yn olaf, ffordd integredig o sicrhau bod gofalwr ifanc yn cael rhyw fath o gymorth sy'n cydberthyn o fewn y cynghorau sir lleol neu ofalwr cymdeithasol iddynt i'w helpu i ddeall y sefyllfa. Nid ydynt am osgoi cyfrifoldeb; maent yn caru'r aelod o'u teulu, ond mae angen ein help arnynt. Plant ydynt yn gyntaf. Hyd yn oed os ydynt yn 16 neu'n 17, mae'n dal i fod yn faich anferth a thrwm.