Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 13 Mehefin 2018.
Nawr, mae pawb yn deall bod y sefyllfa yma yn deillio o'r setliad ariannol y mae awdurdodau lleol wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru, a bod setliad Llywodraeth Cymru, yn ei dro, yn deillio o'r setliad gan Lywodraeth San Steffan. Ond, erbyn hyn, wrth gwrs, mae'r sefyllfa wedi cyrraedd pwynt lle bydd yr effaith ar y proffesiwn a'r disgyblion, fel ei gilydd, mor niweidiol fel bod yn rhaid inni ystyried y sefyllfa yma yn argyfwng. Mae'n rhaid inni felly godi llais yn erbyn y parhad yma o safbwynt y toriadau, ac mae'n rhaid inni hefyd weld beth allwn ni ei wneud i gydweithio yn fwy effeithiol i leihau'r effaith andwyol yma y mae'n ei chael ar ein hysgolion ni.
Felly, mae cynnig Plaid Cymru, yn ei hanfod, yn galw am dri pheth. Mae'r amser wedi dod inni ddwyn ynghyd holl randdeiliaid allweddol y system addysg yng Nghymru i ystyried pa opsiynau sydd yna, mewn gwirionedd, i edrych eto ar y modd y mae ysgolion yng Nghymru yn cael eu hariannu. Rwy'n dweud hynny oherwydd yr ail bwynt sydd yn y cynnig, sef bod y tirlun ariannu ysgolion yng Nghymru, fel y mae hi ar hyn o bryd, yn un dyrys, yn un aml-haen a biwrocrataidd ac, yn wir, yn un anghyson ar draws Cymru. O ganlyniad, wrth gwrs, nid yw hynny'n gydnaws â chyfundrefn sydd yn dryloyw, lle mae modd sicrhau atebolrwydd a dal pobl i gyfrif hefyd. Mi ymhelaethaf ychydig ynglŷn â hynny.
Rwyf wedi codi yn y gorffennol y modd y mae'r Llywodraeth yn ariannu'r gyfundrefn addysg, a sut y mae'r pres yn cyrraedd ysgolion mewn sawl ffordd wahanol—yn bennaf, wrth gwrs, drwy awdurdodau lleol. Mae'r rhan fwyaf o'r arian yn mynd drwy'r grant cefnogi refeniw, yr RSG, a pheth yn mynd ar ffurf grantiau penodol at ddibenion penodol, wedi cael eu 'ring-fence-io'. Mae'r Llywodraeth hefyd yn darparu peth arian ar gyfer y consortia addysg. Mae peth arian yn mynd yn fwy uniongyrchol at yr ysgolion drwy grantiau a rhaglenni eraill. Wedyn, mae ariannu chweched dosbarth, wrth gwrs, yn digwydd drwy gyfundrefn wahanol eto, ac rŷm ni'n dechrau gweld, rwy'n credu, pa mor ddryslyd y mae'r dirwedd yna yn gallu bod. Wedyn, ychwanegwch chi at hynny y ffaith bod gennych chi 22 awdurdod lleol, 22 fformiwla ariannu gwahanol ym mhob sir, ac mae'r sefyllfa'n dwysau.
Mae anghysondebau hefyd i'w gweld, os caf i ddweud, yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at y modd y mae cyllid yn cael ei dargedu i wella canlyniadau addysgol. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r pwyllgor addysg wedi cyfeirio ato a thynnu sylw ato ar sawl achlysur. Rŷm ni'n cofio'r modd yr aeth y Llywodraeth ati i ddileu'r grant gwella addysg ar gyfer dysgwyr sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr a lleiafrifoedd ethnig, a'i brif-ffrydio i mewn i'r RSG, gan honni nad oedd hynny'n mynd i arwain at golli'r canlyniadau addysgiadol yr oedd y Llywodraeth yn dymuno eu sicrhau pan oedd y grant wedi'i neilltuo.
Ond wedyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn amddiffyn yn gryf yr angen am arian penodol wedi'i neilltuo ar gyfer y PDG er mwyn sicrhau canlyniadau addysgol ar gyfer y rhai sydd yn gymwys am ginio ysgol am ddim. Felly, mae'r ddau safbwynt yna gan yr un Llywodraeth yn gwrth-ddweud ei gilydd i bob pwrpas, ac rwy'n meddwl bod hynny'n enghraifft, efallai, o'r anghysondeb rydym yn dod ar ei draws yn gyson o fewn y gyfundrefn ariannu.
A gaf i fod yn glir fan hyn? Nid yw Plaid Cymru, yn sicr, yn galw am ariannu uniongyrchol i ysgolion—rhag ofn bod unrhyw un yn meddwl mai dyna le rwy'n mynd ar hwn. Rŷm ni'n gweld rôl allweddol i awdurdodau lleol yn hyn o beth fel modd i sicrhau bod mwy o gydlynu, bod mwy o gysondeb. Mae'n dod â chyfle i rannu arbenigedd, rhannu adnoddau, yr holl economies of scale, a'r holl resymau eraill mae eraill eisoes yn y gorffennol wedi'u hamlinellu dros sicrhau bod yna gydgordio yn digwydd ar lefel leol. Ond, rwy'n meddwl bod yna le i edrych ar greu cyfundrefn fwy syml a mwy cyson. Mae awdurdodau lleol ac ysgolion wedi bod yn galw hefyd, er enghraifft, am gyllidebu mwy tymor hir, a fyddai'n caniatáu iddyn nhw gynllunio'n fwy effeithiol a defnyddio'r pres yn fwy effeithlon yn sgil hynny, yn enwedig o safbwynt materion staffio.
Rwy'n sylweddoli bod yr amser yn mynd. Mae rhai rhanddeiliaid, gan gynnwys rhai o'r undebau athrawon, wedi galw am fformiwla ariannu genedlaethol er mwyn dod â'r loteri cod post yna i ben—roeddwn yn sôn amdani gynnau: y £1,000 o wahaniaeth yna—a rhoi i bob disgybl yr un hawl, medden nhw, a chyllideb deg. Mae hynny'n dod â ni at drydydd pwynt y cynnig: beth fyddai'n cynrychioli cyllid teg? A oes gan y Llywodraeth syniad o faint y maen nhw'n credu y dylid ei wario fesul disgybl er mwyn sicrhau bod pob un yn derbyn addysg safonol? Nid wyf yn siŵr. Mae pobl yn cymharu'n aml iawn Cymru a Lloegr, ac rwy'n meddwl bod honno'n ddadl ffug, ond mi wnaf i ymateb i rai o'r gwelliannau eraill ar y diwedd.
Mae’r NAHT wedi dweud bod angen archwiliad cenedlaethol o gyllid ysgolion er mwyn sicrhau bod adnoddau digonol yn y system i alluogi ysgolion i gyflwyno’r agenda o ddiwygio cyffrous yma yr ydym ni i gyd am ei weld. Rwy’n meddwl y byddai hynny yn syniad da. Mi fyddai archwiliad neu awdit cenedlaethol yn rhoi darlun cliriach, mwy gonest i ni o’r sefyllfa gyfredol ymhob rhan o Gymru, ac yn fan cychwyn, rwy’n meddwl, ar gyfer y drafodaeth genedlaethol yma sydd ei hangen ar ariannu ysgolion yng Nghymru.
Fel yr oeddwn i’n dweud, gwnaf i ddelio â’r gwelliannau wrth gloi, ar ôl clywed yr holl gyfraniadau. Ond, fel y dywedais ar y dechrau, nid jest dadl yn dweud, 'Rhowch fwy o arian i ysgolion' yw hon. Rwyf i yn deall realiti llymder, ond rwyf hefyd yn grediniol mai adeg o lymder yw’r amser pwysicaf i fuddsoddi yn ein plant a’n pobl ifanc, er mwyn eu harfogi nhw a’u hymbweru nhw i adeiladu dyfodol gwell a mwy llewyrchus na’r un y maen nhw wedi ei etifeddu. Ac os na fydd y Llywodraeth yma yn blaenoriaethu ariannu addysg yn ddigonol, yna mi fyddwn ni i gyd yn talu’r pris.