7. Dadl Plaid Cymru: Ariannu Ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:25, 13 Mehefin 2018

A ble mae hyn yn ein gadael ni? Wel, rŷm ni'n gwybod bod ysgolion ar draws Cymru yn wynebu sefyllfa lle nad oes modd osgoi gwneud toriadau sylweddol er mwyn ymdopi â’r diffyg ariannol, ac y mae hynny yn golygu, wrth gwrs, toriadau i lefelau staffio, i adnoddau, i gyfleoedd dysgu proffesiynol athrawon, a nifer fawr o agweddau eraill ar weithgaredd yr ysgolion. Mae’r undebau athrawon wedi tynnu’n sylw ni at rai o’r enghreifftiau yma. Mae llai o athrawon, yn anochel, yn mynd i olygu bod maint dosbarthiadau yn mynd i gynyddu—rhywbeth rydw i'n gwybod sy’n agos at galon yr Ysgrifennydd Cabinet; llai o sylw unigol i’r dysgwyr; a chynnydd mewn llwyth gwaith i staff, wedyn, wrth gwrs, yn enwedig o safbwynt marcio ac asesu, a hynny yn ei dro—ac mi ddown ni at hyn hefyd yn nes ymlaen—yn arwain at fwy o straen a mwy o salwch tymor hir mewn sawl achos.

Mae yna ddibyniaeth gynyddol ar staff cynorthwyol yn hytrach nag athrawon cymwysedig. Mae’r gymhareb staff-plant yn gwaethygu, fel yr oeddwn i'n sôn, ac mae’n gynyddol heriol i roi’r sylw dyledus i bob plentyn. Mae yna ddibyniaeth gynyddol hefyd, wedyn, wrth gwrs, ar benaethiaid, yn enwedig mewn ysgolion bach. Nawr, mae gan benaethiaid yn aml amserlen ddysgu eu hunain, wrth gwrs, ond yn gorfod gwneud oriau dysgu ychwanegol er mwyn sicrhau bod eu staff nhw yn cael eu hamser cynllunio, paratoi ac asesu statudol. O ganlyniad, nid ydyn nhw'n derbyn yr amser y mae ei angen arnyn nhw i reoli yr ysgol fel y dylen nhw ei gael.

Mae yna effeithiau negyddol ar y cwricwlwm yn benodol hefyd, wrth gwrs. Mae lleihad yn nifer yr oriau cyswllt i bynciau cwricwlaidd yn un amlwg, athrawon yn aml yn gorfod dysgu ystod ehangach o bynciau, sydd wedyn yn golygu eu bod nhw’n dysgu llai o oriau o fewn eu harbenigedd hefyd, wrth gwrs, a phynciau weithiau, yn ôl rhai o’r undebau, yn diflannu’n llwyr o’r cwricwlwm—cerddoriaeth, drama, ieithoedd tramor modern, pynciau galwedigaethol—am nad oes modd, yn aml iawn, cyfiawnhau rhedeg cwrs gyda nifer cymharol fach o ddisgyblion hefyd. Mae hynny’n cael effaith.

Rydym yn gweld dwysáu cystadleuaeth ddiangen, yn fy marn i, am ddisgyblion, oherwydd yr arian sy’n dod gyda nhw, nid yn unig rhwng ysgolion ond yn enwedig, wrth gwrs, rhwng ysgolion a cholegau addysg bellach yn y sector ôl-16. Mae yna effeithiau negyddol ar amodau gwaith hefyd. Rydym yn gweld defnydd amhriodol o athrawon yn cyflenwi yn lle eu cydweithwyr weithiau, pan maen nhw mewn sefyllfa o fod dan bwysau. Mae yna ailstrwythuro lwfansau yn digwydd, er bod y cyfrifoldebau ychwanegol yna yn dal yn angenrheidiol. Mae staff yn cytuno i leihau oriau mewn rhai amgylchiadau yn hytrach na chael eu diswyddo, ac, wrth gwrs, os ydyn nhw wedyn yn cael eu diswyddo, mae’r tâl diswyddo hwnnw yn seiliedig ar y cyflog rhan-amser. Mi allwn i fynd ymlaen. 

Yn naturiol, mae’r bygythiadau parhaol yma i swyddi yn creu awyrgylch o ofn ac o ddigalondid ymhlith y proffesiwn. Maent yn tanseilio amodau gwaith ac yn achosi straen a salwch, fel roeddwn yn ei ddweud. Rydw i wedi cyfeirio at y ffigurau yma yn y gorffennol: mae 90 y cant o athrawon yn dweud erbyn hyn na fedran nhw reoli eu llwyth gwaith o fewn yr oriau y maen nhw wedi eu cytundebu i’w gweithio. Mae Estyn yn dweud bod athrawon yng Nghymru yn gweithio, ar gyfartaledd, 50 awr yr wythnos, ac nid oes rhyfedd, felly, ein bod ni wedi gweld nifer y dyddiau gwaith y mae athrawon yn eu colli o ganlyniad i stres wedi mwy na dyblu yn y blynyddoedd diwethaf i dros 50,000 o ddyddiau gwaith y flwyddyn.

A’r eironi pennaf, wrth gwrs, yw bod hyn oll yn mynd yn uniongyrchol yn erbyn uchelgais Llywodraeth Cymru o ran symud tuag at y cwricwlwm newydd—rhywbeth yr ydym i gyd, wrth gwrs, yn awyddus i’w weld: cwricwlwm a fydd yn eang, yn hyblyg ac yn rhyngddisgyblaethol—heb sôn, wrth gwrs, am awydd y Llywodraeth i hyrwyddo pethau fel ieithoedd tramor modern, y pynciau STEM yr oeddwn i’n sôn amdanyn nhw, lle'r ydym ni'n awr yn stryglo i weld y rhannau yna o’r cwricwlwm yn cael eu delifro fel y liciem ni. Mae uchelgais y Llywodraeth i roi cefnogaeth i’n disgyblion mwyaf bregus yn cael ei danseilio, ac i drawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol, fel rŷm ni wedi ei weld, a chyrraedd yr 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg—mae hyn oll yn cael ei danseilio gan y sefyllfa ariannu sydd yn wynebu yr ysgolion.       

Nawr, mae’r toriadau yma, fel yr ŷm ni i gyd yn ei wybod, eisoes wedi effeithio ar lawer o weithgareddau anstatudol—mae gwersi offerynnol ac yn y blaen yn cael eu codi yn y Siambr fan hyn yn gyson—ond nawr mae’r toriadau yn brathu i’r fath raddau fel eu bod nhw yn bygwth y gofynion statudol.